Caffi gan ffoaduriaid o Wcráin yn ehangu i Abertawe gyda hwb o £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Ruta Kitchen

Mae caffi a sefydlwyd gan ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi agor safle newydd yn Abertawe, gyda chymorth microfenthyciad o £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru. 

Agorwyd Ruta Kitchen yng Nghastell-nedd gan y sylfaenwyr Vladimir Pavliiciuc, Volodymyr Iliev ac Ihor Tertyshnyi ym mis Ionawr 2025, gyda'r nod o gefnogi pobl o Wcráin sydd wedi'u dadleoli a'u helpu i integreiddio i'r gymuned. Mae'r caffi'n dod â bwyd a diwylliant Cymru ac Wcráin ynghyd, yn ogystal â darparu gwaith i ffoaduriaid yn dilyn yr ymosodiad ar Wcráin.  Mae'r caffi cyntaf, sydd ar Stryd Orchard yng Nghastell-nedd, wedi bod yn boblogaidd gyda phobl leol. Mae'n darparu amrywiaeth o fwydydd o Wcráin a bwydydd Prydeinig, o borscht i frecwast traddodiadol.

Yn sgil poblogrwydd y caffi yng Nghastell-nedd, cafodd y sylfaenwyr eu hannog i ehangu eu gorwelion ac agor ail gaffi. Mae hwnnw bellach wedi agor ar Stryd Nelson yn Abertawe, a chefnogwyd y gwaith o adnewyddu ac agor y caffi gan ficrofenthyciad o £25,000 drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Meddai Vladimir Paviliiciuc, un o sylfaenwyr Ruta Kitchen: “Pan wnaethon ni ddechrau'r busnes, roedden ni eisiau creu rhywle a fyddai’n dod â diwylliant Cymru ac Wcráin ynghyd drwy fwyd - ond roeddem hefyd eisiau creu cyfleoedd gwaith i deuluoedd o Wcráin yn yr ardal. Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth yng Nghastell-nedd ac wedi magu llawer o brofiad o redeg caffi, felly fe benderfynon ni mai dyma'r amser i chwilio am safle ar gyfer caffi arall yn Abertawe.

“Mae’r safle yn Abertawe yn wych, a fydden ni ddim wedi gallu manteisio ar y cyfle hwnnw heb gefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Nid oedd gennym ddigon o arian i symud i mewn ac adnewyddu'r lle ar ein pen ein hunain a'i gyflenwi â stoc newydd. Mae'r cyllid gan y Banc Datblygu yn golygu bod gennym nawr fusnes sy'n tyfu, sy'n creu swyddi ac sydd o fudd i gymunedau lleol.”

Meddai Charlotte Price, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae’r gwaith y mae Ruta Kitchen wedi’i wneud i gefnogi teuluoedd o Wcráin yn lleol wedi bod yn wych, ac mae'r perchnogion wedi cael croeso cynnes iawn gan y gymuned yng Nghastell-nedd. Mae'r buddsoddiad hwn, drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, ynghyd â'r enw da y maent eisoes wedi'i feithrin yng Nghastell-nedd, wedi caniatáu iddynt gymryd y cam nesaf ar eu taith fel busnes.”

Daeth y microfenthyciad ar gyfer Ruta Kitchen o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sy'n werth £500 miliwn. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r gronfa'n cynnig benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti o rhwng £25,000 a £10 miliwn i fusnesau yng Nghymru gyda thelerau o hyd at 15 mlynedd.