Andy Regan, uwch reolwr cenhadaeth, Nesta
Gall gwneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon eich helpu i leihau eich ôl troed carbon ac arbed ar eich biliau ynni. Un o'r mesurau mwyaf effeithiol y gallwch ei osod i leihau allyriadau carbon eich cartref yw pwmp gwres. Ond beth yw pwmp gwres yn union? Sut mae pympiau gwres yn gweithio? Ac yw pympiau gwres yn werth chweil?
Mae Andy Regan, Uwch Reolwr Cenhadaeth yn Nesta, wedi llunio’r canllaw hawdd ei ddarllen hwn i helpu perchnogion tai i ddeall sut mae pympiau gwres yn gweithio, beth allant ei wneud a pham y gallent fod y dewis cywir ar gyfer eich cartref.
I lawer o bobl gallai pympiau gwres fod yn syniad newydd, ond mae Nesta wedi ymrwymo i helpu perchnogion tai i ddeall y dechnoleg hon a’i gwneud yn fwy fforddiadwy a hygyrch i bawb. Cefnogodd Nesta ni yn y gwaith o gynnal ymchwil a phrofion marchnad gyda’n cynllun newydd Cartrefi Gwyrdd Cymru, a fydd yn helpu perchenogion tai cymwys i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'w cartrefi.
Pam mae pympiau gwres yn bwysig i'r amgylchedd?
Mae pawb ohonom yn ymwybodol o ba mor bwysig yw hi ein bod yn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Ond yn aml pan fyddwn ni’n meddwl am dorri ar garbon sy’n mynd i’r atmosffer rydyn ni’n meddwl am allyriadau o bethau fel gorsafoedd pŵer, awyrennau neu geir – felly efallai y byddai’n syndod dysgu bod un rhan o chwech o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan ein cartrefi mewn gwirionedd.
Mae hynny’n golygu, er mwyn cyrraedd ein targedau allyriadau carbon, fod yn rhaid i ni newid sut yr ydym yn gwresogi lle rydym yn byw.
Yn y pen draw bydd angen i'r DU symud oddi wrth ddefnyddio tanwyddau ffosil ac mae Nesta yn credu mai'r ffordd orau o leihau allyriadau carbon cartrefi'r wlad fydd gosod pympiau gwres yn lle boeleri nwy a systemau gwresogi traddodiadol eraill.
Beth yw pwmp gwres?
Mae pwmp gwres yn ddyfais sy'n casglu'r gwres sy'n digwydd yn naturiol sydd yn yr aer, y ddaear, neu ddŵr y tu allan i gartref, yn ei gywasgu, ac yna'n ei symud i'ch rheiddiaduron. Mae'r ddyfais yn defnyddio trydan i bweru'r broses hon, ond yn wahanol i systemau gwresogi traddodiadol, nid yw'n llosgi tanwydd ffosil i gynhyrchu gwres, sy'n golygu nad yw'n cynhyrchu allyriadau carbon uniongyrchol yn eich eiddo.
Wrth i'r grid trydan barhau i ddatgarboneiddio, bydd pympiau gwres yn dod yn fwy gwyrdd fyth. Mewn gwirionedd, am bob uned o drydan y mae’r rhain yn eu defnyddio, mae pympiau gwres fel arfer yn cynhyrchu tair i bedair uned o wres, gan eu gwneud yn opsiwn llawer mwy effeithlon na boeleri nwy neu olew confensiynol.
Pam dewis pwmp gwres?
Mae newid i bwmp gwres yn cynnig nifer o fanteision a all wneud gwahaniaeth mawr i’ch cartref, eich waled ac i’r blaned:
Torri i lawr ar eich ôl troed carbon
Pympiau gwres sy’n cynnig rhai o'r arbedion carbon mwyaf am bob punt sy’n cael ei wario o gymharu â thechnolegau carbon isel eraill. Gyda’r brys cynyddol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gallai newid i bwmp gwres fod yn un o’r camau mwyaf effeithiol y gallwch eu cymryd ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy.
Gwella eich iechyd gartref
Gall systemau gwresogi traddodiadol, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio nwy neu olew, gyfrannu at lygredd aer dan do. Nid yw pympiau gwres yn cynhyrchu allyriadau hylosgi y tu mewn i'ch cartref, gan helpu i greu amgylchedd byw glanach ac iachach.
Cymorth ariannol
Mae amrywiaeth o grantiau a chymhellion ar gael i helpu gyda chost gosod, gan gynnwys cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru. Gallwch hefyd newid i dariff pwmp gwres arbennig i arbed arian.
Diogelu'ch cartref ar gyfer y dyfodol
Wrth i Gymru anelu at gyrraedd ei thargedau sero net, bydd systemau gwresogi tanwydd ffosil yn cael eu dirwyn i ben yn raddol. Drwy newid i bwmp gwres nawr, rydych chi ar flaen y gad.
Astudiaethau achos
Mae gan Gymru gyfle unigryw i arwain y newid i atebion gwresogi gwyrddach. Yn Sir Gaerfyrddin, newidiodd Adrian i bwmp gwres yn ei dŷ carreg a adeiladwyd yn y 1800au. Er gwaethaf oedran yr eiddo, mae'r pwmp gwres wedi ei wneud yn fwy effeithlon a chyfforddus trwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddarllen mwy am brofiad Adrian ar wefan cael pwmp gwres.
