Prif bethau i'w hystyried a’u cofio
- Mae perthnasoedd yn sail i bob cam o daith y busnes sy’n dechrau o’r newydd, o ddysgu i godi arian a thyfu
- Mae rhwydweithio busnesau newydd yn fwyaf effeithiol pan mae'n dechrau'n gynnar, ymhell cyn bod angen cyfalaf ar frys
- Mae sylfaenwyr yn dysgu gyflymaf gan sylfaenwyr eraill sydd eisoes wedi sicrhau buddsoddiad
- Mae mentoriaid a chynghorwyr yn darparu persbectif sy'n mynd y tu hwnt i gyngor trafodion
- Mae perthnasoedd cryf yn meithrin ymddiriedaeth, yn lleihau ffrithiant ac yn gwella canlyniadau hirdymor
- Nid oes unrhyw sylfaenydd yn adeiladu busnes llwyddiannus ar ei ben ei hun — mae ecosystemau a rhwydweithiau cymorth yn bwysig
Yn aml, disgrifir cwmnïau newydd fel teithiau o arloesedd, technoleg ac uchelgais. Ond y tu ôl i bron bob stori sylfaenydd llwyddiannus mae rhywbeth llai gweladwy ac yr un mor bwysig: perthnasoedd - a'r rhwydweithio perthnasol i’r busnes sy’n dechrau o’r newydd sy'n helpu i'w hadeiladu.
Gall y byd cynnar deimlo fel pe bai’n canolbwyntio’n ddwys ar gynhyrchion, cynigion a pherfformiad. Mae sylfaenwyr yn treulio misoedd yn mireinio cynlluniau busnes, yn adeiladu prototeipiau ac yn mynd ar drywydd tyniant. Gall buddsoddiad ymddangos, o’r tu allan, fel carreg filltir drafodiadol yn unig, a gyflawnir trwy’r niferoedd cywir, y pecyn cynigion cywir a’r cyfarfod cywir.
Mewn gwirionedd, ychydig iawn o fusnesau sy'n tyfu ar ddogfennau yn unig. Mae codi arian a chynyddu graddfa wedi'u hadeiladu ar ymddiriedaeth, hygrededd a chysylltiad dynol. Mae perthnasoedd yn llunio sut mae sylfaenwyr yn dysgu, pwy sy'n eu cefnogi, ble mae cyfleoedd yn dod i'r amlwg a sut mae buddsoddwyr yn datblygu argyhoeddiad dros amser. Yn yr ystyr hwnnw, nid yw perthnasoedd yn ymylol i'r daith cychwyn busnes. Maent yn sail i bron bob rhan ohoni.
I sylfaenwyr sy'n chwilio am fuddsoddiad, nid yw deall gwerth perthnasoedd yn ddewisol. Mae'n hanfodol.
Pam mae rhwydweithio ar ran busnes sy’n dechrau o’r newydd yn bwysig wrth chwilio am fuddsoddiad
I lawer o sylfaenwyr cynnar, gall rhwydweithio ar ran busnesau sy’n dechrau o’r newydd deimlo'n anghyfforddus. Gall ymddangos fel rhywbeth ar wahân i'r "gwaith go iawn" o adeiladu cynnyrch neu wasanaethu cwsmeriaid. Mae rhai sylfaenwyr yn ei ystyried yn ddewis ychwanegol, rhywbeth i'w wneud pan fydd amser yn caniatáu.
Ond mae rhwydweithio ar ran busnesau sy’n dechrau o’r newydd yn un o'r gweithgareddau pwysicaf y gall sylfaenydd ei wneud, yn enwedig ym myd buddsoddi.
Nid yw buddsoddwyr yn cefnogi syniadau ar eu pen eu hunain. Maent yn cefnogi pobl. Maent yn buddsoddi mewn timau y maent yn credu y gallant eu gweithredu, addasu ac adeiladu rhywbeth ystyrlon dros amser. Anaml y caiff y gred honno ei ffurfio mewn un cyfarfod. Mae'n datblygu'n raddol trwy sgyrsiau, cyflwyniadau, enw da a chysondeb.
Mae'r perthnasoedd cryfaf rhwng sylfaenwyr a buddsoddwyr yn cael eu hadeiladu cyn bod yr angen am gyllid yn frys. Maent yn cael eu hadeiladu trwy welededd, ymddiriedaeth a hygrededd dros amser. Dyna pam mae sylfaenwyr sy'n ymgysylltu'n gynnar mewn rhwydweithio busnes yn aml yn canfod bod y broses codi arian yn fwy adeiladol pan ddaw'r amser. Nid yw rhwydweithio'n ymwneud â chasglu cysylltiadau. Mae'n ymwneud ag adeiladu perthnasoedd sy'n bwysig.
