Cartrefi Gwyrdd Cymru - Hysbysiad preifatrwydd

Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Gartrefi Gwyrdd Cymru, neu pryd bynnag y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, dim ond yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn y byddwn yn ei defnyddio.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, cynllun a weinyddir gan ‘Buddsoddiadau BDC (11) Cyfyngedig / DBW Investments (11) Limited, sy'n is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru ccc. Pryd bynnag y defnyddir y termau ’CGC’, ‘ni’, ’ninnau’ neu ‘ein’ yn yr hysbysiad hwn, mae'n golygu cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, fel y'i gweinyddir gan Buddsoddiadau BDC (11) Cyfyngedig / DBW Investments (11) Limited.

Am ein rhestr lawn o ddogfennau preifatrwydd cliciwch yma.

Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethu ar ein tudalen llywodraethu.

Ein Hegwyddorion Preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu:

  • Dim ond gwybodaeth bersonol a fydd yn ein helpu ni i'ch helpu chi y byddwn yn gofyn i chi ei rhoi i ni.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch, gan gynnwys amgryptio, i atal mynediad heb awdurdod at eich gwybodaeth bersonol.

  • Dim ond gyda chwmnïau eraill yng Ngrŵp BDC, gyda chyflenwyr sy'n cyflawni gwasanaethau ar ein rhan, ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn, y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol.

  • Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol.

Pwy ydym ni

Mae'r adran hon yn rhoi enw cyfreithiol y cwmni sy'n dal eich gwybodaeth bersonol i chi - a elwir yn 'endid cyfreithiol' - ac yn dweud wrthych sut allwch gysylltu â ni.

Banc Datblygu Cymru Cyf (Development Bank of Wales Plc) yw cwmni daliannol Grŵp sy'n masnachu fel 'Banc Datblygu Cymru'. Mae'r Grŵp yn cynnwys nifer o is-gwmnïau sydd wedi'u cofrestru gydag enwau gan gynnwys y llythrennau cyntaf BDC/DBW.

Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf yn gwmni cyllid datblygu sy'n eiddo llwyr i Weinidogion Cymru; nid yw wedi'i awdurdodi na'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (ARhD) na'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).

Mae gan Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf dair is-gwmni sydd wedi'u hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr AYA. Sylwch nad yw Banc Datblygu Cymru Cyf nac unrhyw un o'i is-gwmnïau yn sefydliadau bancio nac yn gweithredu fel y cyfryw. Mae hyn yn golygu nad yw'r un o endidau'r grŵp yn gallu derbyn blaendaliadau gan y cyhoedd.

Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn gynllun a weinyddir gan Buddsoddiadau BDC (11) Cyf. DBW Investments (11) Ltd., is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru Cyf. I grynhoi, mae Banc Datblygu Cymru yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau, a sefydlwyd trwy wahanol endidau cyfreithiol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa rai o'r rhain sydd gennych berthynas â nhw pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gyda ni.

Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:

  1. I reoli ein cynhyrchion Grant Cydlynydd Ôl-osod, Grant Gosod, a Benthyciad.

  2. I ymateb i unrhyw ymholiadau penodol rydych chi wedi ein holi ni yn eu cylch.

  3. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n gwybod am ein cynnyrch a'n gwasanaethau diweddaraf.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy'r post, ffôn, e-bost, neges destun, neu ddulliau digidol eraill. Efallai y byddwn yn anfon cyfathrebiadau atoch at ddibenion:

  • Cynnal rheolaeth barhaus o’n cynhyrchion grantiau a benthyciadau.

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.

  • Marchnata ein cynnyrch a'n gwasanaethau os gwnaethoch chi ddewis ymuno yn ystod eich cais.

Ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, gallwch optio allan o hyn ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost at gwyb@cartrefigwyrdd.cymru  neu glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio’ yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost marchnata.

Mae rhagor o fanylion am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth at bob un o'r dibenion hyn i'w gweld isod. Mae'r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn ein polisi cwcis.

Gweler hefyd polisi cwcis llyw.cymru

1. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein cynhyrchion Grant Cydlynydd Ôl-osod, Grant Gosod, a Benthyciadau

Pam mae angen i Gartrefi Gwyrdd Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os ydych chi'n gwneud cais i gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i asesu eich cymhwysedd.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gadw mewn cysylltiad â chi a gofalu am eich grantiau a'ch cynhyrchion benthyciadau. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Prosesu eich cais am grant a/neu fenthyciad.

  • Rheoli eich cyfrif a chadw mewn cysylltiad â chi.

  • Anfon cyfathrebiadau atoch i wasanaethu eich cyfrif.

  • Rheoli unrhyw ymholiadau a chwynion a allai fod gennych.

  • Wneud yn siŵr bod y data sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol.

Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir gan eraill, fel partneriaid ariannol. Er enghraifft, os oes gennych gysylltiad ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch dau.

Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd partïon er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol, a phan fo angen diwallu ein buddiannau cyfreithlon (er enghraifft, i atal twyll neu gamymddwyn ariannol, neu i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r cynllun).

Pa wybodaeth bersonol mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ei chasglu a'i chadw amdanaf?

Mae'r wybodaeth y gallem ei chasglu a'i chadw amdanoch chi yn cynnwys:

  • Manylion hunaniaeth a manylion cyswllt, fel eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, a dyddiad geni.

  • Gwybodaeth am eich gwaith neu'ch proffesiwn a'ch cenedligrwydd.

  • Manylion y cyfrifon a'r cynhyrchion sydd gennych a/neu a oedd gennych gyda ni yn flaenorol, a sut rydych chi'n eu defnyddio.

  • Gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol a'ch hanes, a all gynnwys ffynhonnell arian a chyfoeth.

  • Manylion pryd y byddwch chi'n cysylltu â ni a phryd y byddwn ni'n cysylltu â chi.

  • Gwybodaeth am eich rhyngweithiadau â ni yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

  • Gwybodaeth arall a roddwch i ni neu a gawn o’n perthynas â chi.

  • Gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif, a elwir yn ddata categori arbennig (e.e. gwybodaeth am eich iechyd).

Pan rydyn ni'n sôn am ’wybodaeth’ drwy gydol yr hysbysiad hwn, rydyn ni'n cyfeirio at yr holl bethau uchod.

Pa wybodaeth bersonol mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ei chasglu gan drydydd partïon?

Efallai y byddwn yn casglu neu'n derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi gan drydydd partïon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Asiantaethau cyfeirio credyd (ACCau)

  • Cyrff ac asiantaethau'r llywodraeth

  • Cyllid a Thollau EM ac awdurdodau treth eraill

  • Cydlynwyr Ôl-osod

  • Rheoleiddwyr

  • Asiantaethau gorfodi'r gyfraith

  • Asiantaethau atal twyll (AATau)

  • Y Rhestr Etholwyr a ffynonellau eraill o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (e.e. rhestr sancsiynau, y cyfryngau)

  • Ein darparwyr gwasanaeth

  • Cwmnïau a sefydliadau sy'n eich cyflwyno i ni

  • Darparwyr ymchwil marchnad

  • Asiantau olrhain ac adennill dyledion

  • Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau data i'n cefnogi i reoli ein perthynas â chi a gweithredu ein busnes.

Ar adegau, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gan bobl sy'n gweithredu ar eich rhan. Gallai hyn fod gan ymgeisydd ar y cyd neu atwrneiaeth. Os yw'r person hwn yn rhoi gwybodaeth i ni, byddwn yn cofnodi ei bod wedi cael ei darparu a chan bwy.

Beth mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Pan fyddwch chi'n darparu eich gwybodaeth i ni, neu pan gaiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn ni'n ei defnyddio i:

  • Asesu’r cais a phenderfynu a ddylid darparu'r grant neu'r benthyciad.

  • Rheoli'r grant neu'r benthyciad yn barhaus.

Mae’r defnydd a wnawn ni o'ch gwybodaeth chi yn cynnwys:

  • Cyfeirio Credyd: Cynnal chwiliadau mewn asiantaethau cyfeirio credyd, sy'n rhoi gwybodaeth credyd a data cofrestr etholiadol i ni. Bydd yr asiantaethau hyn yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau, p'un a yw eich cais yn mynd rhagddo ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r asiantaethau hyn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gael yn Hysbysiad Gwybodaeth Asiantaeth Cyfeirio Credyd ("a adwaenir yn gryno fel CRAIN"). Gallwch gael mynediad at y CRAIN yn fan hyn.

  • Atal Troseddau Ariannol: Rhannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau atal twyll i helpu i atal troseddau ariannol. Os oes angen am resymau twyll neu i gynnal ymchwiliadau troseddol, efallai y byddwn ni (a'r asiantaethau atal twyll) hefyd yn caniatáu i asiantaethau gorfodi'r gyfraith gael mynediad at eich gwybodaeth a'i defnyddio.

  • Dilysu Data Eiddo: Rhannu eich data gyda Chofrestrfa Tir EM i ddilysu data eiddo.

  • Asesiad Cydymffurfiaeth: Monitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r cynllun.