Cwestiynau Cyffredin a Ofynnir
Ydy pympiau gwres yn gweithio mewn tywydd oer?
Ydyn, maen nhw. Mae ynni gwres yn dal i fod yn yr awyr neu'r ddaear y gall pympiau gwres ei ddefnyddio, hyd yn oed mewn tywydd o dan y rhewbwynt. Mewn ymchwil gan ddefnyddio data maes o'r DU, yr Almaen, y Swistir, Canada, UDA a Tsieina fe ganfuwyd bod pympiau gwres yn dal i berfformio'n effeithlon ac effeithiol ar dymheredd ymhell o dan y rhewbwynt.
A yw pympiau gwres yn dechnoleg newydd?
Dyfeisiwyd pympiau gwres ar ddiwedd y 19eg ganrif. Fe'u defnyddir yn eang yn Ewrop a Japan, mewn tywydd rhewllyd a di-drugaredd yn aml. Yn Norwy, mae 60% o gartrefi yn defnyddio pympiau gwres.
Pa mor uchel o ran sain yw pympiau gwres?
Mae'r holl dechnolegau gwresogi yn gwneud rhywfaint o sŵn. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bympiau gwres yn swnio’n uwch na swn boeler nwy, ac yn gyffredinol mae pympiau gwres o'r ddaear yn dawelach fyth. Mewn arolwg diweddar roedd y canfyddiadau’n dangos bod mwyafrif y perchnogion yn teimlo bod eu pympiau gwres yn anymwthiol, gydag 85 y cant yn fodlon â’r lefelau sŵn.
A oes angen llawer o inswleiddio arnaf i wneud i bwmp gwres weithio?
Bydd inswleiddio yn gwella effeithlonrwydd gwres unrhyw gartref, ond gall pympiau gwres weithio'n effeithlon heb lawer iawn o ôl-osod ac inswleiddio. Y peth pwysig i'w nodi yw, yn yr un modd â chartrefi mwy sydd angen gwahanol fathau o wresogi nwy, mae angen i osodwyr ddewis y pwmp gwres priodol i gyd-fynd â nodweddion yr eiddo.
Pa bwmp gwres ddylwn i ei gael?
Mae gwahanol fathau o bympiau gwres ar gael, sy'n defnyddio gwahanol ffynonellau gwres (aer, daear neu ddŵr) neu wahanol ffyrdd o wresogi eich cartref, megis trwy reiddiaduron, gwresogi o dan y llawr neu drwy ryddhau aer cynnes i'ch cartref. Mae Nesta wedi creu cwis i'ch helpu i benderfynu pa bwmp gwres allai fod orau i'ch cartref chi.
A oes unrhyw gymorth ariannol?
Mae ystod gynyddol o gymhellion ariannol ar gyfer perchnogion tai sydd am brynu pwmp gwres. Y prif Gynllun grant ar gyfer perchnogion tai yng Nghymru yw'r Cynllun Uwchraddio Boeleri.
A fydd pwmp gwres yn arbed arian i mi?
Os oes gennych chi foeler olew, LPG neu drydan, rheiddiaduron trydan neu wresogyddion storio, efallai y byddwch yn arbed arian ar eich biliau ynni. Os ydych chi'n defnyddio boeler nwy ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd eich biliau gwresogi yn aros yn debyg ar ôl gosod pwmp gwres. Mae hyn oherwydd bod polisi'r llywodraeth ar hyn o bryd yn gwneud nwy yn rhatach na thrydan.
Fodd bynnag, gall defnyddio tariffau ynni arbennig helpu. Yn ôl Which?, gallech arbed mwy na £500 y flwyddyn ar eich biliau ynni drwy newid i bwmp gwres o foeler nwy a defnyddio tariff pwmp gwres arbennig.
Hoffech chi ddarganfod mwy?
Ewch i weld gwefan https://www.getaheatpump.org.uk/ i ddysgu mwy am y costau, y cymorth ariannol a chael cyngor ynghylch gosod pwmp gwres.
Os ydych yn chwilio am gymorth ariannol ar gyfer pwmp gwres neu fesurau gwyrdd eraill, efallai y gall cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru eich helpu. Mae'n cynnig cymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, benthyciadau di-log ac mewn rhai achosion arian grant i wneud effeithlonrwydd ynni cartref yn fwy fforddiadwy. Ewch i'n tudalen Cartrefi Gwyrdd Cymru am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb.
Andy Regan
Uwch Reolwr Cenhadaeth, cenhadaeth dyfodol cynaliadwy
Mae Andy yn gweithio o fewn tîm Nesta Cymru fel rheolwr cenhadaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Ers ymuno â Nesta yn 2021 mae wedi arwain prosiect ar gyllid ôl-osod mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, a phrosiect cydweithredol gyda’r Ganolfan dros Sero Net / Centre for Net Zero ar hyblygrwydd pympiau gwres.
Mae gan Andy gefndir mewn polisi ynni mewn rolau yn Ofgem a Chyngor ar Bopeth – lle bu’n cyd-gadeirio Clymblaid Tlodi Tanwydd Cymru. Ymunodd â Nesta o felin drafod annibynnol y Sefydliad Materion Cymreig, lle bu’n goruchwylio eu gwaith polisi a materion allanol.
Y tu allan i'w waith mae'r rhan fwyaf o'i ddiddordebau yn ymwneud â cherddoriaeth, gan gynnwys bod yn gitarydd yn y band indie-pop Cymraeg The School.