Lleoliad golff dan do pwrpasol yn agor yng Nghaerffili gyda chefnogaeth y Banc Datblygu

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Twf
Dechrau busnes
PIN SIM Golf

Mae lleoliad golff dan do newydd, wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru, ar fin agor yng Nghaerffili.

Sicrhaodd PIN SIM GOLF, sydd wedi'i leoli yn Afon Court, micro fenthyciad o £25,000 gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru Banc Datblygu i gefnogi prynu offer arbenigol a darparu cyfalaf gweithio.

Wedi'i greu'n benodol ar gyfer golffwyr gan y mentergarwr lleol Craig Hughes, mae PIN SIM GOLF yn cynnig cyfle i ymarfer drwy gydol y flwyddyn, rowndiau rhithwir a chystadlaethau mewn efelychydd tri bae. Mae'r rhain yn cynnwys bae blaenllaw ar gyfer deu law sy'n defnyddio technoleg Foresight Sports a dau fae ychwanegol ar gyfer chwaraewyr o bob gallu. Ynghyd â chefnogaeth gan y Banc Datblygu, mae Craig hefyd wedi buddsoddi tua £80,000 mewn sefydlu'r busnes newydd, y cafodd llawer ohono ei adeiladu o'r dechrau, o ddim byd.

Mae Craig wedi chwarae rhan ymarferol drwyddi draw, o ddylunio'r lleoliad i wneud llawer o'r gwaith gosod ei hun, gan gynnwys dewis a gosod yr efelychwyr golff newydd.

I Craig, mae'r fenter yn dwyn ynghyd ei angerdd hirhoedlog dros golff a thechnoleg. Dywedodd: "Rydw i wedi defnyddio technoleg efelychydd golff yn bersonol ers dros 10 mlynedd ac rydw i wedi dilyn datblygiadau mewn efelychwyr a meddalwedd drwy gydol yr amser hwnnw. Mae'r profiad hwnnw wedi llunio PIN SIM GOLF. Rydym wedi creu profiad golff dan do go iawn i Gaerffili, nid dim ond rhywle i daro peli ar sgrin."

"Rydym am greu lleoliad premiwm lle gall golffwyr, dechreuwyr, chwaraewyr iau, teuluoedd, cymdeithasau a grwpiau ymarfer, chwarae, cystadlu a mwynhau'r gêm drwy gydol y flwyddyn. Yn y tymor hwy, hoffwn i PIN SIM GOLF ddod yn gymuned golff leol wirioneddol, gyda chynghreiriau, nosweithiau clwb a digwyddiadau grŵp."

"Cynigiodd y Banc Datblygu ddatrysiad ariannu cystadleuol, ac roedd y broses yn un esmwyth o'r dechrau i'r diwedd. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn rhan werthfawr o'r buddsoddiad ehangach rydyn ni wedi'i wneud i gael PIN SIM GOLF yn barod i agor."

Mae'r busnes eisoes wedi creu diddordeb cryf o blith golffwyr ar hyd a lled y rhanbarth, gydag ymholiadau ynghylch aelodaethau, cynghreiriau a digwyddiadau wedi'u derbyn cyn agor. Mae Craig hefyd wedi bod yn ymgysylltu â chlybiau golff lleol, cymdeithasau a grwpiau golff sy'n awyddus i ddefnyddio'r cyfleuster newydd.

Dywedodd Claire Vokes, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru:

"Mae PIN SIM Golf yn dod â phrofiad hamdden a chwaraeon newydd i Gaerffili tra’n creu lle lle gall golffwyr, clybiau, cymdeithasau a busnesau ddod at ei gilydd drwy gydol y flwyddyn ar yr un pryd.

"Mae Craig wedi cyfuno gwybodaeth arbenigol, arbenigedd technegol ac angerdd gwirioneddol dros y gêm i greu busnes sy'n llenwi bwlch yn y farchnad leol ac yn rhoi mynediad i golffwyr at gyfleuster dan do o ansawdd uchel yn nes at adref. "

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn yn cefnogi busnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael o £25,000 i £10 miliwn.