  • Ymchwil ac Adborth: Rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru a'i hasiantau at ddibenion ymchwil, gan gynnwys adolygiadau cynlluniau, adborth cwsmeriaid, ac arolygon ystadegol. Gallwch optio allan o'r gweithgareddau hyn. Gall CGC hefyd rannu'r data hwn ag adrannau llywodraeth eraill, awdurdodau lleol, ac asiantaethau sy'n gweithio ar eu rhan.

  • Asesiad a Chydlynu Ôl-osod: Rhannu eich gwybodaeth gydag Aseswyr Ôl-osod a Chydlynwyr Ôl-osod er mwyn asesu a rhoi argymhelliad ar gyfer addasiadau i'ch eiddo.

  • Casglu Ôl-ddyledion: Rhannu eich gwybodaeth gydag asiantau olrhain i gasglu ôl-ddyledion os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda thaliadau benthyciad.

  • Datrys Cwynion: Defnyddio eich gwybodaeth i drin a datrys cwynion, gan gynnwys rhannu gwybodaeth gydag Ombwdsmon, Gwasanaeth Datrys Anghydfodau, neu Awdurdod Rheoleiddio.

  • Cydymffurfio â Thelerau ac Amodau: Defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau'r gronfa.

Fel rhan o'r gweithgareddau hyn, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r partïon penodedig, eich cyfrifwyr, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru.

Rhannu Gwybodaeth gydag Asiantaethau Cyfeirio Credyd

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau cyfeirio credyd i sicrhau bod grant neu fenthyciad yn addas i chi. Rydym yn gwneud hyn am y rhesymau canlynol:

  • I asesu eich teilyngdod credyd ac i wneud yn siŵr y byddwch yn gallu fforddio'r Benthyciad.

  • Gwirio fod y wybodaeth rydych chi wedi'i darparu yn gywir.

  • Atal troseddau ariannol.

  • Rheoli ein perthynas barhaus.

  • Olrhain ac adennill dyledion.

Pethau Sydd Angen i Chi eu Gwybod Am Cyfeirio Credyd:

  1. Pan fyddwn yn gofyn i asiantaeth cyfeirio credyd wneud chwiliad ar ein rhan, gall hyn adael ôl troed chwilio ar eich ffeil gredyd a allai gael ei weld gan fenthycwyr eraill. Mae hyn yn digwydd p'un a ydych chi, neu ni, yn dewis bwrw ymlaen â'ch cais am Fenthyciad ai peidio.

  2. Gall nifer y chwiliadau a gynhelir gael effaith ar benderfyniadau credyd a wneir gennym ni a benthycwyr eraill.

  3. Os ydych chi'n gwneud cais ar y cyd, bydd eich cofnodion credyd yn cael eu cysylltu â'i gilydd. Mae hyn yn creu'r hyn a elwir yn ‘gysylltiad ariannol’ mewn asiantaethau cyfeirio credyd. Dylech chi bob amser drafod a chytuno ar hyn gydag ymgeiswyr eraill cyn datgelu eu gwybodaeth i wirio eu bod nhw'n hapus i fwrw ymlaen.

  4. Bydd gwybodaeth am unrhyw gysylltiadau ariannol yn cael ei rhannu â benthycwyr eraill os bydd y naill ohonoch neu'r llall yn gwneud cais am gredyd yn y dyfodol – boed yn eich enw chi yn unig neu ynghyd â rhywun arall. Efallai y byddwn yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth am eich cysylltiadau ariannol presennol fel rhan o'n proses gwneud penderfyniadau.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am grant neu fenthyciad gyda ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

Perfformiad Contract

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni camau cyn-gytundebol angenrheidiol, ymrwymo i gontract gyda chi, a chyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cydymffurfio â deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Buddiannau Cyfreithlon

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle mae'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwiriadau ar Gwsmeriaid Posibl: Cynnal gwiriadau priodol ar gwsmeriaid posibl, gan gynnwys gwiriadau adnabod.

  • Ad-dalu Benthyciad: Sicrhau ad-daliad benthyciad.

  • Asesiad Cydymffurfiaeth: Monitro cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau'r cynllun.

  • Dilysu Data: Dilysu data eiddo gyda Chofrestrfa Tir EM.

  • Rheoli Ymholiadau a Chwynion: Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli a'u dadansoddi i atal methiannau ac unioni effeithiau.

  • Lles Cwsmeriaid: Ystyried anghenion lles cwsmeriaid a darparu'r addasiadau, y gefnogaeth neu'r amddiffyniad angenrheidiol.

  • Atal Troseddau Ariannol: Nodi, atal ac ymchwilio i droseddau ariannol, gan gynnwys twyll a gwyngalchu arian, a chamymddwyn ariannol arall.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaeth: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon ac ymchwil cwsmeriaid.

