Newid Dwylo: Beth sy'n gwneud i drafodiad olyniaeth weithio?

Ymunwch â Banc Datblygu Cymru am weminar am ddim i rannu eu profiadau ymarferol o olyniaeth busnes.

Mae olyniaeth yn un o'r penderfyniadau pwysicaf y bydd perchennog busnes yn ei wneud, ond yn rhy aml mae'r sgwrs yn dechrau'n hwyrach nag y dylai.

Mae dechrau'n gynnar yn creu mwy o amser i ystyried yr opsiynau, paratoi'r tîm busnes a rheoli, a rhoi'r strwythur a'r cyllid cywir ar waith.

Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2026

Amser: 10-11yb

Lleoliad: Ar-lein

Cofrestrwch i gadw eich lle heddiw.

Ymunwch â Banc Datblygu Cymru am weminar ar-lein am ddim sy'n dod â pherchnogion busnesau, cynghorwyr ac arbenigwyr buddsoddi ynghyd i rannu profiad ymarferol o olyniaeth busnes a thrafod:

  • Pam y dylai sgyrsiau olyniaeth ddechrau'n gynharach nag yr ydych chi'n meddwl
  • Y gwahaniaethau allweddol rhwng allbryniannau rheolwyr (AllRhau), mewnbryniannau rheolwyr (MRhau) a llwybrau olyniaeth eraill
  • Heriau cyffredin y mae busnesau'n eu hwynebu wrth baratoi ar gyfer olyniaeth
  • Pam mae'r cynghorwyr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu cleientiaid drwy'r broses
  • Dewisiadau ariannu a buddsoddi ar gael i gefnogi trosglwyddo perchnogaeth
  • Profiad uniongyrchol gan fusnes sydd wedi llywio’r broses yn llwyddiannus

Bydd y sesiwn yn darparu mewnwelediadau ymarferol, profiad uniongyrchol a chyfleoedd i ofyn eich cwestiynau i'n panel arbenigol. Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys.

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd