Pan mae'n bryd gollwng yr awenau: ochr emosiynol ymadael eich cwmni technoleg a ddechreuwyd o’r newydd

Rhan 4 - Gweithio tuag at ymadael
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Two people meeting

Prif bethau i'w hystyried a’u cofio

  • Mae gadael busnes yn gymaint o drawsnewidiad emosiynol ag yw'n drafodiad ariannol.
  • Mae llawer o sylfaenwyr yn tanamcangyfrif y teimlad o golled a all ddilyn ymadawiad llwyddiannus
  • Mae paratoi ar gyfer bywyd ar ôl gadael yr un mor bwysig â pharatoi'r busnes i'w werthu
  • Mae timau cryf a systemau cadarn yn lleihau risg ac yn gwneud ymadael neu gollwgn fynd yn rhywbeth sy’n haws i’w wneud
  • Mae cyd-fynd â buddsoddwyr o ran yr amseru a’r disgwyliadau yn helpu i osgoi penderfyniadau anodd yn ddiweddarach
  • Mae sylfaenwyr sy'n cynllunio pwrpas y tu hwnt i'r busnes yn llywio ymadawiad sy’n fwy llwyddiannus

 

I lawer o sylfaenwyr, mae ymadawiad yn cael ei ystyried fel y gyrchfan eithaf. Dyma'r garreg filltir sy'n arwydd o lwyddiant. Y foment y mae blynyddoedd o risg, aberth a ffocws di-baid yn talu ar ei ganfed o'r diwedd. O'r tu allan, gall edrych fel y llinell derfyn: pennawd, ffigur bargen, eiliad o ryddid.

Ond i'r bobl sy'n byw drwyddo, anaml y bydd ymadawiad mor syml â hynny. Nid dim ond trafodiad masnachol yw gwerthu busnes. Yn aml, mae'n un o'r adegau mwyaf cymhleth yn emosiynol ym mywyd sylfaenydd. Mae balchder a rhyddhad yn eistedd ochr yn ochr ag ansicrwydd, tristwch a theimlad annisgwyl o ddadleoliad. Nid dim ond gwerthu ased y mae sylfaenwyr. Maent yn camu i ffwrdd o rywbeth sydd wedi llunio eu hunaniaeth, eu trefn ddyddiol a'u pwrpas ers blynyddoedd.

Mae deall yr heriau emosiynol sy'n gysylltiedig ag ymadael â chwmni a ddechreuwyd o’r newydd yn rhan bwysig o baratoi ar gyfer yr ymadawiad hwnnw. Oherwydd hyd yn oed pan fydd ymadawiad yn llwyddiannus, gall y realiti emosiynol fod yn wahanol iawn i'r stori y mae pobl yn ei dychmygu.

Pam mae gadael cwmni newydd mor heriol yn emosiynol i sylfaenwyr

Anaml y caiff ochr emosiynol ymadawiad ei thrafod yn agored, ond yn aml mae'n un o rannau anoddaf y broses.

Mae sylfaenwyr yn adeiladu busnesau gyda mwy na rhesymeg. Maent yn eu hadeiladu gydag obsesiwn, egni a chred. Anaml y bydd cwmni a gafodd ei ddechrau o’r newydd yn ddim ond swydd. Mae'n dod yn estyniad o'r sylfaenydd. Mae'n amsugno eu hamser, eu sylw, eu perthnasoedd ac yn aml eu synnwyr o hunanwerth. Y cwmni yw lle mae uchelgais yn byw, lle mae problemau'n cael eu datrys, lle mae hunaniaeth yn cael ei llunio.

Dyna pam y gall ei werthu deimlo fel colli rhywbeth personol iawn. Mae gan y cwestiwn “Pam mae gwerthu busnes mor emosiynol i sylfaenwyr?” ateb syml: oherwydd nid yw sylfaenwyr yn gadael busnes yn unig. Maent yn gadael pennod o’u bywyd.

Hyd yn oed os yw'r canlyniad yn gadarnhaol, hyd yn oed os yw'r gwerthfawrogiad yn gryf, hyd yn oed os yw'r sylfaenydd wedi bod yn gweithio tuag at y foment hon ers blynyddoedd, mae gadael fynd neu ollwng yr awenau yn dal i fod yn beth heriol yn emosiynol. Mae'n golygu trosglwyddo rheolaeth, newid rolau, a derbyn y bydd y busnes yn parhau hebddyn nhw. Nid yw'r newid hwnnw bob amser yn hawdd.