Pam mae rhwydwaith cryf yn werthfawr ar gyfer twf busnesau sy’n dechrau o’r newydd
Gall adeiladu cwmni newydd fod yn brofiad ynysig. Mae sylfaenwyr yn cario pwysau sy'n anodd ei egluro i bobl y tu allan i'r byd cam cynnar. Mae penderfyniadau'n gorfod cael eu gwneud drwy’r amser. Mae ansicrwydd yn normal. Mae'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau emosiynol yn ddwys. Dyna pam y gall bod yn rhan o rwydwaith sylfaenydd - math hanfodol o rwydweithio busnesau sy’n dechrau o’r newydd - fod mor bwerus, gan roi cefnogaeth hanfodol i chi a helpu i ddiogelu lles sylfaenwyr.
Mae cymunedau sylfaenwyr yn creu mannau lle mae profiad yn cael ei rannu, cyngor yn cael ei gynnig a rhwystrau yn cael eu deall yn hytrach na'u barnu. Maent yn darparu cefnogaeth ymarferol, ond hefyd sicrwydd emosiynol. Mae llawer o sylfaenwyr yn sylweddoli, yn aml gyda rhyddhad, nad yw eu heriau yn unigryw. Mae eraill wedi wynebu'r un rhwystrau ac wedi dod o hyd i ffyrdd drwyddynt.
Mae rhwydwaith sylfaenwyr cryf hefyd yn darparu mynediad at wybodaeth sy'n anodd ei chael yn unman arall. Anaml y caiff mentergarwch gynnar ei dysgu'n ffurfiol. Mae llawer o'r dysgu'n digwydd trwy gyfoedion, mentoriaid a'r rhai sydd ychydig ymhellach ar hyd y llwybr.
Mewn llawer o ecosystemau, mae sylfaenwyr yn cefnogi ei gilydd oherwydd eu bod yn cofio pa mor anodd oedd hi ar y dechrau. Yn aml mae llawer mwy o ewyllys da a didwylledd nag y mae pobl yn ei ddisgwyl. Ond mae'n rhaid i sylfaenwyr ofyn. Anaml y daw cefnogaeth heb ei hannog.
Darllenwch ein canllaw ar ecosystem technoleg Cymru i gael trosolwg o'r sefydliadau, clystyrau a chymunedau allweddol yng Nghymru. I ddysgu am oresgyn rhwystrau strwythurol trwy adeiladu rhwydweithiau strategol, archwiliwch ein canllaw i sylfaenwyr heb gynrychiolaeth ddigonol.
Yr hyn y gall sylfaenwyr ei ddysgu gan y rhai sydd eisoes wedi sicrhau buddsoddiad
Un o'r ffynonellau mewnwelediad mwyaf gwerthfawr i unrhyw sylfaenydd yw rhywun sydd eisoes wedi sicrhau buddsoddiad.
Nid drwy theori y gall sylfaenwyr ddysgu gan entrepreneuriaid sydd wedi sicrhau cyllid, ond drwy brofiad byw. Mae sylfaenwyr sydd wedi codi cyfalaf yn deall beth mae buddsoddwyr yn chwilio amdano mewn gwirionedd, ble mae oedi'n digwydd, sut mae diwydrwydd dyladwy yn teimlo a beth sydd ei angen i gynnal momentwm yn ystod proses codi arian hir.
Gallant esbonio'r realiti ymarferol y tu ôl i dermau fel gwerthuso, llywodraethu, hawliau cydsynio a disgwyliadau buddsoddwyr. Gallant hefyd rannu'r hyn a'u synnodd fwyaf, yr hyn y byddent yn ei wneud yn wahanol, a'r hyn a oedd yn bwysicach nag yr oeddent yn sylweddoli.
Mae'r dysgu hwn gan eraill yn helpu sylfaenwyr i baratoi'n fwy effeithiol a mynd ati i godi arian gyda disgwyliadau cliriach. Mae hefyd yn egluro buddsoddiad. Mae llawer o sylfaenwyr yn tybio bod codi arian yn ymwneud â chyflwyniadau perffaith, pan mewn gwirionedd mae'n aml yn ymwneud â pharatoi, ymddiriedaeth ac aliniad.
Mae clywed gan eraill sydd wedi codi buddsoddiad yn rhoi persbectif a hyder. Mae'n dangos bod llwyddiant yn bosibl, ond anaml yn syth. Mae hefyd yn atgyfnerthu bod codi arian yn aml yn daith, nid yn ddigwyddiad sengl.
Mentora busnesau sy’n cael eu dechrau o’r newydd: doethineb na allwch ei brynu
Yn aml, mae sylfaenwyr yn ceisio cyngor proffesiynol gan gyfreithwyr, cyfrifwyr, darparwyr cyllid neu fuddsoddwyr. Mae'r perthnasoedd hyn yn bwysig, ond mae'r rhai mwyaf gwerthfawr yn tueddu i fynd y tu hwnt i drafodion.
Mae mentora busnesau newydd yn darparu rhywbeth dyfnach: doethineb, persbectif ac arweiniad hirdymor.
Gall sylfaenwyr profiadol, cadeiryddion, cyfarwyddwyr anweithredol ac arbenigwyr sector helpu entrepreneuriaid i feddwl yn strategol am dwf, llywodraethu, adeiladu tîm a gwneud penderfyniadau. Gallant herio rhagdybiaethau, darparu cyd-destun ac atal sylfaenwyr rhag gweithredu ar eu pen eu hunain.
Nid oes angen i fentoriaid gael yr holl atebion. Yn aml, mae eu gwerth yn dod o ofyn y cwestiynau cywir, rhannu patrymau maen nhw wedi'u gweld o'r blaen, a helpu sylfaenwyr i osgoi camgymeriadau sy'n gyffredin ond yn gostus.
Mae mentora busnesau newydd hefyd yn hanfodol yn ystod cyfnodau o straen. Yn aml, mae sylfaenwyr yn wynebu adegau lle mae ansicrwydd yn teimlo'n llethol. Gallai fod yn ystod codi arian, newid strategaeth cynnyrch, cyflogi aflwyddiannus neu newid sydyn yn amodau'r farchnad. Gall cael pobl ddibynadwy o amgylch y bwrdd wneud yr adegau hynny'n haws i'w llywio.
Yn aml, daw'r cyngor mwyaf ystyrlon drwy berthnasoedd sydd wedi datblygu dros amser, nid drwy sgyrsiau untro.
Mae perthnasoedd yn meithrin argyhoeddiad mewn codi arian
Nid yw codi arian yn gwbl ddadansoddol. Hyd yn oed mewn technoleg, lle mae metrigau'n bwysig, penderfyniadau dynol yn y pen draw yw penderfyniadau buddsoddi.
Mae angen hyder ar fuddsoddwyr yn y sylfaenydd, y tîm a'r daith o'u blaenau. Yn aml, mae'r hyder hwnnw'n cael ei feithrin trwy feithrin perthnasoedd, nid dangosyddion perfformiad yn unig. Pan fydd buddsoddwyr wedi gweld cynnydd sylfaenydd dros amser, mae sgyrsiau'n dod yn ddyfnach ac yn fwy adeiladol. Mae adborth yn dod yn fwy defnyddiol. Mae ymddiriedaeth yn meithrin yn naturiol. Erbyn i rownd ariannu agor, mae'r berthynas eisoes yn bodoli.
Dyma pam mae sylfaenwyr sy'n ymwneud â rhwydweithio busnesau newydd yn gynnar yn aml yn gweld y broses codi arian yn llai brawychus. Nid dieithriaid yw buddsoddwyr. Maent yn rhanddeiliaid sydd eisoes yn deall y busnes, arddull y sylfaenydd a'r llwybr twf.
Mae perthnasoedd hefyd yn lleihau ffrithiant. Mewn busnesau cynnar, nid yw popeth yn berffaith. Mae buddsoddwyr yn gwybod hynny. Yr hyn sy'n bwysig yw tryloywder ac ymddiriedaeth. Mae perthnasoedd cryf yn ei gwneud hi'n haws i fuddsoddwyr gefnogi sylfaenwyr trwy amwysedd.
Dysgwch fwy am yr hyn y mae buddsoddwyr yn chwilio amdano mewn cwmni technoleg sy’n cael e ddechrau o’r newydd yn ein canllaw.
Pryd i ddechrau rhwydweithio busnes
Dim ond pan fyddant angen rhywbeth ar frys y mae llawer o sylfaenwyr yn dechrau rhwydweithio: cyllid, recriwtio, cyflwyniadau neu gefnogaeth. Ond mae'r perthnasoedd cryfaf yn cael eu hadeiladu cyn i frys gwirioneddol ddod i’r fei.
Mae sylfaenwyr sy'n buddsoddi amser yn gynnar mewn rhwydweithio busnes yn aml mewn sefyllfa well pan ddaw adegau pwysig. Maen nhw'n gwybod pwy i ffonio. Mae ganddyn nhw gynghorwyr dibynadwy. Mae ganddyn nhw gyfoedion a all rannu mewnwelediad. Mae ganddyn nhw fuddsoddwyr sydd eisoes yn gyfarwydd â'u taith.