  • Parhad Busnes: Sicrhau parhad busnes, adferiad ar ôl trychineb, a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn ‘Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, bydd o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol:

  • Buddiant Cyhoeddus Sylweddol: Am resymau buddiant cyhoeddus sylweddol (e.e. gofynion rheoleiddio); neu

  • Caniatâd Penodol: Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu

  • Hawliadau Cyfreithiol: Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba hyd mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am wahanol gyfnodau o amser yn seiliedig ar y diben yr ydym yn ei phrosesu ar ei gyfer. Rhestrir y dibenion hyn isod:

  • Ceisiadau Llwyddiannus: Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd eich contract gyda ni, ac am 6 mlynedd ar ôl i'r contract ddod i ben. Mae hyn yn sicrhau cofnod llawn o'r contract rhag ofn y bydd anghydfodau.

  • Ceisiadau Aflwyddiannus neu Geisiadau a Dynnwyd yn Ôl: Os yw eich cais yn aflwyddiannus neu'n cael ei dynnu'n ôl, byddwn yn cadw ac yn dileu eich data personol yn unol â'n hamserlen cadw data.

  • Gohebiaeth E-bost: Cedwir negeseuon e-bost am 2 flynedd. Os oes angen, gellir cadw negeseuon e-bost yn hirach i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoli hawliadau neu gwynion presennol, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

  • Rhwymedigaethau Cyfreithiol a Hawliadau: Efallai y byddwn yn dal eich gwybodaeth cyhyd ag sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, arfer hawliau cyfreithiol, cydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r gronfa, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

  • Perthynas â Chwsmeriaid: Cedwir gwybodaeth cyhyd ag sydd angen i reoli eich perthynas â ni a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.

  • Cyfrif Benthyciad: Gellir cadw gwybodaeth bersonol hyd at 6 mlynedd ar ôl i'ch Cyfrif Benthyciad gau.

  • Rhesymau Cyfreithiol, Rheoleiddiol neu Dechnegol: Gellir cadw gwybodaeth yn hirach nag a nodir os nad yw dileu yn bosibl oherwydd rhesymau cyfreithiol, rheoleiddiol neu dechnegol.

  • At ddibenion Ymchwil neu Ystadegau: Gellir cadw gwybodaeth at ddibenion ymchwil neu ystadegau. Mewn achosion o'r fath, bydd eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu, a dim ond at y dibenion hyn y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Gartrefi Gwyrdd Cymru?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ni, ni fyddwn yn gallu asesu eich cais, ac efallai y bydd yn arwain at sefyllfa lle na fyddwch yn gallu cael mynediad at ein cynnyrch.

2. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad

Pam mae angen i Gartrefi Gwyrdd Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os byddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad, bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn ymateb i chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Gartrefi Gwyrdd Cymru?

Bydd hynny'n dibynnu ar natur eich ymholiad. Mae'r dudalen ‘Cysylltu â Ni’ ar ein gwefan yn manylu ar y wybodaeth leiaf sydd ei hangen i ymateb i chi. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy e-bost yn: gwyb@cartrefigwyrdd.cymru

Beth mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ymateb i'ch ymholiad a, gyda'ch caniatâd, i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler adran 3 isod).

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gydag ymholiad, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

Perfformiad Contract

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni camau cyn-gytundebol angenrheidiol, ymrwymo i gontract gyda chi, a chyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Buddiannau Cyfreithlon

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gydag ymholiad, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon:

  • Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli: gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau ac unioni effeithiau negyddol ar gwsmeriaid

  • Rheoli Ymholiadau a Chwynion : Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli a'u dadansoddi i atal methiannau ac unioni effeithiau.

  • Lles Cwsmeriaid: Ystyried anghenion lles cwsmeriaid a darparu'r addasiadau, y gefnogaeth neu'r amddiffyniad angenrheidiol.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaeth: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon ac ymchwil cwsmeriaid, a chael adborth gan gwsmeriaid.

  • Parhad Busnes: Sicrhau parhad busnes, adferiad ar ôl trychineb, a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.

Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn ‘Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, bydd o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol:

  • Buddiant Cyhoeddus Sylweddol: Am resymau buddiant cyhoeddus sylweddol; neu

  • Caniatâd Penodol: Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu

  • Hawliadau Cyfreithiol: Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba hyd mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod eich ymholiad ac fel arfer yn ei dileu ar ôl 2 flynedd oni bai eich bod yn gofyn am gyfathrebu parhaus. Mae hyn yn cynnwys gohebiaeth sydd gennych gyda ni drwy e-bost neu drwy'r ffurflen ‘Cysylltu â Ni’ ar ein gwefan.