Yr heriau emosiynol mwyaf y mae sylfaenwyr yn eu hwynebu yn ystod ymadawiad

Un o'r heriau mwyaf cyffredin yw peidio â theimlo'n barod i adael ollwng gafael. Gall buddsoddwr fod yn fodlon ar gynnig sy'n darparu enillion cryf. Gall cynghorwyr gytuno bod yr amseru'n iawn. Ond yn aml mae sylfaenwyr yn dal i deimlo bod mwy i'w wneud. Mwy o dwf i'w ddatgloi. Mwy o botensial o hyd.

Nid yw'r camliniad hwn yn anarferol. Mae sylfaenwyr yn tueddu i weld y busnes o ran posibilrwydd, tra bod yn rhaid i fuddsoddwyr feddwl hefyd o ran amserlenni a chylchoedd portffolio. Unwaith y bydd cyfalaf allanol yn gysylltiedig, mae ymadawiadau yn dod yn benderfyniadau a rennir, nid penderfyniadau sylfaenwyr yn unig. Gall hynny greu tensiwn emosiynol, yn enwedig i fentergarwyr sydd wedi treulio blynyddoedd yn gwneud pob penderfyniad eu hunain.

Her arall yw'r ymdeimlad o golled a all ddilyn ymadawiad. Mae busnes yn cael ei adeiladu trwy fuddsoddiad personol dwys. Y drefn arferol, yr argyfyngau, y buddugoliaethau, y tîm, y datrys problemau cyson. Mae'r rhain yn dod yn rhan o fywyd bob dydd. Pan fydd hynny'n dod i ben, gall sylfaenwyr deimlo nad oes ganddyn nhw angor mwyach. Hyd yn oed pan fo'r ymadawiad yn rhywbeth yr oeddent ei eisiau, gall y realiti emosiynol gynnwys galar. Oherwydd bod rhywbeth ystyrlon wedi dod i ben.

O'r tu allan, mae ymadawiad yn edrych fel breuddwyd. Taliad mawr. Diogelwch ariannol. Rhyddid rhag pwysau. Lle i anadlu. Ond mae llawer o sylfaenwyr yn darganfod nad yw'r foment ar ôl ymadawiad yn ddathliad pur. Gall deimlo'n rhyfedd o dawel.

Mae sylfaenwyr sydd wedi gadael cwmni a ddechreuwyd o’r newydd yn aml yn disgrifio dirywiad emosiynol annisgwyl. Teimlad o fflatrwydd. Colli pwrpas. Cwestiwn sy'n codi'n gyflym: beth nawr? Dyna lle mae'r cysyniad o fywyd ar ôl gadael cwmni newydd yn dod yn real.

Mae adeiladu cwmni yn rhywbeth sy'n cymryd llawer o amser. Ers blynyddoedd, mae'r busnes yn darparu strwythur ar gyfer bob diwrnod. Mae yna bob amser yr her nesaf, y penderfyniad nesaf, y broblem nesaf. Mae'n dod yn ganolbwynt sy’n sail i bopeth. Pan fydd hynny'n diflannu, gall sylfaenwyr deimlo'n ddigyffro. Yn ddiogel yn ariannol, ond yn ansicr yn emosiynol.

Mae rhai’n canfod bod y daith yn bwysicach nag yr oeddent yn ei sylweddoli. Y broses adeiladu oedd ffynhonnell y cymhelliant, nid dim ond y canlyniad terfynol. A phan fydd yr adeiladu’n dod i ben, rhaid i’r sylfaenydd ailadeiladu ei deimlad o gyfeiriad ei hun.

Gall aros ymlaen fod yn anoddach nag a ddisgwylir

Nid yw ymadawiadau bob amser yn doriadau clir. Mae llawer o sylfaenwyr yn aros ar ôl gwerthiant, yn aml wedi'u clymu am gyfnod o drawsnewid neu drosglwyddo gwybodaeth. Ar bapur, gall hyn ymddangos yn synhwyrol. Mae'n amddiffyn parhad, yn tawelu meddyliau prynwyr ac yn rhoi amser i sylfaenwyr addasu.

