Trosolwg o'r busnes
Mae Motomec Aberdare Ltd yn weithdy MOT, gwasanaethu ac atgyweirio hirsefydlog sy'n gwasanaethu cwsmeriaid ledled Cwm Cynon a thu hwnt. Wedi'i sefydlu ym 1987 gan Eddie Hawkins, mae'r busnes hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw cerbydau dan gontract i sefydliadau gan gynnwys Tesco, BT, Co-op Funeralcare a'r RAC.
Dechreuodd y cyfarwyddwyr Alex Sage a Carl Adams eu gyrfaoedd yn Motomec fel prentisiaid cyn cymryd perchnogaeth o'r cwmni drwy bryniant gan y rheolwyr yn 2022. Sicrhaodd y broses olyniaeth fod cyflogwr a darparwr gwasanaethau lleol sefydledig yn parhau mewn perchnogaeth Gymreig, gan hefyd sicrhau parhad i'w gwsmeriaid a'i weithlu.
Ers cwblhau'r pryniant gan y rheolwyr, mae Alex a Carl wedi cynyddu trosiant a phroffidioldeb ac wedi cronni cronfeydd wrth gefn cryf i gefnogi datblygiad y busnes yn y dyfodol.
Eu carreg filltir ddiweddaraf yw prynu eiddo masnachu Motomec oddi wrth y cyn-berchennog Eddie Hawkins, gan roi mwy o sicrwydd a rheolaeth hirdymor i'r cwmni dros ased allweddol wrth iddo edrych tuag at dwf pellach.
Gweithio gyda ni
Gwnaethom gefnogi'r tîm newydd am y tro cyntaf yn 2022, gan ddarparu cyllid a'u galluogodd i gwblhau'r pryniant gan y rheolwyr o'r busnes lle'r oeddent wedi dechrau eu gyrfaoedd fel prentisiaid. Ein cefnogaeth ddiweddaraf yw benthyciad gwerth chwe ffigur o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, y mae Motomec wedi'i ddefnyddio i brynu ei eiddo masnachu.
Mae bod yn berchen ar yr eiddo yn rhoi mwy o sefydlogrwydd i'r busnes ac yn sicrhau'r safle lle mae wedi adeiladu ei sylfaen sefydledig o gwsmeriaid. Mae hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i Alex a Carl wrth iddynt barhau i fuddsoddi yn Motomec ac ystyried cyfleoedd i ehangu ymhellach.
Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn adeiladu ar y cyllid olyniaeth a ddarparwyd gennym yn 2022, gan ddangos sut y gall cefnogaeth barhaus helpu busnes i symud yn llwyddiannus o newid perchnogaeth i'w gam datblygu nesaf.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Dywedodd Alex Sage, Cyfarwyddwr Motomec Aberdare Ltd,: “Mae prynu'r eiddo yn garreg filltir fawr i ni ac yn rhoi hyder gwirioneddol i ni yn nyfodol y busnes. Heb y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.
“Pan oedd Eddie yn bwriadu ymddeol, roedd perygl gwirioneddol y gallai'r busnes fod wedi diflannu'n llwyr. Yn lle hynny, rydym wedi gallu diogelu'r busnes, parhau i gefnogi swyddi lleol ac adeiladu ar bopeth a gyflawnwyd dros y pum degawd blaenorol.
“Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn helpu i ddiogelu dyfodol Motomec ac yn rhoi'r llwyfan i ni barhau i symud ymlaen. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n cwsmeriaid am eu teyrngarwch a'u cefnogaeth barhaus, gan mai eu hymddiriedaeth nhw yw'r rheswm ein bod yn y sefyllfa hon heddiw.”
Dywedodd Jill Allen, Gweithredwr Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru,:
“Mae Alex a Carl wedi adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd gan Eddie Hawkins ac wedi dangos ymrwymiad clir i'w cwsmeriaid, eu gweithlu a'u cymuned leol. Ers caffael y busnes yn 2022, maent wedi sicrhau twf parhaus a chynnal sefyllfa ariannol gref.
“Mae prynu'r eiddo bellach yn rhoi mwy o sefydlogrwydd iddynt, yn diogelu ased lleol pwysig ac yn darparu llwyfan cadarn ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Alex a Carl unwaith eto wrth iddynt barhau i fuddsoddi yn llwyddiant hirdymor Motomec.”