Newid Dwylo: Beth sy'n gwneud i drafodiad olyniaeth weithio?

Mae olyniaeth yn un o'r penderfyniadau pwysicaf y bydd perchennog busnes yn ei wneud, ond yn rhy aml mae'r sgwrs yn dechrau'n hwyrach nag y dylai.

Mae dechrau'n gynnar yn creu mwy o amser i ystyried yr opsiynau, paratoi'r tîm busnes a rheoli, a rhoi'r strwythur a'r cyllid cywir ar waith.

Ymunwch â Banc Datblygu Cymru am weminar ar-lein am ddim sy'n dod â pherchnogion busnesau, cynghorwyr ac arbenigwyr buddsoddi ynghyd i rannu profiad ymarferol o olyniaeth busnes a thrafod:

✅ Pam y dylai sgyrsiau olyniaeth ddechrau'n gynharach nag yr ydych chi'n meddwl

✅ Y gwahaniaethau allweddol rhwng allbryniannau rheolwyr (AllRhau), mewnbryniannau rheolwyr (MRhau) a llwybrau olyniaeth eraill

✅ Heriau cyffredin y mae busnesau'n eu hwynebu wrth baratoi ar gyfer olyniaeth

✅ Pam mae'r cynghorwyr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu cleientiaid drwy'r broses

✅ Dewisiadau ariannu a buddsoddi ar gael i gefnogi trosglwyddo perchnogaeth

✅ Profiadau bywyd go iawn gan fusnesau sydd wedi llywio'r broses yn llwyddiannus

Bydd y sesiwn yn darparu mewnwelediadau ymarferol, astudiaethau achos a chyfleoedd i ofyn eich cwestiynau i'n panel arbenigol.

Cofrestrwch i gadw eich lle yma.

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd