Mae gwneuthurwr fferyllol o Ogledd Cymru sy'n cael ei gefnogi gan Fanc Datblygu Cymru yn cyflymu ei ehangiad byd-eang drwy lansio dau gynnyrch newydd a datgelu cynlluniau i ymestyn ei gyrhaeddiad byd-eang.
Mae Reacta Healthcare, sydd wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, yn trawsnewid y ffordd y mae alergeddau bwyd yn cael eu diagnosio. Mae'n cyflogi 80 o bobl ac mae eu cynhyrchion Her Bwyd Geneuol (Oral Food Challenge a adwaenir yn gryno yn y diwydiant fel OFC) yn cael eu cludo i dros 300 o safleoedd treialon clinigol ledled y byd. Mae Reacta Healthcare yn cael ei gydnabod fel yr unig gyflenwr OFC sy'n gweithio i safonau Arfer Gweithgynhyrchu Da (Good Manufacturing Practice a adwaenir yn y diwydiant fel GMP) ac yn gweithredu ledled y byd yn cyflenwi treialon clinigol byd-eang.
Mae'r cwmni'n ehangu ei ôl troed byd-eang wrth i'r galw am ei ddiagnosteg alergedd bwyd gradd fferyllol barhau i gynyddu. Yn 2025, mae wedi lansio dau gynnyrch newydd. Mae'r ddau yn ategu ei genhadaeth, sef gwneud diagnosis alergedd bwyd yn fwy cywir, effeithlon a diogel. Mae'r cynhyrchion hyn yn helpu cwmnïau fferyllol a sefydliadau ymchwil i gyflwyno'r genhedlaeth nesaf o driniaethau alergedd bwyd yn gyflymach a chyda mwy o hyder rheoleiddio.
Gyda'r galw am ddiagnosteg alergedd bwyd yn cynyddu'n sydyn – wedi'i yrru gan oddeutu 250 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gydag alergeddau bwyd – mae Reacta Healthcare yn helpu i ddiwallu angen byd-eang critigol. Yn y DU yn unig, mae tua 8.5 y cant o'r boblogaeth wedi'u heffeithio.
Wedi'i sefydlu ar dechnoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Manceinion ac a ddeilliodd o dan arweiniad yr Athrawon Ashley Woodcock a Claire Mills, symudodd Reacta Healthcare i Ogledd Cymru yn 2018 i ehangu cynhyrchiant. Ers hynny mae'r cwmni wedi adeiladu cyfleuster o'r radd flaenaf sydd wedi'i drwyddedu gan yr MHRA ar gyfer Arfer Gweithgynhyrchu Da (GMP) - gan gynhyrchu cynhyrchion gradd fferyllol i'w defnyddio mewn ymchwil glinigol.
Heddiw, mae Reacta Healthcare yn gwmni preifat proffidiol sy'n tyfu'n gyflym gyda chwsmeriaid sy'n cynnwys cwmnïau fferyllol byd-eang blaenllaw, cwmnïau biodechnoleg, a sefydliadau ymchwil contract.
Ar ôl cefnogi Reacta gyntaf yn 2019, mae'r Banc Datblygu bellach wedi buddsoddi £2.8m mewn ecwiti i helpu'r busnes i ehangu ei gapasiti gweithgynhyrchu ac ehangu ei bortffolio cynnyrch. Mae hyn yn cynnwys £1m mewn rownd ariannu gwerth £2.9m yn 2021 a arweiniwyd gan Praetura Ventures, sydd wedi'i leoli ym Manceinion, y rheolwr cronfa cyfalaf menter sy'n targedu busnesau cyfnod cynnar mewn sectorau twf uchel.
Mae'r bartneriaeth hon wedi helpu Reacta Healthcare i drawsnewid o fod yn fusnes gwyddor bwyd i fod yn wneuthurwr fferyllol trwyddedig – gan ei osod mewn sefyllfa dda i gyflenwi rhaglenni ymchwil clinigol byd-eang ar raddfa fawr.
Mae'r portffolio cynnyrch presennol eisoes wedi cefnogi nifer o dreialon clinigol therapiwtig alergedd bwyd yn fyd-eang gan gynnwys ei ddefnyddio mewn treial Cyfnod 3 ar gyfer therapi clwtyn cnau daear newydd y disgwylir iddo geisio cymeradwyaeth reoleiddiol yn UDA yn 2026.
Y tu hwnt i'w gyflawniadau gwyddonol, mae Reacta wedi cael effaith leol gref – gan greu swyddi o ansawdd uchel a buddsoddi yn ecosystem gwyddorau bywyd Cymru.
Paul Abrahams, Prif Weithredwr Reacta Healthcare: “Mae ein gwaith yn helpu i wella cywirdeb a diogelwch profion alergedd bwyd ledled y byd. Rhoddodd y gefnogaeth barhaus gan Fanc Datblygu Cymru’r hyder a’r cyfalaf inni dyfu – gan ehangu ein hamrywiaeth o gynhyrchion a’n hôl troed byd-eang a pharhau i gadw ein gwreiddiau yng Ngogledd Cymru.
“Mae ein perthynas â Banc Datblygu Cymru wedi bod yn allweddol. Roedd eu dull buddsoddi amyneddgar a’u cred yn ein gweledigaeth yn ein galluogi i symud yn gyflymach, meddwl ar raddfa fwy, a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion.
“Rydym yn profi y gall gwyddoniaeth o’r radd flaenaf ffynnu yma yng Nghymru. O Lannau Dyfrdwy i’r byd, rydym yn falch o fod yn gwneud gwahaniaeth.”
Belinda Mortell, Pennaeth Masnachol yn Reacta Healthcare: “Mae’r therapïau newydd hyn yn newid bywydau cleifion, ac mae Reacta wedi bod yn rhan o’r daith honno o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn falch bod ein cynhyrchion a wneir yng Ngogledd Cymru yn chwarae rhan wrth lunio gofal iechyd byd-eang.”
Dywedodd Duncan Gray, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg, Banc Datblygu Cymru:
“Mae Reacta Healthcare yn stori lwyddiant Gymreig wych. Mae eu harloesedd, eu hymrwymiad i ansawdd a’u huchelgais fyd-eang yn arddangos potensial Gogledd Cymru fel canolfan ar gyfer gwyddorau bywyd uwch a gweithgynhyrchu.”
Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £100,000 a £350,000 ar gael i fusnesau technoleg Cymru a'r rhai sy'n symud i Gymru yn ystod y cyfnod profi’r-cysyniad.