Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi canlyniadau ar gyfer 2025/26

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Cyllid a chyfrifo
Twf
Cynaliadwyedd
Annual Results 2026

Buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £148 miliwn yn uniongyrchol mewn busnesau Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, gan gefnogi 474 o fusnesau a helpu i greu neu ddiogelu 5,809 o swyddi.

Sicrhawyd £56.3 miliwn pellach o gyd-fuddsoddiad ochr yn ochr â chyllid y Banc Datblygu, gyda chyfanswm yr effaith ar economi Cymru yn ystod y flwyddyn yn cyrraedd £304 miliwn.

Cyhoeddir y ffigurau yn Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Banc Datblygu Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.

Ers lansio’r Banc Datblygu yn 2017, mae bellach wedi buddsoddi £1.1 biliwn yn uniongyrchol mewn busnesau Cymru ac wedi sicrhau £682 miliwn o gyd-fuddsoddiad gan y sector preifat.

Dros yr un cyfnod, mae 5,035 o fusnesau wedi cael eu cefnogi, gan helpu i greu neu ddiogelu 55,490 o swyddi yn economi Cymru. Amcangyfrifir bod y swyddi a gefnogwyd wedi cynhyrchu gwerth economaidd o tua £6.3 biliwn.

Dywedodd y Capten Grŵp Anrhydeddus Sally Bridgeland FIA, Cadeirydd Banc Datblygu Cymru: “Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu cryfder rôl hirdymor y Banc Datblygu wrth gefnogi economi Gymreig gadarn a chynhyrchiol. Fel Bwrdd, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y Banc Datblygu yn parhau i feithrin partneriaethau â buddsoddwyr, yn darparu gwerth i’r pwrs cyhoeddus ac yn ehangu mynediad at gyllid i fusnesau ledled Cymru.”

Ychwanegodd Giles Thorley, Prif Weithredwr y Banc Datblygu: “Mae lefel y buddsoddiad a wnaed eleni yn dangos pwysigrwydd cynnal a thyfu’r cyflenwad o gyllid i fusnesau ledled Cymru a’r rôl bwysig y gall buddsoddiad ei chwarae wrth eu helpu i ddechrau, tyfu a chynyddu graddfa.

“Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni fuddsoddi £148 miliwn yn uniongyrchol mewn busnesau Cymru, wrth weithio ochr yn ochr â buddsoddwyr o’r sector preifat i ddod â chyfalaf ychwanegol i Gymru. Yn bwysicaf oll, mae’r buddsoddiad hwnnw’n helpu busnesau i greu a diogelu swyddi ac adeiladu gwerth hirdymor yn economi Cymru.

“Ers 2017, rydym wedi buddsoddi £1.1 biliwn mewn mwy na 5,000 o fusnesau. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau y gall busnesau ledled Cymru gael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu.”

Mae'r ffigurau cronnus yn cwmpasu'r cyfnod o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2026 ac yn cynnwys benthyciadau a wnaed drwy Gynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru.

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Banc Datblygu Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 yma