Angylion Buddsoddi Cymru yn cryfhau’r cynnig cyd-fuddsoddi, gyda hwb o £3 miliwn i’r gronfa gyd-fuddsoddi

Tom-Preene
Rheolwr Cronfa Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Twf
Marchnata
Woman working at Polytag

Bydd Angylion Buddsoddi Cymru yn parhau i gefnogi busnesau a buddsoddwyr Cymru gyda chyd-fuddsoddiadau wedi'i dargedu, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod wedi cynyddu Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £3 miliwn.

Lansiwyd Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8 miliwn ym mis Mehefin 2018, ac ers hynny mae wedi darparu cyllid cyfatebol ar gyfer 60 rownd o fuddsoddiadau ar draws 48 o fusnesau gwahanol, gan ddenu £10 miliwn o 520 o fuddsoddiadau. Mae gan Angylion Buddsoddi Cymru bellach mwy na 200 o fuddsoddwyr ar ei blatfform.

Drwy annog buddsoddiad gan angylion busnes, mae'r gronfa gyd-fuddsoddi yn caniatáu i syndicetiau ddod â'u harbenigedd i fusnesau sy'n tyfu'n gyflym ynghyd â'u cyfalaf, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer mentora, arweiniad a thwf. Mae hefyd wedi caniatáu i fuddsoddwyr ysgogi arloesedd mewn sectorau a grwpiau allweddol, gan gynnwys technolegau gwyrdd arloesol, technoleg feddygol a thechnoleg ariannol.

Mae Angylion Buddsoddi Cymru hefyd wedi helpu i ehangu mynediad at fuddsoddiadau Angylion a denu buddsoddwyr newydd – gan gynnwys drwy gyfrwng Merched Angylion Buddsoddi Cymru, a sefydlwyd gyda chefnogaeth Banc Busnes Prydain. Mae gan y syndicet bellach fwy na 50 o aelodau.

Fe wnaeth Polytag, sydd wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, sicrhau cefnogaeth syndicet o 15 o fuddsoddwyr benywaidd gan Merched Angylion Cymru (MAC) ym mis Mai 2024 gyda buddsoddiad cyfunol o £100,000 a gafodd ei ariannu'n gyfatebol gyda £100,000 pellach o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Rachel Ashley oedd y prif fuddsoddwr.

O dan arweiniad y Prif Weithredwr Alice Rackley, mae Polytag yn defnyddio technoleg sy'n seiliedig ar ddata i helpu manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr yn y diwydiant bwyd a diod i olrhain ailgylchu deunydd pacio. Mae'r busnes yn chwarae rhan allweddol yng nghynllun dychwelyd blaendal arfaethedig Llywodraeth Cymru trwy helpu i olrhain a dychwelyd cynwysyddion, ac mae gweithredwyr yn Ewrop, India a'r Unol Daleithiau eisoes yn bwriadu manteisio ar ei dechnoleg.

Yn ddiweddar, enillodd Polytag y categori Buddsoddiad Gorau o dan Arweiniad Merched mewn Arloesedd yng Ngwobrau Cymdeithas Angylion Busnes y DU (a adwaenir yn gryno fel UKBAA). Mae'r Wobr yn cydnabod Alice fel mentergarwr a'r rôl a gymerwyd gan Rachel Ashley fel y buddsoddwr benywaidd blaenllaw wrth gefnogi Polytag fel busnes arloesol iawn sy'n canolbwyntio ar dwf ac sydd wedi dod nid yn unig â chyfalaf risg, ond gwerth ychwanegol sylweddol i gefnogi twf a chynyddu graddfa’r busnes ymhellach.

Bydd y £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru bellach yn caniatáu i Angylion Buddsoddi Cymru barhau i gefnogi busnesau a buddsoddwyr Cymru, gan gefnogi buddsoddiad effaith wedi'i dargedu mewn sectorau sy'n gynyddol bwysig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Mae Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at ein system cymorth busnes yng Nghymru.

“Rydym wedi ychwanegu £3 miliwn arall at y gronfa i sicrhau bod hyd yn oed mwy o ddoniau mentergarol ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i’w galluogi i gychwyn, cryfhau a thyfu.”

Dywedodd Alice Rackley, Prif Weithredwr Polytag: “Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Angylion Buddsoddi Cymru a Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru o fudd gwirioneddol pan gafodd ei chyfuno â’r buddsoddiad a’r mewnwelediad a gawsom gan Ferched Angylion Cymru. Fe wnaeth hynny ganiatáu i ni weithio ar gynllun llwyddiannus ar gyfer olrhain deunydd pacio a gwastraff yn ddigidol, ac rydym wedi’i gymryd i farchnadoedd eraill.

“Mae Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, ac mae Angylion Buddsoddi Cymru wedi ein helpu i gyflenwi’r atebion a’r arferion gorau rydyn ni’n eu darparu i frandiau a chwmnïau ledled y byd.”

Meddai Tom Preene, Rheolwr Cronfa Angylion Buddsoddi Cymru: “Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r £3 miliwn pellach mewn cefnogaeth i Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru, a fydd yn caniatáu i ni barhau i dyfu’r gymuned angylion yng Nghymru, gan gysylltu entrepreneuriaid sy’n chwilio am gyllid ac arbenigedd ag angylion busnes a syndicetiau.

“Rydym yn canolbwyntio ar arallgyfeirio’r ffynonellau cyfleoedd llif bargeinion sydd ar gael i fusnesau ac ymgysylltu â sylfaen buddsoddwyr ehangach ar draws pob sector yng Nghymru. Yn wir, gyda mwy na 200 o aelodau, ni yw rhwydwaith Angylion mwyaf Cymru erbyn hyn ac rydym yn ennill momentwm go iawn ar ôl cefnogi buddsoddiad o £3.1 miliwn, a defnyddio £2 filiwn o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.”

Am ragor o wybodaeth am Angylion Buddsoddi Cymru, ewch i weld gwefan Banc Datblygu Cymru.