Ond yn emosiynol, gall fod yn anodd. Gall sylfaenydd a arferai redeg y llong adrodd i strwythur corfforaethol mwy nawr. Gall gwneud penderfyniadau arafu. Mae ymreolaeth yn lleihau. Mae'r diwylliant yn newid. Gall y sylfaenydd deimlo fel gwestai yn y busnes a greodd. I rai, mae hyn yn rhywbeth y gallant ddelio ag o.  I eraill, mae'n beth anghyfforddus iawn.

Dechreuodd llawer o fentergarwyr eu busnesau yn union oherwydd nad oeddent yn ffynnu mewn strwythur corfforaethol. Gall cael eu tynnu'n ôl i un ar ôl ymadael deimlo fel dychwelyd i'r byd y buont yn gweithio i'w adael ar ôl.

Dyna pam y dylai sylfaenwyr feddwl yn ofalus nid yn unig am y fargen ei hun, ond am ba rôl maen nhw ei heisiau wedyn, ac am ba hyd.

Sut y gall sylfaenwyr baratoi ar gyfer bywyd ar ôl ymadael

Mae ymadawiad llwyddiannus yn gofyn am fwy na negodi a gwerthuso. Mae'n gofyn am baratoi yn emosiynol.

Yn aml, mae sylfaenwyr sy'n cynllunio ar gyfer y trafodiad yn unig yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw wedi paratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf. Nid trosglwyddo cyfranddaliadau yw'r newid pwysicaf. Trosglwyddo hunaniaeth yw’r peth pwysicaf.

Mae paratoi ar gyfer bywyd ar ôl gadael cwmni a ddechreuwyd o’r newydd yn golygu gofyn cwestiynau anodd yn gynnar:

  • Beth fydd yn rhoi pwrpas i mi wedyn?
  • Am ba hyd ydw i eisiau aros yn rhan o hyn mewn gwirionedd?
  • Pa rannau o fy mywyd rydw i wedi'u rhoi o'r neilltu wrth adeiladu'r busnes hwn?
  • Sut olwg sydd ar lwyddiant y tu hwnt i'r cwmni?

Y sylfaenwyr sy'n addasu orau yn aml yw'r rhai sydd wedi meithrin cydbwysedd cyn i'r ymadawiad ddigwydd, nid y rhai sy'n ceisio dod o hyd iddo wedyn.

I rai sylfaenwyr, y bennod nesaf yw busnes newydd arall. Yn aml, mae creu wrth hanfod ac yn rhan annatod o fentergarwyr. Maent yn colli'r dwyster, yr adeiladu, yr ymdeimlad o fomentwm ymlaen. I eraill, y cam nesaf yw rhoi yn ôl. Mae llawer o sylfaenwyr sydd wedi ymadael yn dod yn gadeiryddion, mentoriaid neu fuddsoddwyr angel, gan gefnogi'r genhedlaeth nesaf gyda phrofiad a enillwyd yn trwy brofiadau a gwaith caled. Ac i rai, mae'n ymwneud ag adennill iechyd, teulu a chymuned. Ynglŷn ag ailddarganfod bywyd y tu allan i'r busnes.

Nid diweddiadau yw ymadawiadau. Trawsnewidiadau neu bontio i’r cam nesaf ydyn’ nhw. Ac mae angen meddwl os ydych chi am drawsnewid a phontio.

Mynd ati i sicrhau nad yw eich busnes yn cylchdroi o'ch amgylch chi yn unig

Mae cynllunio ymadawiad hefyd yn ymwneud â'r busnes ei hun. Mae cwmnïau sy'n troi'n gyfan gwbl o amgylch y sylfaenydd yn anoddach i'w gwerthu ac yn heriol i'w cynnal.

Mae prynwyr eisiau hyder y gall y busnes ffynnu heb un unigolyn yn y canol.

Gall sylfaenwyr baratoi ar gyfer ymadael drwy feithrin dyfnder arweinyddiaeth yn gynnar, dirprwyo gwneud penderfyniadau, a datblygu systemau, prosesau a thimau sy'n caniatáu i'r cwmni weithredu heb gyfranogiad cyson gan y sylfaenwyr.

Mae hyn yn dda ar gyfer prisio’r busnes, ond mae hefyd yn iach yn emosiynol. Mae gollwng yr awenau yn haws pan fydd sylfaenwyr yn gwybod y gall y busnes barhau'n llwyddiannus y tu hwnt iddyn’ nhw. Yr etifeddiaeth gryfaf y gall sylfaenydd ei gadael nid yw bod y cwmni eu hangen am byth, ond ei bod yn ddigon cryf i beidio.

