Egni Co-op

Nicola-Griffiths
Uwch Swyddog Portffolio

Trosolwg o'r busnes

Mae Egni Cydweithredol Cyfyngedig (Egni Co-op) yn sefydliad ynni cymunedol sy'n datblygu ac yn gweithredu gosodiadau solar ar doeau sy'n eiddo i gymunedau ledled Cymru. 

Wedi'i sefydlu a'i reoli gan Awel Aman Tawe (AAT), mae Egni wedi dod yn un o brif sefydliadau solar cymunedol ar doeau yn y DU, gan osod dros 5MWp o gapasiti solar ar fwy na 100 o safleoedd ledled Cymru. Mae wedi codi dros £5 miliwn drwy gynigion cyfranddaliadau cymunedol a chymorth blaenorol gennym ni a Llywodraeth Cymru. 

Mae AAT yn elusen arobryn a sefydlwyd ym 1998 ac sydd wedi'i lleoli yn Hwb y Gors yng Nghwmgors, Castell-nedd Port Talbot. Trwy ei fodel perchnogaeth gymunedol, mae'r sefydliad yn cyfuno cynhyrchu ynni adnewyddadwy ag addysg, ymgysylltu cymunedol a datblygu economaidd lleol. 

Pwrpas y busnes

Mae Egni Co-op yn bodoli i gynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gymunedau ledled Cymru, gan sicrhau bod y manteision yn aros o fewn cymunedau lleol. Mae ei brosiectau solar ar doeau yn helpu ysgolion, adeiladau cyhoeddus a sefydliadau cymunedol i leihau costau ynni, lleihau allyriadau carbon a gwella gwydnwch hirdymor. 

Fel cydweithfa ddi-elw, mae unrhyw incwm dros ben yn cael ei ailfuddsoddi mewn rhaglenni addysgol, mentrau cymunedol a gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o'r hinsawdd. 

Gweithio gyda ni

Dyddiad y rownd gyllido fwyaf diweddar: 2026
Maint: £1.4 miliwn
Cronfa: Cronfa Ynni Leol 

Sicrhaodd Egni Co-op fenthyciad o £1.4 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi'r gwaith o adeiladu a chomisiynu tua 2MW o osodiadau solar newydd ar doeau sy'n eiddo i gymunedau yng Nghymru. 

Darparwyd y cyllid drwy'r Gronfa Ynni Leol, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cael eu harwain gan gymunedau ac sydd wedi'u cynllunio i gyflawni manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r buddsoddiad yn dangos sut y gall ein cyllid hirdymor helpu sefydliadau i gyflawni seilwaith carbon isel ymarferol, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chyflymu cynnydd tuag at uchelgeisiau sero net Cymru.

Disgwylir i'r gosodiadau newydd gynhyrchu tua 1.9GWh o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn, gyda thua 65% yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol gan yr adeiladau lletyol. Dros oes y prosiectau, disgwylir iddynt leihau allyriadau carbon o tua 4,500 tunnell. 

Beth mae pobl yn ei ddweud

Meddai Jenny Carlisle, Rheolwr Datblygu, Egni Co-op

"Mae'r buddsoddiad hwn yn hynod bwysig oherwydd ei fod yn galluogi sefydliadau cymunedol fel ni i barhau i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa ystyrlon ledled Cymru. Yn bwysig, mae'r cymorth sydd ar gael drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru yn gwneud y math hwn o fuddsoddiad ynni cymunedol ar raddfa fawr yn hygyrch mewn ffordd a fyddai fel arall yn hynod anodd i sefydliadau fel ein un ni.

"Rydym yn falch bod y prosiectau hefyd yn cefnogi addysg, cadwyni cyflenwi lleol ac ymwybyddiaeth ehangach o ynni adnewyddadwy a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. I ni, mae ynni cymunedol erioed wedi bod yn fwy na chynhyrchu trydan yn unig. Dylai hefyd greu gwerth parhaol i gymunedau lleol." 

Meddai Nicola Griffiths, Uwch-swyddog Gweithredol Portffolio, Banc Datblygu Cymru:

"Mae Egni Co-op eisoes wedi dangos yr hyn y gall ynni cymunedol ei gyflawni yng Nghymru, gan ddarparu un o'r portffolios mwyaf o brosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gymunedau yn y DU, tra'n creu effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol amlwg.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos sut y gall y Gronfa Ynni Leol helpu sefydliadau i fwrw ymlaen â phrosiectau uchelgeisiol sy'n lleihau allyriadau carbon, yn cefnogi economïau lleol ac yn creu manteision hirdymor i gymunedau. Mae gwaith Egni yn enghraifft gref o sut y gall ynni cymunedol gyfuno gweithredu amgylcheddol ag addysg a pherchnogaeth leol, gan ddangos ar yr un pryd ddull graddadwy ac effeithiol o bontio at sero net."