Mae adroddiad newydd gan Fanc Busnes Prydain a Dirnad Economi Cymru yn dangos, er bod y rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig Cymru yn parhau i fod yn sefydlog yn ariannol, bod llawer yn parhau i wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at gyllid ac yn llai tebygol na'u cymheiriaid mewn gwledydd datganoledig eraill o geisio cyllid ar gyfer twf yn y dyfodol.
Mae Adroddiad Mynediad at Gyllid Busnesau Bach a Chanolig Cymru 2026 wedi canfod bod 66% o fusnesau bach a chanolig Cymru yn defnyddio cyllid allanol ar hyn o bryd, ac mae wyth o bob deg (80%) yn nodi sefyllfa llif arian gadarnhaol. Er gwaethaf hyn, nododd 19% o fusnesau llai Cymru eu bod wedi profi rhwystrau i gael mynediad at gyllid, y gyfran uchaf ymhlith y gwledydd datganoledig.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ragolygon mwy gofalus ymhlith busnesau bach a chanolig Cymru o ran buddsoddiad yn y dyfodol. Dim ond 17% o fusnesau Cymru sy'n disgwyl y bydd angen cyllid ychwanegol arnynt dros y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â 42% yng Ngogledd Iwerddon a 47% yn yr Alban. Er bod 62% o fusnesau bach a chanolig Cymru sy'n rhagweld y bydd angen cyllid arnynt yn dweud eu bod yn hyderus y byddant yn ei sicrhau, mae'r galw cyffredinol am gyllid yn parhau i fod yn is nag mewn mannau eraill yn y DU.
Mae amrywiadau rhanbarthol o fewn Cymru hefyd yn amlwg. Roedd busnesau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru a De-orllewin Cymru yn fwy tebygol o nodi rhwystrau i gyllid (21% yr un), tra bod busnesau De-orllewin Cymru yn lleiaf tebygol o deimlo'n hyderus ynghylch sicrhau cyllid ychwanegol. Ar yr un pryd, busnesau bach a chanolig yn Ne-ddwyrain Cymru oedd fwyaf tebygol o nodi gofyniad cyllid uwchlaw £250,000, gan adlewyrchu proffiliau twf gwahanol ar draws rhanbarthau.
Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu pwysigrwydd ecosystem cyllid amrywiol a hygyrch i gefnogi buddsoddiad busnes, arloesedd a thwf ar draws pob rhan o Gymru.
Dywedodd Susan Nightingale, Cyfarwyddwr Rhwydwaith y DU, Banc Busnes Prydain:
“Mae busnesau Cymru yn parhau i ddangos gwydnwch a hyder, gyda’r rhan fwyaf yn nodi llif arian cadarnhaol a disgwyliadau twf cyson. Ac eto, mae gwahaniaethau rhanbarthol a strwythurol clir yn parhau o ran mynediad at gyllid, yn enwedig ar gyfer busnesau llai a masnachwyr unigol. Gyda Chymru yn cofnodi’r gyfran uchaf o fusnesau llai sy’n profi rhwystrau i gyllid ymhlith y gwledydd datganoledig, mae’n hanfodol bod gan bob busnes, lle bynnag y bônt yn y wlad, y wybodaeth, yr hyder a’r gefnogaeth i sicrhau’r cyllid cywir iddynt. Bydd hyn yn allweddol i ddatgloi twf cynaliadwy ar draws pob rhan o Gymru.”
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru:
“Mae Adroddiad Mynediad at Gyllid Busnesau Bach a Chanolig Cymru eleni yn dangos darlun cymysg. Mae'n galonogol gweld llawer o fusnesau bach a chanolig Cymru yn nodi llif arian cryf, ond eto mae'n destun pryder bod hyder a galw yn parhau i fod ar ei hôl hi i wledydd eraill y DU. Os ydym am i'n busnesau arloesi, buddsoddi a thyfu, rhaid i gau'r bwlch hwnnw barhau i fod yn flaenoriaeth.
“Nid yw gwella mynediad at gyllid yn rhywbeth y gall unrhyw sefydliad ei ddatrys ar ei ben ei hun, ond bydd Banc Datblygu Cymru yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi busnesau bach a chanolig, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid ar draws yr ecosystem cyllid ehangach i helpu busnesau i fuddsoddi, arloesi a thyfu.”
Mae Dirnad Economi Cymru yn gydweithrediad ymchwil unigryw rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Busnes Bangor, y Ganolfan Ymchwil Menter, a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).