PlantSea yn cloi rownd gyllido gyda buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru

Gareth-Mayhead
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Twf
Busnesau newydd technoleg
Plantsea

Mae busnes biotechnoleg newydd o Lanelwy yn mynd i'r afael â llygredd plastig, ar ôl llwyddo i gau rownd gyllido sylweddol gwerth cyfanswm o dros £800,000. Mae’r rownd cyn-sbarduno yn cynnwys buddsoddiad ecwiti o £220,000 gan Fanc Datblygu Cymru, ochr yn ochr â chyllid gan Bartneriaethau Buddsoddwyr Innovate UK, Sustainable Ventures ac SFC Capital.

Gan ddefnyddio gwymon o ffynonellau cynaliadwy o'r Alban, mae PlantSea wedi datblygu technoleg bioburo unigryw i gynhyrchu ffilm hyblyg arloesol wedi'i gwneud o wymon sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n dal hylifau a chynhyrchion sych fel cynhyrchion golchi dillad. Mae'n dynwared prif nodweddion plastig ond mae'n gwbl fioddiraddadwy. Bydd buddsoddiad y Banc Datblygu yn cael ei ddefnyddio i gyflymu datblygiad y cynnyrch gyda chwsmeriaid rhyngwladol allweddol yn y sectorau golchi dillad a glanhau. Mae portffolio cynnyrch PlantSea hefyd yn cynnwys ffilm tomwellt fioddiraddadwy a phapur wedi'i drwytho â gwymon. 

Sefydlwyd PlantSea yn 2020 gan Rhiannon Rees, Dr. Alex Newnes a Dr Gianmarco Sanfratello. Cafodd y cwmni ardystiad ailgylchu OPRL ym mis Ebrill 2024 ac mae bellach yn cyflogi deg o bobl. 

Meddai'r Prif Weithredwr Rhiannon Rees: “Rydym yn falch iawn o gael cymorth ariannol gan Fanc Datblygu Cymru. Ein cenhadaeth yn PlantSea yw cynnig gwell dewisiadau i ddefnyddwyr o ran deunydd pecynnu ar gyfer cynhyrchion bob dydd. Drwy fynd i’r afael â phlastig niweidiol sy’n cael ei ryddhau i’n hamgylchedd a’n systemau dŵr, gallwn gyfrannu at leihau llygredd ac allyriadau CO2.”

“Fe ddechreuon ni ein taith tra roeddem ym Mhrifysgol Aberystwyth - lle a ddylanwadodd ar ein cariad tuag at y môr. Rydym bellach mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth mawr drwy gynnig dewisiadau amgen sy'n gynaliadwy ond sydd hefyd yn economaidd hyfyw. Mae cefnogaeth ein partneriaid cyllido yn golygu y gallwn barhau â'n gwaith ymchwil a datblygu i symud y tu hwnt i gynhyrchu ar raddfa labordy a dechrau cyflwyno ein cynnyrch i’r farchnad.”

Mae Gareth Mayhead yn Swyddog Buddsoddi yn nhîm Buddsoddiadau Menter Technoleg y Banc Datblygu. Meddai: “Lleihau’r defnydd o ddeunydd pacio plastig a deunydd pacio nad yw’n fioddiraddadwy yw’r ffordd fwyaf effeithiol o osgoi anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi a mynd i’r afael â llygredd yn ein moroedd.  Mae PlantSea yn dod i'r amlwg fel arweinydd cyffrous mewn deunyddiau bioddiraddadwy y gellir eu compostio ar draws nifer o ddiwydiannau gwahanol. Mae’r rownd fuddsoddi ddiweddar yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith y cwmni i hyrwyddo agwedd fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar tuag at ddeunydd pacio.”

Daeth y buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £100,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg o Gymru a’r rhai sy’n fodlon adleoli i Gymru.