Tad a mab yn cael buddsoddiad ecwiti saith ffigur i hybu cynhyrchiant

Jo-Thomas
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Mallows Bottling

Mae Mallows Bottling, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cynyddu cynhyrchiant gyda buddsoddiad ecwiti saith ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru a fydd yn mwy na threblu capasiti'r cwmni ac yn creu 18 o swyddi newydd.

Wedi’i sefydlu yn 2021 gan y Cyfarwyddwyr Andrew Mallows a’i fab Rhys, sy'n 28 oed, mae’r busnes gweithgynhyrchu o Donyrefail yn darparu gwasanaeth potelu dan gontract i fanwerthwyr blaenllaw yn y diwydiant gwirodydd a diodydd meddal rhyngwladol.  Mae ei gyfleuster pwrpasol 30,000 troedfedd sgwâr wedi'i achredu gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain a gall lenwi hyd at 90 miliwn o boteli y flwyddyn. 

Bydd y buddsoddiad gan y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio i dalu am beiriant llenwi newydd sy'n gallu cynhyrchu hyd at 6,000 o boteli yr awr, gan greu pum llinell gynhyrchu gyflym. Enillodd y cwmni Wobr “Busnes Bwyd a Diodydd Cymru yn Cynyddu” yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru ym mis Mai 2024, yn ogystal ag ennill “Gwobr Bwyd a Diod” yng ngwobrau Insider Made in Wales yn 2023. 

Gan gyfeirio at y buddsoddiad, dywedodd Rhys Mallows: “Rydym yn falch o fod wedi cael ein geni a'n magu yng Nghymru, felly roedd yn bwysig ein bod ni'n dod o hyd i bartner cyllido a oedd yn deall ein model busnes ac yn darparu datrysiad sy'n ein galluogi i gyflawni ein cynlluniau twf. Y Banc Datblygu yn bendant yw'r cyllidwr iawn i ni ac rydym wedi ein plesio'n fawr gan ei gefnogaeth hyd yn hyn. 

“Mae’r buddsoddiad ecwiti yn golygu y gallwn nawr barhau i ateb y galw gan fuddsoddi mewn llinellau cynhyrchu ychwanegol a fydd yn hybu cynhyrchiant wrth i ni ehangu ein harlwy potelu a dosbarthu i farchnadoedd y DU a marchnadoedd rhyngwladol sy'n ehangu.”

Mae Joanna Thomas yn Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Mallows Bottling yn fusnes teuluol sydd wedi mynd o nerth i nerth ers iddo agor gyntaf yn 2021. Gyda phortffolio trawiadol o gwsmeriaid sy'n cynnwys llawer o fanwerthwyr mwyaf blaenllaw'r DU a chynlluniau cyffrous i ehangu'r farchnad allforio, bydd ein datrysiad cyllido pwrpasol sy'n cynnwys cymysgedd o wariant cyfalaf a chyfalaf twf yn helpu'r tîm i gynyddu cynhyrchiant a chyflawni twf cynaliadwy hirdymor a fydd o fudd i gymuned leol Rhondda Cynon Taf ac economi Cymru yn gyffredinol.”

Daeth y buddsoddiad ar gyfer Mallows Bottling o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru ac maent yn amrywio o £25,000 i £10 miliwn.