Byddwn yn argymell Banc Datblygu i unrhyw fusnes sy’n ystyried ehangu neu symud cyfleoedd yn eu blaen – mae nhw’n enghraifft wych o sefydliad Cymreig yn gwneud ei orau i helpu busnesau Cymreig.

Meddai Becky Swift, perchennog MamGu Welshcakes

Hyblyg
Talwch eich benthyciad yn ôl dros un i 10 mlynedd
Personnel
Cefnogaeth wyneb yn wyneb gan ein timau lleol
Cefnogaeth
Cyswllt lleol, pwrpasol i gefnogi eich cai
Value
Strong network of advisors for you

Tri rheswm gwych i weithio gyda ni

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn buddsoddi mewn busnesau sydd ag addewid masnachol gwirioneddol, er budd Cymru a’i phobl.

Benthyca rhwng £1k - £50k

Mwynhewch ad-daliadau hyblyg heb unrhyw ffioedd ad-dalu cynnar.

Telerau hyblyg

Talwch eich benthyciad yn ôl dros un i 10 mlynedd.

Cyfraddau llog sefydlog

Mae eich cyfradd llog yn sefydlog am gyfnod y benthyciad

Benthyciadau llwybr cyflym

Gwnewch gais am fenthyciadau o hyd at £50k gyda phenderfyniad cyflymach, telerau ac amodau yn berthnasol.

Sut y gallwn ni helpu

Rydym yn helpu pobl i gyrraedd eu huchelgais, nid yn unig trwy fenthyca ond trwy gefnogaeth ac arbenigedd ein tîm - rydym yn lleol i'ch busnes a dim ond galwad ffôn i ffwrdd.

Rydych chi'n adnabod eich busnes yn well na neb, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi a chynnig cyllid hyblyg i helpu'ch busnes i dyfu

  • Prynu offer
  • Rhentu eiddo
  • Llogi staff
  • Marchnata
  • Prynu stoc

Gall ein benthyciadau ariannu'r pryniannau hyn a'ch helpu i roi hwb a chodi'ch busnes newydd oddi ar y ddaear.

P'un a oes angen i chi fodloni'r galw neu os oes gennych gynlluniau twf uchelgeisiol, gallai cyllid ariannu eich galluogi i:

  • Rentu neu uwchraddio eiddo
  • Rhoi hwb i'ch llif arian
  • Llogi staff ychwanegol
  • Buddsoddi mewn gwerthiant a marchnata
  • Prynu stoc ychwanegol
  • Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau

Gallwn ni eich helpu chi i wneud y buddsoddiadau angenrheidiol i gryfhau neu dyfu eich busnes.

Waeth os ydych chi’n cychwyn ar daith ddatgarboneiddio eich busnes neu’n parhau â hi, mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cyllid â chymhelliant i gefnogi eich busnes.


Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd
 

Gwneud cais am micro fenthyciad

press icon

Cam 1

Cwblhewch ein gwirydd cymhwyster mewn dim ond ychydig funudau.

pc icon

Cam 2

Gwnewch gais ar-lein. Yna byddwn yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod y camau nesaf.

tick icon

Cam 3

Unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom, caiff eich cais ei adolygu ac fe wneir penderfyniad.

wallet icon

Cam 4

Unwaith y bydd yr holl ddogfennau yn eu lle, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar yr amser gorau i'ch busnes gael yr arian.

Sut mae micro fenthyciadau yn gweithio?

Mae micro fenthyciad yn enw arall ar fenthyciad busnes bach. Gallant gefnogi eich busnes i ddechrau neu dyfu a gellir eu defnyddio i brynu neu rentu eiddo, talu costau staff, prynu offer, stoc neu gerbydau ac ar gyfer cyfalaf gweithio.

Yna ad-delir y benthyciad dros gyfnod o amser (rhwng un a 10 mlynedd gyda ni) mewn rhandaliadau misol sy’n cynnwys cyfalaf a llog. Ar ddiwedd y tymor a drefnwyd bydd y benthyciad busnes yn cael ei ad-dalu'n llawn.

Bydd y gyfradd llog yn sefydlog am gyfnod y benthyciad fel eich bod yn gwybod na fydd swm eich ad-daliad misol yn newid yn ystod y tymor y cytunwyd arno.

Os ydych am ad-dalu’ch benthyciad yn gynnar gallwch wneud hynny heb unrhyw gostau ychwanegol – cysylltwch â’ch rheolwr portffolio i gael datganiad adbrynu fel eich bod yn gwybod faint sydd angen i chi ei ad-dalu’n llawn fel y gallwn gau eich benthyciad.




Fel arfer codir ffi trefnu o 1% ar bob micro fenthyciad.

 

Daw ein micro fenthyciadau gyda chyfraddau llog cystadleuol yn amrywio o 6.5% i 10.75%, mae'r swm a gewch yn dibynnu ar amgylchiadau unigol eich busnes.

Pa bynnag gyfradd a gewch, mae'n sefydlog am oes eich benthyciad gyda ni.

Wrth inni weithio gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn gallu lleihau’r gyfradd llog ar ein benthyciadau hyd at 2% ar gyfer busnesau sydd naill ai wedi’u lleoli mewn Ardal Fenter Gymreig neu’r rhai sy’n bwriadu adleoli i un. Gallwch ddarllen bopeth sydd a wnelo cyfraddau llog ar ein tudalen cyfraddau llog ymroddedig.

Benthyciadau llwybr cyflym

Mae ein benthyciadau llwybr cyflym hyd at £50k ac ar gael i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd neu fwy.

Mae proses ymgeisio rhain yn symlach a gwneir penderfyniad ymhen dau ddiwrnod gwaith unwaith y bydd yr holl wybodaeth wedi dod i law. I wneud cais bydd angen i chi ddarparu datganiad o asedau ac atebolrwydd yn y lle cyntaf.

Mae cyfraddau llog yn sefydlog ac yn amrywio o 7.5% i 10.75%, mae'r swm a gewch yn dibynnu ar amgylchiadau unigol eich busnes.

 

Micro fenthyciadau

Mae ein micro fenthyciadau arferol hyd at £50k ac nid ydynt yn dibynnu ar hanes masnachu busnes.

I wneud cais bydd angen i chi ddarparu:

  • Crynodeb o'ch cynllun busnes
  • Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
  • Rhagolygon llif arian dwy flynedd ar gyfer benthyciadau dros £25,000 (Blwyddyn ar gyfer benthyciadau hyd at £25,000)
  • Gwybodaeth reoli gyfredol
  • Cyfriflenni banc y tri mis blaenorol (personol os yw’n fusnes wedi dechrau o’r newydd)
  • Datganiad o asedau ac atebolrwydd

Mae cyfraddau llog yn sefydlog ac yn amrywio o 6.5% i 10.75%, mae'r swm a gewch yn dibynnu ar amgylchiadau unigol eich busnes.


 

Rydym yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru sy’n cynnig cyngor am ddim ac yn gallu eich helpu i baratoi ar gyfer gwneud cais am fenthyciad. Gallwch hefyd ddarllen canllaw ar sut i ysgrifennu cynllun busnes.

 

Nid yw hynny'n broblem, edrychwch ar ein tudalen benthyciadau busnes i weld yr opsiynau sydd ar gael. Rydym yn cynnig benthyciadau mwy o hyd at £5miliwn, yn dibynnu ar eich anghenion busnes.