Y Banc Datblygu yn buddsoddi mewn ffasiwn cynaliadwy

Lisa-Roberts
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Marchnata
Black and Beech

Yn dilyn buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru mae Black & Beech, adwerthwr ffasiwn cynaliadwy ar-lein o Gaerdydd, yn ehangu – gyda chasgliadau newydd o ddillad o ffynonellau moesegol ac ategolion eco-gyfeillgar.

Mae gwerthiant Black & Beech wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn benthyciad cychwynnol gan y Banc Datblygu yn 2022, i helpu i dyfu’r ystod o gynnyrch mae’n ei werthu a buddsoddi mewn marchnata. Bydd y benthyciad diweddaraf yn cael ei ddefnyddio fel cyfalaf gweithio i brynu dillad gwau, recriwtio dylunydd newydd a datblygu’r farchnad cyfanwerthu. Mae sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni, Stacey Canham-Grant, hefyd yn gobeithio ehangu’n rhyngwladol a lansio casgliad newydd o ddillad gwau cotwm a lliain ar gyfer tymor y Gwanwyn/Haf.

Roedd Stacey Canham-Grant yn ddarlithydd dylunio ffasiwn cyn sefydlu Black & Beech yn 2017. Dywedodd: “Mae ffasiwn yn ffordd bwerus o fynegi eich hun ac yn arf effeithiol ar gyfer grymuso pobl. Yn Black & Beech, rydym yn creu gofod lle gall unigolion fynegi eu credoau ffeministaidd drwy ffasiwn, gan gefnogi arferion cadarnhaol yn y diwydiant ffasiwn ar yr un pryd. Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn ein galluogi ni i dyfu ac esblygu’n barhaus. Rydyn ni wedi trawsnewid y busnes o fod yn fenter ‘ffordd o fyw’ fach i fod yn frand sy’n cael ei ffafrio ymysg y rhai sy’n ofalus o’r amgylchedd a materion cymdeithasol wrth siopa.”

Mae Lisa Roberts yn Swyddog Gweithredol Portffolios gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae Stacey wedi datblygu cynnig gwerthu unigryw sy’n canolbwyntio ar ymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae ei dyluniadau o ansawdd uchel a’i chysylltiad cryf â’r gymuned yn rhoi mantais gystadleuol i’r brand. Dyma enghraifft o ffasiwn moesegol ar ei orau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Black & Beech yn parhau i dyfu.”

Daeth y buddsoddiad ar gyfer Black & Beech o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n werth £500 miliwn. Mae’r Gronfa hon ar gyfer bargeinion sydd werth rhwng £25,000 a £10 miliwn, ac fe’i cyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru, am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.