Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wild Water Group.
Mae Wild Water Group, cwmni storio a dosbarthu tymheredd rheoledig mwyaf De Cymru, wedi prynu cyfleustra warws 130 000 troedfedd sgwâr ar safle 12 erw yn nhref Aberbargoed yng Nghymoedd De Cymru, a fydd o bosib yn cynhyrchu hyd at 120 o swyddi newydd ar draws swyddi rheoli, goruchwylio, staff warws a rolau prentis.
Cefnogir y prosiect gan fuddsoddiad o £1.7 miliwn gan Lloyds Bank Commercial Banking a Banc Datblygu Cymru, ac mae wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru dan y contract economaidd newydd.
Gan ddefnyddio model busnes tebyg i dri safle arall y Grŵp ym Merthyr Tudful, Llanisien a Bae Caerdydd, cyfnod cyntaf y datblygiad fydd trosi’r lle sydd ar gael yn gyfleustra cyd-becynnu cynllun agored amgylchynol mawr, a fydd yn gweithredu erbyn dechrau mis Tachwedd 2018 i ddelio â’r galw dros yr ŵyl.
Yn ystod chwarter cyntaf 2019, bydd Wild Water Group yn symud cyfleusterau cyfan cyd-becynnu Bae Caerdydd i Aberbargoed, unwaith y mae’r cyfleusterau rhewgell, llinellau cynhyrchu a’r peiriannau yn eu lle.
Bydd y cwmni wedyn yn parhau gyda gwasanaethau megis storio rhewedig i rewedig, bagio, pecynnu, rhoi mewn llewys a selio hambyrddau, ynghyd â’r sbectrwm cyfan o gymwysiadau labelu sydd eu hangen dan fanylebau Technegol Diogelwch Bwyd (CCP).
Meddai Ken Rattenbury, sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Wild Water Group, “Rydym wrth ein boddau bod ein gweledigaeth o gael ‘siop un stop’ ar gyfer ein cwsmeriaid yn cael ei gwireddu ac mae cael cyfleusterau 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos yng nghanol Cymru yn mynd i newid pethau yn ein diwydiant. Medrwn nawr gynnig i gwsmeriaid becyn cadwyn gyflenwi ddi-dor trwy integreiddio eu gofynion cyd-becynnu nhw gyda warws y cwmni ac is-gwmnïau cludiant.”
“Yn logistaidd, mae hyn yn fwy cost-effeithiol yn gyffredinol, ond mae hefyd yn lleihau ôl troed carbon cludo nwyddau bwyd, sy’n rhywbeth rydym yn teimlo’n gryf amdano,” meddai Ken.
Mae gan Wild Water Group drosiant blynyddol o £6m ac mae Mr Rattenbury yn credu y gall y cwmni gynyddu’r ffigwr hwnnw £2m o fewn 12 mis ac yna cyrraedd £10m o fewn 2-3 blynedd.
Buddsoddiad ariannol
Gyda’r sector Bwyd a Diod nawr yn cael ei adnabod gan Lywodraeth Cymru fel sector sylfaenol ac un o yrwyr economaidd allweddol economi Cymru, ystyrir bod y prosiect o fudd i bawb ar nifer o lefelau yn y diwydiant ac felly’n gyfle buddsoddi deniadol i bob partner strategol sy’n cymryd rhan.
Mae’r prosiect nid yn unig yn cefnogi seilwaith bwyd Cymru, ond yn bwysicach, mae’n agor cyfleoedd allforio a mewnforio ar sail marchnad ranbarthol a rhyngwladol.
Meddai Jonathan Cave, rheolwr perthynas gyda Lloyds Bank Commercial Banking: “Mae’r safle newydd yn cynrychioli cyfnod newydd cyffrous yn natblygiad Wild Water, gan ddarparu’r capasiti mwy sydd ei angen i dyfu’r sylfaen cleient wrth greu cyfleoedd gwaith hanfodol i bobl ledled De Cymru.”
“Trefnu pecynnau ariannu sydd wedi eu teilwra ar gyfer union anghenion cwmni yw un o’r nifer o ffyrdd rydym yn helpu cwmnïau fel Wild Water i gyflawni eu dyheadau i dyfu a helpu busnesau ledled Prydain i ffynnu.”
Mae Banc Datblygu Cymru wedi gwneud buddsoddiad o £280,000.
Meddai Stephen Elias, sy’n Uwch Swyddog Gweithredol Portffolio: “Mae buddsoddiad sy’n cefnogi creu ac amddiffyn swyddi yn y rhanbarth hwn yn flaenoriaeth allweddol i ni, ynghyd â helpu i yrru twf cynaliadwy yn y sector bwyd a diod. Dyna pam rydym yn falch o gefnogi Wild Water Group gyda’u cynlluniau i ehangu. Bydd datblygu’r cyfleusterau warws newydd yn cynhyrchu cyfleoedd allforio gwirioneddol gyffrous a fydd o fudd i fusnesau a’r gadwyn gyflenwi leol fel ei gilydd. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r tîm.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: “Bydd y prosiect hwn nid yn unig yn gweld busnes llwyddiannus yng Nghymru yn creu 120 o swyddi ychwanegol, bydd hefyd yn creu canolfan strategol newydd a chyfleusterau ar gyfer busnesau bwyd a diod bach a mawr ar draws y rhanbarth i becynnu neu storio cynnyrch eu hunain. Gallai hyn, yn ei dro, agor marchnadoedd newydd i’r busnesau hynny – rwy’n gyffrous ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu nid yn unig i Wild Water Group ac Aberbargoed, ond i’r rhanbarth yn ehangach.”
“Mae’n dangos bod ein cynlluniau Gweithredu Economaidd a Bwyd a Diod yn cyflenwi’r hyn a obeithiwyd – swyddi, ffyniant a thwf cynaliadwy.”
Mae Nigel Payne, ffigwr busnes adnabyddus yn Ne Cymru, a ymunodd â’r cwmni fel cyfarwyddwr anweithredol ar y bwrdd ymgynghorol ym mis Rhagfyr 2017, yn dweud ei fod yn gweld cyfle anferth i’r cwmni hwn o Gymru.
“Nid yw ein gweledigaeth yn freuddwyd gwrach”, meddai Nigel. “Rydym yn credu ei fod yn cefnogi twf economaidd y sector bwyd yng Nghymru at y dyfodol a’r hyn nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli yw bod 30% o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yma yn dod i mewn o Ewrop. Mae’r gweddill yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ac o fewnforion byd-eang.”
“Gyda Brexit o’n blaenau, mae tuedd gynyddol wedi bod yn y farchnad o weld cwmnïau yn pentyrru eu cynnyrch bwyd, sy’n anochel yn creu mantais busnes ac mae hyn o ganlyniad yn cyfiawnhau ymhellach y buddsoddiad ariannol hwn.”
Mae’n ychwanegu, “Mae safle Aberbargoed yn dempled i Wild Water Group edrych ar gyfleusterau Gogledd Cymru hefyd, ynghyd ag ystyried cyfleoedd y mae Maes Awyr Caerdydd yn eu cynnig. Rydym mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda chwmni logisteg byd-eang arweiniol sydd â chysylltiad agos gyda’r prif gwmnïau awyrennau.”
Mae’r cwmni wedi atgyfnerthu ei adran gyllid trwy benodi Mr Mike Fenwick, cyfrifydd profiadol sydd wedi bod â swyddi uchel gyda PwC ac MHA Broomfield Alexander.