Os bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hirach nag a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gydymffurfio â'r gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Gartrefi Gwyrdd Cymru?

Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth rydym yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu ymateb i'ch ymholiad na'i ddatrys.

3. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau

Pam mae angen i Gartrefi Gwyrdd Cymru ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os hoffech gael eich hysbysu am ein gwasanaethau, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch (megis negeseuon e-bost). Dim ond os ydych wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben hwn y byddwn yn gwneud hyn.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Gartrefi Gwyrdd Cymru?

Gallwch roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni drwy ein ffurflenni cais, cofrestru, neu fynegi diddordeb, sydd i'w cael ar y wefan hon.

Beth mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Rydym yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Nid ydym byth yn gwerthu na rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon at ddibenion marchnata.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, mae'r seiliau cyfreithiol canlynol yn berthnasol:

Buddiannau Cyfreithlon

Lle rydym yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon:

  • Rhoi gwybod i chi am ein Cynhyrchion a'n Gwasanaethau: Rhoi gwybod i chi am gynhyrchion a gwasanaethau Grŵp BDC.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaeth: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon ac ymchwil cwsmeriaid, a chael adborth gan gwsmeriaid.

Caniatâd

Lle gofynnwn am eich caniatâd cyn i ni anfon gwybodaeth farchnata atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Am ba hyd mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth nes i chi ddewis peidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni.

Beth os nad ydw i eisiau derbyn cyfathrebiadau marchnata gan Gartrefi Gwyrdd Cymru?

Gallwch ddewis peidio â derbyn gwybodaeth farchnata unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom yn gwyb@cartrefigwyrdd.cymru neu drwy glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio’ yn ein negeseuon e-bost marchnata.

Anfon eich Gwybodaeth y Tu Allan i'r DU

Efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i wledydd y tu allan i'r DU pan:

  • Rydych chi'n gofyn i ni wneud hynny.

  • Mae'n ofynnol neu fe ganiateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

  • Rydym yn rhannu data gyda thrydydd parti i'n cefnogi i reoli eich cyfrif.

Wrth weithio gyda'n cyflenwyr a/neu drosglwyddo gwybodaeth i wledydd y tu allan i'r DU, rydym yn cymryd camau priodol i sicrhau bod digon o ddiogelwch ar waith a bod deddfwriaeth diogelu data yn cael ei dilyn.

Gallai hyn fod drwy:

  • Sicrhau ein bod yn trosglwyddo gwybodaeth i wledydd yr ydym yn credu sydd â deddfwriaeth diogelu data gymharol â'r DU.

  • Rhoi cymalau addas yn ein contractau fel bod sefydliadau’n cymryd camau priodol i gydymffurfio â chyfraith diogelu data’r DU.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu.

Eich Hawliau Diogelu Data

Bydd y wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei chadw yn unol â'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae'r cyfreithiau hyn yn cynnwys hawliau penodol i chi, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol (gelwir hyn hefyd yn gais mynediad pwnc).

  • Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghywir, a'r hawl i gwblhau gwybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghyflawn.

  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan rai amodau.

  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan rai amodau

  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol, o dan rai amodau.

  • Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan rai amodau.

  • Yr hawl i gwyno i'r rheoleiddiwr - Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych chi'n anfodlon â sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk.

  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd – Mae gennych hawliau i wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer unrhyw wneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio.

I arfer unrhyw un o'ch hawliau diogelu data, anfonwch e-bost atom yn sdd@bancdatblygu.cymru neu ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad a ddarperir yn yr adran ganlynol. Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw llawn a'ch manylion cyswllt.

  • Manylion eich cais penodol (e.e. cais mynediad, cais dileu).

  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol a fydd yn ein helpu i wirio'ch hunaniaeth.

Ein nod yw ymateb i bob cais o fewn un mis calendr, fel sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Sut i Godi Pryder neu Wneud Cwyn

I Fanc Datblygu Cymru:

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynglŷn â'n defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddatrys eich problem yn y lle cyntaf. Gallwch wneud cwyn i ni yn sdd@bancdatblygu.cymru neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

SWYDDOG DIOGELU DATA

Banc Datblygu Cymru

1 Capital Quarter

Stryd Tyndall

Caerdydd

CF10 4BZ

At Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Os ydych chi'n anfodlon â sut rydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol neu wedi delio â'ch pryder neu gŵyn, gallwch hefyd gwyno i reoleiddiwr diogelu data'r DU, yr ICO. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk neu dros y ffôn ar 0303 123 1113.

Diweddarwyd Ddiwethaf: Ebrill 2026