Buddsoddiad o £320,000 yn cefnogi datblygiad llety moethus newydd yn Nannerch Heights

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Dechrau busnes
Nannerch Heights

Mae cyrchfan gwyliau moethus newydd yng nghefn gwlad Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr yn dilyn benthyciad o £320,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Nannerch Heights, sy'n eiddo i Nick a Margaret Dawson ynghyd â Kath a Dan Morley, wedi agor dau lety newydd ar safle dwy erw ger Nannerch, yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cefnogodd y benthyciad o £320,000 gan Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru Banc Datblygu y gwaith o adeiladu, cydosod a ffitio dodrefn ac ati yn y cabanau newydd, a elwir yn Gabanau'r Tylluanod / Owl Lodges oherwydd y nifer uchel o dylluanod lleol sy'n clwydo'n rheolaidd gerllaw. Mae pob caban pren ffrâm-A tua 100 metr sgwâr ac maen nhw’n ymgorffori paneli solar a phwmp gwres. Disgwylir i'r buddsoddiad hefyd gefnogi pedair swydd.

Agorodd y lletyau i westeion yn ystod yr haf ac maent eisoes wedi gweld galw mawr amdanyn nhw. Mae'r perchnogion bellach yn edrych tuag at gam nesaf Nannerch Heights, gyda chynlluniau'n cynnwys stiwdio gelf a gweithdy.

Dywedodd Nick Dawson, cyd-berchennog Nannerch Heights: “Roedden ni’n gwybod bod hwn yn lleoliad gwych ar gyfer y lletyau ac roedd hi’n bwysig i ni fod yr hyn a greon ni’n eistedd yn gyfforddus o fewn y dirwedd. Rydyn ni’n falch iawn o sut maen nhw wedi troi allan ac mae’r ymateb ers agor yn yr haf wedi bod yn galonogol iawn.

“Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu wedi bod yn ardderchog drwyddi draw. Fe wnaeth cael pobl y gallem siarad â nhw ac a gadwodd mewn cysylltiad wrth i’r prosiect fynd rhagddo wahaniaeth gwirioneddol. Roedden ni bob amser yn teimlo bod rhywun ar ben arall y ffôn pan oedden ni eu hangen, a oedd yn arbennig o werthfawr wrth ddod â datblygiad fel hwn at ei gilydd.”

Dywedodd Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Nannerch Heights yn ychwanegiad deniadol at letai ymwelwyr Sir y Fflint, mewn rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sydd eisoes â llawer iawn i’w gynnig i ymwelwyr. Mae’r perchnogion wedi creu rhywbeth nodedig sy’n gwneud defnydd rhagorol o’i leoliad gwledig ac sydd â’r potensial i ddod â gwariant ymwelwyr ychwanegol i’r ardal gyfagos.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r tîm yn Nannerch Heights a gweld eu cynlluniau’n cael eu gwireddu, gyda gwesteion bellach yn mwynhau’r lletyau a’r perchnogion eisoes yn edrych tuag at gam nesaf y datblygiad.”

Mae Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru, gwerth £50 miliwn, wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae'n darparu benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig yng Nghymru, gyda thelerau ad-dalu rhwng 10 a 15 mlynedd. Gall prosiectau gynnwys cynhyrchion arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy'n canolbwyntio ar ymwelwyr Cymreig yn benodol, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.