Parc tonfyrddio awyr agored a chanolfan ddringo yn parhau ar daith tuag at gynaliadwyedd gyda phaneli solar newydd

Nakeja Howell
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Cynaliadwyedd
Wild Lakes

Mae Wild Lakes, sydd wedi’i leoli yn Arberth, Sir Benfro, wedi symud i ynni solar ar ôl cael benthyciad gwerth £40,700 gan Fanc Datblygu Cymru, drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Yr atyniad yw parc tonfyrddio cyntaf Cymru, ac mae’n prysur ddatblygu i fod yn brif ganolfan tonfyrddio Cymru, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn ogystal â’i barc dŵr ar y safle, mae hefyd yn gartref i wal ddringo fawr dan do, ac mae’n cynnig bwyd stryd yn arddull De America yn ei dipis. 

Mae’r aráe paneli solar 20kWh newydd wedi galluogi perchnogion Wild Lakes i newid o ddefnyddio peiriant disel i bweru’r ceblau sy’n creu’r tonnau artiffisial yn ei barc tonfyrddio i ddefnyddio ynni solar, glanach. Yn ogystal â phweru’r ceblau tonfyrddio, mae cynlluniau hefyd ar y gweill i ddefnyddio’r aráe paneli solar newydd i bweru’r holl offer coginio yng ngegin Wild Lakes.

Mae’r benthyciad yn dilyn buddsoddiad cynharach o £50,000 gan y Banc Datblygu yn Wild Lakes yn 2023.

Dywedodd Mark Harris, cyd-sylfaenydd Wild Lakes: “Fel busnes awyr agored yn un o amgylcheddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, mae ein heffaith amgylcheddol ar flaen ein meddyliau ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni am gymryd pob cam posibl i leihau ein defnydd o ynni a’n hôl troed carbon. Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn rhywbeth sydd hefyd yn bwysig iawn i’n cwsmeriaid, sydd wrth eu bodd â’r amgylchedd sydd gennym ni yma ac eisiau gweithio gyda busnesau ac atyniadau sy’n gweithio’n galed i’w ddiogelu.

“Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu ei bod yn bosibl i ni symud o fathau hŷn o bŵer i ynni newydd, glanach, ac mae’n rhoi’r seilwaith sydd ei angen arnom i wneud gwelliannau tebyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Nakeja Howell, y Deilydd Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Wild Lakes yn safle gwych wedi’i amgylchynnu â rhai o’r golygfeydd naturiol gorau yng Nghymru, felly mae’n gwneud synnwyr perffaith iddyn nhw gymryd cam fel hyn i leihau’r effaith maen nhw’n ei chael ar yr amgylchedd o’u cwmpas.

“Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd ar gael i gefnogi busnesau fel Wild Lakes sydd eisiau cymryd y cam nesaf, ond nad ydynt efallai’n gwybod ble mae dechrau. Mae wedi rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i symud i ffwrdd o fathau hŷn o ynni a pharatoi eu hunain am newidiadau tebyg yn y dyfodol, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu eu helpu ar hyd y ffordd.”

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn agored i fusnesau ledled Cymru sy’n awyddus i leihau eu hôl troed carbon neu leihau eu defnydd o ynni.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://developmentbank.wales/cy/angen-busnes/cynllun-benthyciadau-busnes-gwyrdd