Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

 

Ein hymagwedd

Rydym yn ymroddedig i feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol nid yn unig yn cael eu gwerthfawrogi ond yn cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer arloesi ac sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Ein huchelgais yw cael gweithlu sy'n wirioneddol gynrychioliadol o'r bobl yn ein rhanbarthau.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant ar draws pob lefel, gan sicrhau arferion recriwtio a dilyniant teg, mesur ein cynnydd tuag at nodau cydraddoldeb ac amrywiaeth, a meithrin diwylliant gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ymdeimlad o berthyn.

 

 

Yn seiliedig ar y nifer 279 a gafodd eu cyfri.

Adroddodd 4% o gydweithwyrbod ganddynt anabledd. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cydnabod bod pobl anabl yn bobl â namau sy’n anabl oherwydd rhwystrau (agweddau, amgylcheddol a threfniadol) sy’n eu hatal rhag cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd. Nam cymdeithasol yw 'anabledd'; ac mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas gael gwared ar y rhwystrau er mwyn i bawb gael cydraddoldeb.

Efallai na fydd y canrannau yn hafal i 100 oherwydd talgrynnu.

Ffynhonnell: Adroddiad blynyddol pobl a datblygu Banc Datblygu Cymru hyd at 31 Mawrth 2024

 

 

Ein mentrau

Fe wnaethom gomisiynu Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn lansio’r Banc Datblygu ym mis Hydref 2017, a chomisiynu adroddiad pellach ychydig ar ôl 5 mlynedd ers sefydlu’r Banc Datblygu yn gynnar yn 2023. Cynhaliwyd y ddau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb gan ymgynghorwyr allanol a gwnaethant gyfres o argymhellion ar wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod y Banc Datblygu yn weithle cynhwysol rydym yn:

  • Buddsoddi mewn datblygu cydweithwyr trwy ddarparu ystod o gyfleoedd hyfforddi i ddiwallu anghenion unigolion, tîm a busnes.
  • Parhau i gyflwyno’r fframwaith dilyniant gyrfa, gan ddarparu cyfle strwythuredig i symud ymlaen ym mhob rhan o’r busnes.
  • Sicrhau bod ein polisïau yn parhau i gefnogi a chadw doniau yn y gweithle ee gweithio hyblyg, absenoldeb rhiant, mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir, absenoldeb gofalwyr.
  • Hyrwyddo diwylliant cynhwysol, trwy gylchlythyrau rheolaidd a chyfathrebu.
  • Ymdrechu i sicrhau bod pob cydweithiwr yn gallu cofleidio gweithio hyblyg ac yn gallu gweithio mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw, eu dyheadau gyrfa a’r Banc Datblygu.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Lleoedd Gwych i Weithio i elwa o rannu arfer gorau a meincnodi allanol.

 

Lle Gwych i Weithio

Rydym yn hynod falch bod ein sefydliad wedi’i ardystio’n swyddogol yn Lle Gwych i Weithio™.

A red and blue label with white text

AI-generated content may be incorrect. A purple and white rectangular sign with black text

AI-generated content may be incorrect.Best Workplaces

Rydym yn cynnal arolwg blynyddol gan gynnwys cwestiynau ynghylch cynwysoldeb. Rydym yn falch o adrodd yn yr ymatebion ar gyfer 2024, bod 97% o unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol, hil, oed neu ryw.

Mae'r wobr fawreddog yn seiliedig yn gyfan gwbl ar yr hyn a ddywedodd cydweithwyr am eu profiad o weithio yn y Banc Datblygu. Dywedodd 88% o gydweithwyr ei fod yn lle gwych i weithio – 34 pwynt yn uwch na’r cwmni cyffredin yn y DU.

Cymerwyd y dyfyniadau isod gan gydweithwyr Banc Datblygu yn yr arolwg diweddar:

  • “Mae pawb mor gyfeillgar a chroesawgar ac rwy'n cael y teimlad bod naws deuluol go iawn yma. Mae'n awyrgylch gwych ac rwy'n falch fy mod wedi symud i fod yma.”
  • “Mae pawb yn helpu ei gilydd ac mae meddylfryd ‘pawb yn gyfartal’ da.”
  • “Mae [Y Banc Datblygu] yn trin eu staff gyda’r fath barch a charedigrwydd nad wyf erioed wedi’i brofi o’r blaen yn fy swydd arall.” 
  • “Y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yw’r gorau dwi erioed wedi’i gael.” 
  • “Mae hwn yn weithle hybrid gwych gyda chyfleoedd cydweithredol ar-lein sy’n cadw man gwaith amrywiol. Mae’n ffordd wych o sicrhau bod y sgiliau gorau ar gyfer y busnes yn cael eu cadw, waeth beth fo’u lleoliad.” 

 

Recriwtio

Cyn recriwtio ar gyfer unrhyw rôl, rydym yn nodi a oes unrhyw rwystrau a allai gyfyngu ar ymgeiswyr. Os canfyddir unrhyw rwystrau, byddwn yn cymryd camau rhesymol i gael gwared arnynt.

  • Rydym yn ystyried lle bydd rôl wag yn cael ei hysbysebu ac yn ystyried a oes unrhyw le arall a allai gael ei weld gan fwy o bobl.
  • Rydym yn ystyried y gofynion arfaethedig ar gyfer y rôl o ran oriau gwaith, lleoliad, dyddiau gwaith ac ati ac yn cwestiynu a oes modd cwmpasu'r rôl gyda mwy o bwyslais ar hyblygrwydd.
  • Mae gennym drwydded nawdd i ddarparu fisas i ymgeiswyr sydd angen nawdd.
  • Gall cydweithwyr ddewis ychwanegu eu rhagenwau at eu llofnodion e-bost.

 

Hyfforddiant

Mae’r Banc Datblygu wedi darparu’r hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth a ganlyn:

  • Hyfforddiant ‘urddas yn y gweithle’ a ‘thuedd diarwybod' ar draws y grŵp sydd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o ragfarn pawb fel y cam cyntaf i fynd i'r afael â'r mater.
  • Cwestiynau ar-lein cryno gorfodol ar gyfer y grŵp cyfan yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Mentrau eraill

Rydym hefyd yn cynnal dadansoddiad cyflog rhwng y rhywiau yn flynyddol, yn sicrhau prosesau recriwtio teg, yn darparu hyfforddiant gorfodol ar ragfarn diarwybod ac arweinyddiaeth gynhwysol, ac yn gorfodi polisi dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu.

Trwy'r ymdrechion hyn, ein nod yw creu gweithle sy'n dathlu amrywiaeth, yn cefnogi tegwch, ac yn sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn gallu ffynnu.

Nid yw ein hymroddiad i'r egwyddorion hyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth yn unig ond yn hytrach yn hybu diwylliant o arloesi a pharch y naill at y llall sydd o fudd i bawb yn ein sefydliad.

Mae ein strategaeth pobl ymroddedig yn amlinellu ein hymrwymiadau i gydweithwyr newydd a phresennol, gyda'r nod craidd bod y Banc Datblygu yn gyflogwr o ddewis.

Byddwn yn parhau i gyflwyno strategaeth les benodol sy’n cefnogi lles meddyliol, corfforol ac ariannol ein cydweithwyr.

 

 

Ein hymrwymiadau cydraddoldeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2022-27 yn amlinellu ein meysydd allweddol o ffocws cydraddoldeb:

 

Thema eangGweithgaredd penodolCynnydd a'r maes ffocws nesaf
HyfforddiantAdnewyddu ac ailadrodd hyfforddiant amrywiaeth, gan sicrhau bod pob dechreuwr newydd yn cael ei gynnwys.Mae hyfforddiant amrywiaeth wedi cael ei gyflwyno i gydweithwyr. Parhau i ddarparu hyfforddiant i bob cydweithiwr i annog gweithlu amrywiol a chynhwysol.
RecriwtioDatblygu a gweithredu hyfforddiant penodol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn recriwtio – i’w gynnwys fel rhan o’r broses recriwtio.

Mae hyn wedi'i ddatblygu a'i roi ar waith.

Parhau i ehangu ein dulliau recriwtio i ddenu ystod mor eang â phosibl o ymgeiswyr drwy system recriwtio Networx.

Brand a chyfathrebuSicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o waith adnewyddu brandio 2022 ac wedi’i ymgorffori yn ein cyfathrebiadau.Gwaith adnewyddu brand wedi'i gwblhau a'i roi ar waith.
CynllunioCwmpasu a chaffael ail Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn 2023.

Mae'r ail Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gyflawni.

Y prif allbwn nesaf fydd cynnwys cydraddoldeb ar gyfer ein cynllun corfforaethol nesaf.