Pitton Cross Farm

David-Knight
Swyddog Buddsoddi

Mae benthyciad o £200,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi cefnogi ehangu Pitton Cross Farm, gan alluogi datblygu llety gwyliau themaidd newydd a chryfhau’r cynnig ymwelwyr ar arfordir Gŵyr.

Yr her

Wedi’i leoli ar 12 erw gyda golygfeydd o’r môr ac yn agos at Draeth Rhosili, Bae Mewslade a Llwybr Arfordir Cymru, mae Pitton Cross Farm mewn sefyllfa dda i ddenu ymwelwyr i Wŷr. Ar ôl prynu’r safle yn 2021, adnewyddodd y perchnogion y tŷ fferm ar y safle er mwyn creu llety o safon uchel sy’n croesawu cŵn, gan gynnig arhosiadau byr hyblyg i ystod eang o ymwelwyr.

Yn dilyn galw cryf, roedd y busnes am dyfu ei gynnig twristiaeth drwy drosi adeiladau allanol presennol yn llety gwyliau themaidd nodedig. Roedd cyflawni’r prosiect yn gyflym yn bwysig er mwyn osgoi tarfu hirfaith ar westeion a sicrhau y gallai’r busnes fanteisio’n gyflym ar y niferoedd ymwelwyr cynyddol.

Cefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Darparodd Banc Datblygu Cymru fenthyciad o £200,000 drwy Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru i gefnogi cam nesaf y datblygiad yn Pitton Cross Farm. Mae’r cyllid wedi galluogi gwaith i ddechrau ar adnewyddu ysguboriau presennol i greu pum uned llety themaidd ychwanegol, ynghyd â chyfleusterau newydd ar y safle.

Cefnogodd y buddsoddiad hefyd greu cyfleusterau i westeion gan gynnwys golchfa cŵn, golchfa wetsuits ac ardaloedd eistedd yng nghefn gwlad, gan helpu i wella’r profiad cyffredinol i ymwelwyr ac apêl y safle.

Y canlyniad 

Bydd yr ehangu’n golygu y bydd Pitton Cross Farm yn cynnig cyfanswm o chwe ysgubor wyliau themaidd, pob un yn gysylltiedig â threftadaeth y fferm a’r ardal. Ynghyd â’r tŷ fferm presennol a Beagle Barn, bydd yr unedau newydd yn darparu dewis ehangach o lety i gyplau, teuluoedd a grwpiau sy’n ymweld â Gŵyr.

Drwy ariannu’r datblygiad mewn un cam, mae’r busnes wedi gallu cyflymu ei gynlluniau twf tra’n osgoi rhaglen adeiladu hirfaith a fyddai wedi effeithio ar brofiad y gwesteion. Mae’r cynnig ehangedig wedi’i gynllunio i ddenu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, cefnogi arhosiadau hirach a chryfhau economi twristiaeth leol.

Effaith ehangach ar dwristiaeth

Mae datblygiad Pitton Cross Farm yn cyfrannu at amrywio’r llety ymwelwyr yng Ngŵyr, gan gynnig profiad twristiaeth nodedig sy’n croesawu cŵn ac sydd wedi’i wreiddio’n lleol. Mae’r prosiect yn adeiladu ar enw da’r ardal fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy drwy ailddefnyddio adeiladau presennol ac ymgorffori treftadaeth leol yn y cynnig ymwelwyr.

Disgwylir i’r ehangu gefnogi cynnydd mewn gwariant ymwelwyr yn yr economi leol ac i sefydlu Pitton Cross Farm ymhellach fel cyrchfan ynddo’i hun, mewn un o ranbarthau twristiaeth mwyaf poblogaidd Cymru.

Beth ddywedodd y busnes

Dywedodd Sam Birdsell, cyd-berchennog Pitton Cross Farm:

“Mae’r buddsoddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd mawr gyda’n cynlluniau twf busnes ar gyflymder llawer uwch nag y gallem ei gyflawni ar ein pennau ein hunain. Pe byddem wedi ariannu’r gwaith fesul cam, byddai gwesteion wedi bod yn cyrraedd safle adeiladu parhaus dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym wastad wedi bod eisiau cynnig rhywbeth newydd a gwahanol, gyda’n brand yn gysylltiedig yn agos â threftadaeth yr ardal a hanes y fferm. Mae’r datblygiad hwn yn ein galluogi i wneud hynny tra’n gwella’r profiad i’n gwesteion.”

Beth ddywedodd Banc Datblygu Cymru

Dywedodd Gweithredwr Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru:

“Mae Pitton Cross Farm yn enghraifft gref o sut y gall cyllid twristiaeth gefnogi llety nodedig o ansawdd uchel sy’n adeiladu ar gymeriad a threftadaeth leol.

“Bydd y datblygiad yn cryfhau’r cynnig ymwelwyr yng Ngŵyr tra’n helpu’r busnes i dyfu mewn modd sy’n gynaliadwy ac yn addas i’w leoliad.”