Mae marchnata dylanwadwyr yn ail-lunio strategaethau digidol, gan helpu brandiau i feithrin ymddiriedaeth, cysylltu â chynulleidfaoedd targed, a sbarduno ymgysylltiad ystyrlon trwy gynnwys dilys, wedi'i yrru gan grewyr. Wrth i arferion defnyddwyr newid, mae busnesau'n addasu - ac mae'n gweithio. Mewn gwirionedd, mae 78% o ddefnyddwyr y DU bellach yn ymddiried yn argymhellion dylanwadwyr yn fwy na hysbysebion traddodiadol.
Yn y canllaw hwn, byddwn yn archwilio beth yw marchnata dylanwadwyr, yn deall pam ei fod yn ffynnu, sut i ddewis y dylanwadwr cywir ar gyfer eich brand, a ble mae'r strategaeth hon yn mynd wrth i amser fynd heibio.
Beth yw marchnata dylanwadwyr?
Marchnata dylanwadwyr yw pan fydd brand yn cydweithio ag unigolyn sydd â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i ddilynwyr y person hwnnw. Mae marchnata dylanwadwyr wedi newid y ffordd y mae busnesau'n cysylltu â'u cwsmeriaid. Yn lle hysbysebion di-wyneb, gall brandiau siarad trwy bobl go iawn, sydd eisoes ag ymddiriedaeth eu cynulleidfaoedd, gan wneud i'w negeseuon deimlo'n fwy dilys a pherthnasol.
Er enghraifft, manteisiodd DFDS ar bŵer marchnata dylanwadwyr drwy gydweithio ag Alfie Watts, crëwr cynnwys teithio sy'n dod i'r amlwg gyda dros 200,000 o ddilynwyr ar Instagram. Yn dilyn ei ymddangosiad ar Race Across the World, dechreuodd Alfie rannu ei anturiaethau teithio cyllideb isel i wahanol gyrchfannau.
Lansiodd DFDS ymgyrch heriol gydag Alfie, gan ei herio i ymweld â chymaint o wledydd â phosibl mewn 24 awr. Dechreuodd y daith gan ddefnyddio fferi DFDS, a ddangosodd hyblygrwydd opsiynau trafnidiaeth DFDS wrth ganiatáu iddo greu cynnwys deniadol i'w ddilynwyr. Helpodd y bartneriaeth DFDS i gyrraedd cynulleidfa iau, sy'n awyddus i deithio mewn ffordd hwyliog a dilys.
Pam mae marchnata dylanwadwyr wedi dod mor boblogaidd?
Mae dylanwadwyr yn offeryn marchnata cost-effeithiol
Mae marchnata dylanwadwyr yn aml yn rhatach na hysbysebu traddodiadol, yn enwedig wrth ddefnyddio micro-ddylanwadwyr sydd â dilynwyr ymgysylltiedig a ffyddlon. Gall hyn ryddhau cyllideb i fuddsoddi mewn meysydd eraill o'r busnes.
Gall dylanwadwyr gyrraedd nifer fawr o gynulleidfaoedd presennol a thargedig
Gyda marchnata dylanwadwyr, gall busnesau gryfhau eu cysylltiad â chwsmeriaid presennol a manteisio ar segmentau cynulleidfa newydd. Drwy ddewis y dylanwadwr cywir, gall brandiau gyrraedd cynulleidfaoedd wedi'u targedu'n fanwl gyda negeseuon wedi'u teilwra'n bersonol.
Gall dylanwadwyr hybu Optimeiddio Peiriant Chwilio (OPC) a phresenoldeb ar-lein busnesau
Mae marchnata dylanwadwyr yn rhoi hwb i welededd ac enw da brand ar-lein trwy gynhyrchu sôn gwerthfawr, dolenni ôl, a rhannu cymdeithasol. Trwy'r ymgysylltiad cynyddol, gall busnesau wella eu safleoedd mewn peiriannau chwilio, sy'n helpu i adeiladu presenoldeb cryfach ar-lein.
Mae dylanwadwyr wedi sefydlu ymddiriedaeth a dibynadwyedd gan ddilynwyr
Mae defnyddwyr yn tueddu i ymddiried mewn argymhellion gan ddylanwadwyr maen nhw'n eu dilyn. Drwy feithrin perthnasoedd personol, dilys â'u cynulleidfaoedd, mae dylanwadwyr wedi gallu datblygu ymddiriedaeth gyda'u dilynwyr, felly mae eu hardystiadau'n teimlo'n fwy dilys a pherswadiol. Pan fydd busnes yn gweithio gyda dylanwadwr, mae eu cysylltiad dilys â'u dilynwyr yn gwneud i'ch cynhyrchion deimlo'n real ac yn berthnasol.
Sut i ddewis y dylanwadwr cywir ar gyfer eich busnes
Gosodwch eich nodau
Mae'n bwysig gosod nodau clir o'r cychwyn cyntaf, boed eich bod yn anelu at yrru gwerthiant, hybu ymwybyddiaeth o frand, neu wella creu cynnwys. Bydd y nodau hyn yn eich tywys wrth ddewis y dylanwadwr cywir a all gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnoch.
Deall eich cynulleidfa darged
Mae angen i chi nodi'n union pwy rydych chi am ei gyrraedd. Dylech ganolbwyntio ar nodweddion fel oedran, rhyw, lleoliad, diddordebau a gwerthoedd. Yna, nodwch pa lwyfannau maen nhw'n eu defnyddio fwyaf, boed yn Instagram, TikTok, neu YouTube. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddewis dylanwadwyr y mae eu dilynwyr yn cyd-fynd yn agos â'ch cwsmer delfrydol a sicrhau bod eich neges yn cyrraedd y bobl gywir yn y lleoedd cywir.
Ystyriwch y math o ddylanwadwr rydych chi'n chwilio amdano
Dylech chi baru'ch dewis o ddylanwadwr â'ch cyllideb a'ch nodau. Gweithiwch gyda nano-ddylanwadwyr (1K–10K o ddilynwyr) ar gyfer ymgysylltiad uchel mewn cymunedau niche neu dewiswch ficro-ddylanwadwyr (10K–100K) i dargedu cynulleidfaoedd penodol. Ewch gyda macro-ddylanwadwyr (100K–1M) ar gyfer amlygrwydd ehangach, neu partnerwch â mega-ddylanwadwyr (1M+) i gyrraedd cynulleidfaoedd enfawr a hybu gwelededd yn gyflym.
Gwnewch yn siwr bod y dylanwadwr yn cyd-fynd â’ch brand
Dylai busnesau wirio tôn ac arddull y dylanwadwr i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â'ch brand. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cyd-fynd â'u gwerthoedd a'u negeseuon, yn ogystal ag adolygu partneriaethau blaenorol i osgoi gwrthdaro â chystadleuwyr. Mae'n well dewis rhywun sy'n cynrychioli'ch brand yn wirioneddol.
Ymchwiliwch i fetrigau ymgysylltu eich dylanadwr
Gofynnwch i ddylanwadwyr am fetrigau perfformiad allweddol cyn i chi ymrwymo. Adolygwch ddemograffeg eu cynulleidfa, gwiriwch gyfraddau ymgysylltu, ac edrychwch ar ganlyniadau ymgyrchoedd yn y gorffennol. Os yn bosibl, ceisiwch ddata clicio neu drosi i weld pa mor dda maen nhw'n ysgogi gweithredu. Gallwch ddefnyddio'r mewnwelediadau hyn i ddewis dylanwadwyr a all gyflawni effaith wirioneddol.
Sut i gael dylanwadwyr i hyrwyddo’ch brand chi
Gall busnesau dalu dylanwadwyr mewn ychydig o ffyrdd syml. Gallech gynnig ffi sefydlog am bost, negodi tâl yn seiliedig ar berfformiad fel cliciau neu werthiannau, neu roi comisiwn trwy ddolenni cyswllt. Fel arall, gallwch anfon cynhyrchion am ddim yn lle arian, yn enwedig i ddylanwadwyr llai. Ar gyfer gwaith parhaus, gallwch dalu ffi fisol neu fwndelu sawl post i mewn i un pecyn. Gellir cytuno ar daliad yn seiliedig ar ymweliadau, cliciau, neu gamau gweithredu i olrhain canlyniadau.
Mae'n bwysig briffio dylanwadwyr yn weithredol cyn i unrhyw gynnwys fynd yn fyw. Amlinellwch eich negeseuon allweddol, canllawiau brand, ac amcanion ymgyrch yn glir fel eu bod yn deall beth rydych chi am ei gyflawni a sut i gynrychioli eich brand. Diffiniwch y tôn, yr arddull weledol, ac unrhyw elfennau gofynnol fel hashnodau neu alwadau i weithredu. Gosodwch ddisgwyliadau ynghylch amserlenni, fformatau cynnwys, a phrosesau cymeradwyo i gadw popeth ar y trywydd iawn ac wedi'i alinio. Mae briff cryf yn helpu dylanwadwyr i greu cynnwys sy'n teimlo'n ddilys tra'n dal i gyflawni eich nodau.
Beth yw dyfodol marchnata dylanwadwyr?
Cyfleoedd cynyddol i fusnesau sy'n gweithio gyda micro-ddylanwadwyr
Mae dylanwadwyr llai o rhwng 1,000 a hyd at 100,000 o ddilynwyr yn cyflawni canlyniadau cryf i frandiau. Mae eu cynnwys dilys a'u cynulleidfaoedd targed niche yn aml yn arwain at ymddiriedaeth uwch a chyfraddau trosi gwell na chrewyr mwy.
Bydd platfformau dylanwadwyr yn parhau i esblygu i fod yn sianeli gwerthu
Mae TikTok ac Instagram bellach yn caniatáu i ddylanwadwyr werthu eich cynhyrchion mewn amser real trwy siopa byw. Mae hyn yn caniatáu iddynt droi eu cynnwys yn werthiannau uniongyrchol a gyrru canlyniadau cyflymach i'ch busnes.
Mae dylanwadwyr yn symud o adrodd straeon wedi'i sgriptio i adrodd straeon personol
Mae dylanwadwyr yn canolbwyntio llai ar gynnwys perffaith a mwy ar straeon personol go iawn sy'n meithrin ymddiriedaeth ac yn hybu ymgysylltiad. Pan fydd dylanwadwyr yn rhannu eu hemosiynau go iawn, mae eu dilynwyr yn fwy tebygol o ymddiried yn eu hargymhellion. Gall hyn arwain at hygrededd brand uwch.
Partneriaethau sy'n seiliedig ar berfformiad
Mae brandiau'n symud i dalu dylanwadwyr yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach na thaliadau sefydlog. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar fetrigau fel cliciau, gwerthiannau, neu ymgysylltiad. Mae hyn yn caniatáu i'r ddwy ochr elwa'n uniongyrchol os yw'r bartneriaeth yn llwyddiannus.
Os ydych chi'n chwilio am gyllid i helpu gyda marchnata dylanwadwyr neu i dalu costau eraill sy'n gysylltiedig â dechrau neu dyfu busnes, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.