Dysgwch fwy am gynllunio ymadael yn ein canllaw i strategaethau ymadael a llwybrau'r dyfodol ar gyfer sylfaenwyr technoleg.

Anaml y bydd straeon sylfaenwyr yn cael eu hadrodd yn gyhoeddus

Mae yna lawer o enghreifftiau am sylfaenwyr yn cyflawni'r hyn sy'n edrych fel yr ymadawiad perffaith, dim ond i ganfod ei fod yn gymhleth yn emosiynol.

Yn aml, mae cynghorwyr yn disgrifio eiliadau lle mae sylfaenwyr, ar ôl sicrhau cyfoeth sylweddol, yn siarad gyda thristwch yn hytrach na chyffro. Nid difaru, ond ryw ymdeimlad bod rhywbeth pwysig wedi dod i ben.

Mae straeon am sylfaenwyr yn sylweddoli, yn rhy hwyr, mai'r busnes oedd eu byd cyfan. Bod perthnasoedd a hobïau wedi pylu. Bod eu hunaniaeth wedi'i chlymu'n rhy dynn â'r cwmni. Mae eraill yn disgrifio pa mor gyflym y mae'r busnes yn symud ymlaen hebddyn nhw. Mae'r tîm yn addasu. Mae arweinyddiaeth newydd yn dod i'r amlwg. Mae'r cwmni'n parhau. Ac mae'r sylfaenydd yn cael ei adael gyda'r teimlad rhyfedd o beidio â bod yn angenrheidiol ac nad oes eu hangen.

Mae'r straeon hyn yn ein hatgoffa nad yw heriau emosiynol gadael cwmni a ddechreuwyd o’r newydd yn brin. Maent yn gyffredin. Nid yw’r straeon hyn yn cael eu trafod bob amser.

Cyngor i sylfaenwyr sy'n ei chael hi'n anodd gollwng yr awenau

I sylfaenwyr sy'n poeni am ollwng gafael, y cam cyntaf yw cydnabod bod y teimladau hyn yn normal.

Mae mentergarwyr yn wahanol o ran natur. Maent yn cael eu cymell, yn aml yn obsesiynol eu ffocws, wedi buddsoddi'n ddwfn yn yr hyn maen nhw'n ei adeiladu. Nid gwendid yw canfod bod ymadael yn beth emosiynol. Mae'n adlewyrchiad o faint rydych chi wedi'i roi.

Mae cyfathrebu'n bwysig yn gynnar. Os ydych chi'n buddsoddi, dylech chi siarad yn agored am nodau ymadael, amseru a disgwyliadau. Mae camliniad yn dod yn boenus yn ddiweddarach. Dylai sylfaenwyr hefyd ddechrau adeiladu bywyd y tu allan i'r busnes cyn i'r ymadawiad ei hun ddigwydd, nid wedyn. Ni ellir creu cydbwysedd dros nos ar ôl i'r cwmni gael ei werthu.

Ac fe ddylai sylfaenwyr gofio nad yw ymadael yn dileu'r hyn a adeiladwyd ganddynt. Mae'r etifeddiaeth yn parhau yn y tîm, y cwsmeriaid, y cynnyrch a'r effaith. Mae gollwng gafael yn anodd oherwydd roedd adeiladu'n bwysig. Dyna'r gwir wrth galon popeth.

Meddyliau terfynol: derbyniwch fod gadael yn benderfyniad busnes ac emosiynol

Bydd gwerthu cwmni bob amser yn garreg filltir ariannol bwysig. Ond mae hefyd yn newid hunaniaeth.

Mae sylfaenwyr yn camu oddi wrth rhywbeth sydd wedi'u llunio nhw, weithiau am ddegawd neu fwy. Nid yn unig y mae'r ymadawiadau mwyaf llwyddiannus wedi'u negodi'n dda, ond fe baratowyd yn emosiynol ar eu cyfer.

Mae sylfaenwyr sy'n meddwl ymlaen llaw am bwrpas, olyniaeth arweinyddiaeth a bywyd ar ôl gadael cwmni newydd yn fwy tebygol o brofi ymadawiad fel dechrau yn hytrach na cholled. Oherwydd yn y pen draw, nid yw gadael gafael yn ymwneud â gadael rhywbeth ar ôl yn unig. Mae'n ymwneud â gwneud lle i'r hyn sy'n dod nesaf.