Nid gofyniad munud olaf yw meithrin perthynas. Mae'n rhan o adeiladu'r busnes.
Yn yr un modd ag y mae datblygu cynnyrch yn digwydd dros amser, felly hefyd mae ymddiriedaeth. Mae perthnasoedd yn bwerus, ond ni ellir eu rhuthro na'u gorfodi.
Y ffordd orau o feithrin perthnasoedd yn y gymuned buddsoddi technoleg yw trwy ymgysylltu, cyfrannu a dilysrwydd cyson. Gall hynny gynnwys mynychu digwyddiadau, ymuno â grwpiau sylfaenwyr, cymryd rhan mewn cyflymyddion, ymgysylltu â chlystyrau rhanbarthol neu estyn allan at eraill yn yr ecosystem.
Mae hefyd yn golygu bod yn hael. Mae cymunedau busnesau newydd yn ffynnu pan fydd cefnogaeth yn llifo i'r ddwy ochr. Yn aml, mae sylfaenwyr sy'n rhannu eu dysgu, yn cynnig cyflwyniadau neu'n cefnogi cyfoedion yn canfod bod ewyllys da yn dychwelyd yn ddiweddarach.
Nid rhwydweithio trafodion yw'r nod. Cysylltu yw'r nod. Yr ecosystemau cryfaf yw'r rhai lle mae sylfaenwyr, buddsoddwyr, cynghorwyr a gweithredwyr yn aros yn gysylltiedig dros amser, gan gefnogi ei gilydd trwy gylchoedd twf lluosog.
Sut mae perthnasoedd yn creu ecosystemau busnesau technoleg sy’n dechrau o’r newydd
Nid cyfalaf yn unig sy'n diffinio rhanbarthau cychwyn mwyaf llwyddiannus y byd. Fe'u diffinnir gan ecosystemau.
Mae ecosystemau'n ffynnu pan fydd sylfaenwyr a buddsoddwyr wedi'u cysylltu, pan fydd mentergarwyr sydd wedi ymadael yn mentora'r genhedlaeth nesaf, pan fydd profiad yn cael ei ailgylchu a phan fydd cefnogaeth wedi'i hymgorffori yn y gymuned.
Mae cyfleoedd yn llifo'n fwy rhydd mewn ecosystemau cysylltiedig. Mae doniau yn cylchredeg. Mae arbenigedd yn lledaenu. Mae sylfaenwyr newydd yn dod i'r amlwg gydag arweiniad yn hytrach nag unigedd.
Mae perthnasoedd cryf yn helpu sylfaenwyr i gael mynediad at fwy na buddsoddiad. Maent yn darparu cyfleoedd dysgu, cadernid, mentora ac ymdeimlad o berthyn. Dros amser, mae'r rhwydweithiau hyn yn dod yn hunan-atgyfnerthol. Mae'r busnesau sy'n llwyddo yn creu mentoriaid, buddsoddwyr a hyrwyddwyr y dyfodol. Dyna sut mae ecosystemau'n tyfu.
Y wers symlaf: peidiwch ag adeiladu ar eich pen eich hun
Yn aml, caiff cwmnïau newydd eu rhamantu fel teithiau unigol, ond nid oes unrhyw sylfaenydd yn llwyddo'n gyfan gwbl ar ei ben ei hun.
Mae perthnasoedd yn darparu cefnogaeth, yn agor drysau, yn cryfhau hyder ac yn helpu sylfaenwyr i lywio amgylchedd sy'n gymhleth ac ansicr. Nid yw rhwydweithio busnesau newydd yn ymwneud â statws. Mae'n ymwneud â chysylltiad. Nid yw rhwydweithio busnes yn tynnu sylw oddi wrth adeiladu busnes. Mae'n rhan o adeiladu busnes llwyddiannus.
Mae rhwydwaith sylfaenwyr cryf yn cynnig profiad a rennir a chadernid ar y cyd. Mae mentora busnesau newydd yn darparu persbectif a doethineb hirdymor. Mae dysgu gan fentergarwyr sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn helpu sylfaenwyr i baratoi ar gyfer buddsoddiad gyda realaeth a hyder.
I sylfaenwyr sy'n chwilio am gyfalaf, twf neu arweiniad, mae rhwydweithio busnesau newydd yn dod yn un o'r asedau strategol mwyaf pwerus y gallant eu hadeiladu. Oherwydd yn y byd cam cynnar, anaml y daw llwyddiant o adeiladu ar eich pen eich hun. Mae'n dod o adeiladu gydag eraill o'ch cwmpas.