PIN SIM Golf

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi

Trosolwg o'r busnes 

Mae PIN SIM GOLF yn ganolfan golff dan do bwrpasol yng Nghaerffili, a grëwyd gan yr entrepreneur lleol Craig Hughes i roi lle i golffwyr ymarfer, chwarae a chystadlu drwy gydol y flwyddyn. Wedi'i lleoli yn Afon Court, mae gan y ganolfan dair cilfach efelychu, gan gynnwys cilfach ddeuol flaenllaw sy'n defnyddio technoleg Foresight Sports a dwy gilfach ychwanegol ar gyfer chwaraewyr o bob gallu. 

Mae'r busnes yn adeiladu ar ddiddordeb hirsefydlog Craig mewn golff a thechnoleg. Ar ôl defnyddio technoleg efelychu golff ei hun ers mwy na degawd, mae wedi dilyn datblygiadau yn y dechnoleg a'r feddalwedd yn agos ac wedi defnyddio'r profiad hwnnw i lywio'r ganolfan newydd. 

Gweithio gyda ni 

Fe wnaethom ddarparu benthyciad micro o £25,000 i PIN SIM GOLF o'n Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru i gefnogi'r gwaith o brynu offer arbenigol a darparu cyfalaf gweithio wrth i'r busnes newydd baratoi i agor. 

Mae'r cyllid yn rhan o fuddsoddiad ehangach yn y busnes, gan gefnogi ymrwymiad sylweddol Craig ei hun i ddatblygu'r ganolfan bwrpasol. Mae wedi helpu i arfogi PIN SIM GOLF â'r dechnoleg arbenigol sydd ei hangen i gynnig ymarfer drwy gydol y flwyddyn, rowndiau rhithwir a chystadlaethau o'i dair cilfach efelychu. 

Gyda diddordeb gan golffwyr a grwpiau golff eisoes wedi'i sefydlu cyn yr agoriad, mae PIN SIM GOLF yn rhoi mynediad i'r gymuned golff leol at gyfleuster dan do pwrpasol yn nes at adref, gan roi llwyfan i'r busnes newydd adeiladu aelodaeth, cynghreiriau a digwyddiadau. 
Beth mae pobl yn ei ddweud 

Dywedodd Craig Hughes, sylfaenydd PIN SIM GOLF: “Rwyf wedi defnyddio technoleg efelychu golff fy hun ers mwy na 10 mlynedd ac wedi dilyn datblygiadau mewn efelychwyr a meddalwedd drwy gydol y cyfnod hwnnw. Mae'r profiad hwnnw wedi llywio PIN SIM GOLF. Rydym wedi creu profiad golff dan do go iawn ar gyfer Caerffili, nid dim ond rhywle i daro peli at sgrin. 

“Rydym am greu canolfan o safon uchel lle gall golffwyr, dechreuwyr, pobl ifanc, teuluoedd, cymdeithasau a grwpiau ymarfer, chwarae, cystadlu a mwynhau'r gêm drwy gydol y flwyddyn. Yn y tymor hwy, hoffwn i PIN SIM GOLF ddod yn gymuned golff leol go iawn, gyda chynghreiriau, nosweithiau clwb a digwyddiadau grŵp. 

“Cynigiodd Banc Datblygu Cymru ateb ariannu cystadleuol, ac roedd y broses yn hwylus o'r dechrau i'r diwedd. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn rhan werthfawr o'r buddsoddiad ehangach rydym wedi'i wneud i gael PIN SIM GOLF yn barod i agor.” 

Dywedodd Claire Vokes, Uwch Weithredwr Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru:

“Mae PIN SIM GOLF yn dod â phrofiad hamdden a chwaraeon newydd i Gaerffili, gan greu man lle gall golffwyr, clybiau, cymdeithasau a busnesau ddod ynghyd drwy gydol y flwyddyn.

“Mae Craig wedi cyfuno gwybodaeth arbenigol, arbenigedd technegol ac angerdd gwirioneddol dros y gêm i greu busnes sy'n llenwi bwlch yn y farchnad leol ac yn rhoi mynediad i golffwyr at gyfleuster dan do o ansawdd uchel yn nes at adref.”