Tai cyntaf yn cael eu gwerthu yn ail gam prosiect preswyl Sir Gaerfyrddin wedi'i gefnogi gan fenthyciad o £3.27 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru

Rob-Good
Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
New Generation Developments

Mae gwaith bron â chael ei gwblhau ar ddatblygiad o 24 o gartrefi ecogyfeillgar newydd yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn benthyciad o £3.27 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae New Generation Developments Ltd eisoes wedi cytuno ar werthiannau oddi ar y cynllun yn ail gam Park View Drive, yng Nghydweli. Dechreuodd y gwaith ar y safle, sy'n cynnwys 24 byngalo tair ystafell wely, yn 2021, gyda New Generation Developments Ltd yn ariannu datblygiad ail gam y prosiect gyda'r benthyciad saith ffigur gan y Banc Datblygu, ynghyd â chefnogaeth gan Gymhelliant Datblygu Gwyrdd y Banc Datblygu.

Mae Park View Drive yn edrych dros y Gwendraeth Fawr gerllaw ac ar draws Bae Caerfyrddin. Mae gan bob un o'r byngalos ei bwmp gwres ffynhonnell aer ei hun a byddant yn cyflawni sgôr EPC-A. Mae pedwar o'r cartrefi yn ail gam y safle eisoes wedi'u cadw, gyda diddordeb pellach gan hap brynwyr eraill.

Dywedodd Neil Dodd, Cyfarwyddwr New Generation Developments: “Mae galw mawr am eiddo fel ein un ni wrth i berchnogion hŷn edrych i leihau maint eu cartrefi, ac rydym wedi cael diddordeb yn y cartrefi gan brynwyr posibl o bob cwr o’r DU. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwerthu ein pedwar byngalo cyntaf oddi ar y cynllun.

“Fe wnaeth y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru ein helpu i symud y datblygiad ymlaen yn hyderus ac yn wir, roedd eu cefnogaeth yn amhrisiadwy.”

Dywedodd Rob Good a Brad Thatcher, Swyddogion Datblygu Eiddo ym Manc Datblygu Cymru: “Mae New Generation Developments yn adeiladu cartrefi sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd gyda pherchnogion tai sy’n ymddeol, gan ddarparu cartrefi llai sydd eu hangen yn fawr mewn cymuned sy’n tyfu mewn rhan hardd o Gymru.

“Rydym yn falch bod ein benthyciad wedi gallu eu cefnogi gyda chyllid a symud y prosiect ymlaen, ac mae'n ardderchog bod pobl eisoes wedi dechrau gwneud eu cartref newydd yma.”

Mae'r Banc Datblygu yn darparu cyllid datblygu eiddo preswyl, cymysg ei ddefnydd, a masnachol tymor byr o £150,000 i £10 miliwn o ystod o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a Chymhelliant Datblygu Gwyrdd.

Fel sefydliad cyllid cyhoeddus sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau ac ecwiti i fusnesau, pobl a chymunedau Cymru i gefnogi amcanion polisi ehangach y Llywodraeth gan gynnwys y newid i economi carbon isel a datblygu cartrefi newydd ac eiddo masnachol. Mae £959 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig a datblygwyr eiddo gan y Banc Datblygu ers ei lansio yn 2017.

Mae gan y Banc Datblygu bellach £2 biliwn mewn cronfeydd o dan reolaeth a phortffolio o fwy na 3,600 o gwsmeriaid busnesau bach. Helpodd cyllid dyled ac ecwiti gwerth cyfanswm o £152 miliwn 502 o fusnesau i greu a diogelu 6,185 o swyddi ledled Cymru yn ystod 2024/25. Roedd hyn yn cynnwys £48 miliwn ar gyfer 23 o fusnesau eiddo yn gweithio ar 24 o ddatblygiadau newydd gyda 390 o gartrefi newydd wedi'u darparu, ac roedd 125 ohonynt yn fforddiadwy. Cyfanswm y cyd-fuddsoddiad gan y sector preifat oedd £14 miliwn.