Busnes monitro morol Ynys Môn yn sicrhau buddsoddiad o £490,000 i gynyddu graddfa technoleg dan arweiniad DA ar gyfer ynni adnewyddadwy alltraeth

Tom-Preene
Rheolwr Cronfa Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Ecodetect

Mae Ecodetect, cwmni o Ynys Môn sy'n arbenigo mewn monitro morol sy'n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial (DA) ar gyfer seilwaith alltraeth, wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £490,000 i helpu i gynyddu graddfa ei dechnoleg, creu swyddi newydd a chefnogi cam twf  newydd ochr yn ochr â sector ynni adnewyddadwy sy'n ehangu'n gyflym yn y DU. 

Mae'r rownd ariannu yn cynnwys £245,000 gan syndicet o chwe angel dan arweiniad Bobby Williams, aelod o Rwydwaith Angylion M-SParc, a oedd hefyd yn cynnwys £25,000 gan y buddsoddwr OnePlanet Capital sy'n ffocysu ar yr hinsawdd. Mae hyn wedi'i gyfateb gan £245,000 arall o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru. 

Bydd y buddsoddiad ecwiti yn helpu'r busnes i gryfhau ei dîm dros y chwe mis nesaf, gyda phedair swydd newydd yn cael eu creu, a chynyddu ei allu i gyflwyno ei dechnoleg ar raddfa fawr wrth i brosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth ac arnofiol ehangu. 

Wedi'i leoli yn M-SParc ar Ynys Môn, mae Ecodetect wedi datblygu pecyn cymorth          eco-ganfod lefel uwch sy'n cyfuno deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol â rhaglennu arbenigol i nodi a chofnodi rhyngweithiadau bywyd gwyllt â seilwaith morol yn awtomatig gan ddefnyddio data a gipiwyd gan synwyryddion delweddu tanddwr. Ei gwsmeriaid craidd yw datblygwyr ynni adnewyddadwy, y mae'n rhaid iddynt fonitro ac adrodd ar effeithiau amgylcheddol fel rhan o ofynion trwyddedu a chydymffurfiaeth prosiectau. 

Dywed y cwmni y bydd y buddsoddiad diweddaraf yn caniatáu iddo ehangu ochr yn ochr â'r farchnad ynni adnewyddadwy ehangach, lle mae datblygwyr yn symud o nifer fach o dyrbinau i osodiadau ar raddfa fwy sy'n cynhyrchu cyfrolau mawr o ddata monitro amgylcheddol. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi datblygiad technoleg pellach, gan gynnwys systemau cyfathrebu morol a gynlluniwyd i wella sut mae data'n cael ei drosglwyddo, ei brosesu a'i ddadansoddi. 

Wedi'i sefydlu a'i arwain gan y rheolwr gyfarwyddwr Dr David Gold, mae Ecodetect yn dwyn tri maes arbenigedd allweddol ynghyd: ynni alltraeth ac adnewyddadwy, bywyd gwyllt morol, a thechnoleg uwch gan gynnwys deallusrwydd artiffisial. 

Mae gan Dr Gold gefndir yn y sector ynni ac mae wedi adeiladu'r busnes o amgylch y nod o helpu datblygwyr ynni adnewyddadwy i gyflawni rhwymedigaethau amgylcheddol yn fwy effeithlon tra’n cefnogi cadwraeth forol yr un pryd. Mae'r tîm ehangach yn cyfuno gallu technegol, gwyddonol a masnachol, gyda'r busnes eisoes wedi'i gydnabod am arloesedd     eco-dechnoleg yn y DU ac Ewrop. 

Mae'r cwmni'n targedu twf mewn ynni gwynt ar y môr, ynni gwynt arnofiol ac ynni llanwol, gan gynnwys cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn nyfroedd Cymru. Mae hefyd yn gweld cymwysiadau ehangach ar gyfer ei dechnoleg monitro morol ar draws sectorau eraill gan gynnwys dyframaeth, pysgota a seilwaith morol ehangach. 

Meddai Dr David Gold, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Ecodetect: 
“Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi’r platfform i ni i dyfu’r tîm, cryfhau ein technoleg a sicrhau ein bod yn barod i gefnogi ehangu cyflym ynni adnewyddadwy ar y môr ac ar arnofio. Mae momentwm enfawr yn adeiladu yn y sector ac mae angen clir am atebion monitro cadarn, graddadwy a all gadw i fyny â’r twf hwnnw. 

“Rydym yn falch o fod yn adeiladu’r busnes hwn yng Ngogledd Cymru. Rydym am greu swyddi lleol o ansawdd uchel, cyfrannu at yr economi werdd a datblygu technoleg yma yng Nghymru y gellir ei defnyddio’n rhyngwladol.” 

Dywedodd Bobby Williams, buddsoddwr arweiniol: 

“Mae Ecodetect yn gweithio ar groesffordd deallusrwydd artiffisial, gwyddor forol ac ynni adnewyddadwy ar yr union adeg iawn. Mae'r busnes wedi datblygu ateb cymhellol i her wirioneddol a chynyddol i ddatblygwyr alltraeth, ac mae David wedi adeiladu cwmni â sylfeini technegol cryf a pherthnasedd clir i'r farchnad. 

“Rwy’n falch o fod yn ymuno â’r bwrdd ac yn cefnogi cam nesaf twf y cwmni wrth iddo ehangu ei allu ac adeiladu ei bresenoldeb mewn sector sydd â photensial hirdymor sylweddol.” 

Dywedodd Tom Preene, Rheolwr Cronfa ar gyfer Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru: 

“Mae Ecodetect yn enghraifft gref o’r math o fusnes arloesol yng Nghymru sy’n denu buddsoddiad gan fuddsoddwyr angel y mae Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru wedi’i chynllunio i’w gefnogi. Mae’r cwmni’n datblygu technoleg arbenigol mewn sector sydd â galw byd-eang clir, tra hefyd yn creu swyddi medrus a chyfrannu at dwf economi werdd Cymru. 

“Mae’r buddsoddiad hwn hefyd yn dangos gwerth dod â buddsoddwyr angel profiadol a chyfalaf cyhoeddus ynghyd i helpu busnesau uchelgeisiol i adeiladu’r gallu sydd ei angen arnynt i ehangu.” 

Meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc: 

“Mae llwyddiant Ecodetect yn adlewyrchu cryfder yr ecosystem arloesi yr ydym yn parhau i’w adeiladu yn M-SParc. O gefnogaeth gynnar hyd at fuddsoddiad, ehangu a chyfleoedd byd-eang, mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall busnesau uchelgeisiol dyfu yma ar Ynys Môn. Mae’n arbennig o galonogol gweld cysylltiadau trwy ein rhwydwaith ehangach, gan gynnwys buddsoddwyr angel, yn chwarae rhan yn y daith hon. Cefnogi cwmnïau fel Ecodetect i ehangu o Ogledd Cymru tra’n creu swyddi lleol gwerth uchel ar yr un pryd yw’r union beth yr hyn yr ydy ni yma i’w wneud.” 

Disgwylir i'r rolau newydd gael eu creu dros y chwe mis nesaf, ac mae'r busnes yn bwriadu  recriwtio o'r ardal leol lle bynnag y bo modd wrth iddo adeiladu ei allu mewn monitro morol, deallusrwydd artiffisial ac ynni adnewyddadwy alltraeth. 

Mae Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £12.5 miliwn yn darparu ecwiti o £25,000 i £350,000. Mae’r gronfa ar gael i syndicetiau o fuddsoddwyr a grwpiau sefydlog sy'n ceisio cyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.