Padel Porthcawl

Jessica-White
Uwch Swyddog Buddsoddi

Trosolwg o'r busnes 

Mae Porthcawl Padel yn gyfleuster padel awyr agored newydd ym Mharc Griffin ar lan y môr ym Mhorthcawl. Dan arweiniad y cyfarwyddwyr Elliott Jones, Conor Rees, Benjamin Thomas a Daniel Thomas, mae'r busnes wedi trawsnewid cyrtiau tennis nad oeddent yn cael eu defnyddio'n helaeth yn ddau gwrt padel panoramig o safon uchel. 

Daeth y syniad o brofiad y cyfarwyddwyr eu hunain o chwarae padel yng Nghaerdydd ac Abertawe. Ar ôl gweld cyfle i ddod â'r gamp raced gynyddol boblogaidd i Borthcawl, gwnaethant nodi'r lle segur ym Mharc Griffin fel lleoliad ar gyfer cynnig hamdden newydd i drigolion ac ymwelwyr. 

Wedi'u dylunio i'w defnyddio yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn, mae'r cyrtiau wedi'u hadeiladu i wrthsefyll amodau arfordirol. Mae'r cyfleuster ar agor saith diwrnod yr wythnos ac yn defnyddio llwyfan archebu digidol a system mynediad ddiogel, gan alluogi chwaraewyr i archebu a chael mynediad i'r cyrtiau'n uniongyrchol. 

Gweithio gyda ni 

Gwnaethom ddarparu benthyciad o £60,000 o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru i helpu'r cyfarwyddwyr i sefydlu Porthcawl Padel. Mae'r cyllid wedi cefnogi'r gwaith paratoi tir, y ffensys a'r goleuadau ar gyfer y ddau gwrt panoramig, ynghyd â gosod gwydr amddiffynnol arbenigol. 

Mae ein buddsoddiad wedi helpu'r cyfarwyddwyr i droi safle nad oedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn gyfleuster chwaraeon pwrpasol, tra bod eu buddsoddiad sylweddol eu hunain yn dangos eu hymrwymiad i botensial hirdymor padel yn yr ardal. 

Gyda lleoliad amlwg ar lan y môr a chyfleusterau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, mae Porthcawl Padel yn ychwanegu at yr arlwy hamdden yn y dref ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. 

Beth mae pobl yn ei ddweud 

Dywedodd Elliott Jones, Cyfarwyddwr Porthcawl Padel: 

“Mae padel yn rhywbeth rydym wedi mwynhau ei chwarae yng Nghaerdydd ac Abertawe, a gwelsom gyfle gwirioneddol i ddod ag ef i Borthcawl. Mae'r lleoliad yn ddelfrydol, ac mae trawsnewid safle nad oedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn gyfleuster o ansawdd uchel wedi bod yn brosiect cyffrous i ni. 

“Mae'r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i greu'r cyrtiau i'r safon roeddem ei heisiau. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol ein hunain oherwydd ein bod yn credu ym mhotensial hirdymor y gamp yma, ar gyfer chwaraewyr lleol ac arlwy twristiaeth ehangach yr ardal.” 

Dywedodd Jessica White, Uwch Weithredwr Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru:

“Mae Porthcawl Padel yn enghraifft gref o sut y gall buddsoddiad roi bywyd newydd i fannau presennol wrth gefnogi tueddiadau cynyddol ym maes chwaraeon a lles. 

“Gwnaeth y tîm nodi bwlch clir yn y farchnad leol ac maent wedi cyfuno eu profiad eu hunain o'r gamp â buddsoddiad personol sylweddol. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sydd nid yn unig yn gwella'r arlwy hamdden lleol, ond sydd hefyd yn cyfrannu at apêl ehangach Porthcawl fel cyrchfan.”