Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Arbenigwyr digidol yn sicrhau buddsoddiad o £1.2 miliwn i ysgogi arloesedd a chreu ffordd newydd o weithio

Sam-Macallister-Smith
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Technoleg busnesau
Ariannu
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Stable

Mae cwmni ymgynghori technoleg o Gaerdydd, Stable, ar fin cyflymu ei dwf a’i harloesedd gyda buddsoddiad ecwiti a dyled o £1.2 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu yn 2001 gan Ans a David Aspden , mae Stable yn ddarparwr blaenllaw yn y DU o arbenigedd ac atebion technoleg llawrydd, yn enwedig mewn technoleg cwmwl, seiber ddiogelwch a thrawsnewid digidol. Mae Stable yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth a chleientiaid y sector preifat. Yn 2023, cafodd Stable ei gydnabod gan The Sunday Times fel un o’r cwmnïau preifat a dyfodd gyflymaf ym Mhrydain. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi 60 o staff a rhagwelir y bydd ei drosiant yn fwy na £19 miliwn erbyn 2026.

Mae'r Banc Datblygu wedi cefnogi Stable yn flaenorol gyda benthyciadau yn 2021 a 2019 ar gyfer ehangu swyddfeydd a chyfalaf gweithio. Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn o £1.2 miliwn yn cefnogi ehangiad parhaus y cwmni, yn enwedig yn y sector seiberddiogelwch cynyddol a datblygiad ei academi hyfforddi.

Mae Stable yn gwasanaethu ystod eang o sectorau, gan gynnwys y sector cyhoeddus, addysg uwch, gwasanaethau brys, a'r trydydd sector, gan sicrhau bod ei atebion yn diwallu anghenion diwydiannau amrywiol. Mae Stable hefyd yn gweithio gyda darparwyr addysg rhanbarthol i adeiladu llwybrau dysgu i'r sector TG, gan fynd i'r afael â'r galw cynyddol am sgiliau arbenigol ar draws tirwedd dechnoleg y DU.


Meddai’r Sylfaenydd a’r Phrif Weithredwr, Ans Aspden : "Ein cenhadaeth yw ysgogi newid ystyrlon trwy alluogi timau i gydweithio ac arloesi trwy dechnoleg. Ar ôl gweithio mewn partneriaeth â Microsoft ers dros ddau ddegawd, mae gennym ddealltwriaeth ddofn o sut y gall technoleg gweithle drawsnewid sefydliadau, ond rydym yn cydnabod bod gwir drawsnewid digidol yn ymwneud cymaint â phobl a diwylliant ag y mae â thechnoleg.

"Fel busnes Cymreig, rydym hefyd yn frwd dros uwchsgilio doniau lleol a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae partneriaeth â'r Banc Datblygu, sy'n rhannu ein gwerthoedd, yn caniatáu i ni barhau â'r gwaith hwn a gwireddu ein gweledigaeth o ddyfodol gwaith, wedi'i adeiladu ar cynwysoldeb, arloesedd a thechnoleg."

Mae Sam Macalister-Smith yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae gan Stable weledigaeth glir ar gyfer dyfodol gwaith ac mae’n cael effaith sylweddol mewn sector sy’n tyfu’n gyflym. Mae'r tîm wedi cyflawni twf refeniw trawiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fanteisio ar ddigideiddio cynyddol a thwf technolegau gweithle newydd. Rydym yn gyffrous i'w cefnogi ar gam nesaf eu taith twf."

Daeth y buddsoddiad yn Stable Resources Limited o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thymhorau o hyd at 15 mlynedd.