Mae gan arbenigwr cymhorthion symudedd Snowdrop Independent Living berchnogion newydd ar ôl i dîm allbrynu rheoli (ARh) gael ei gefnogi gan Fanc Datblygu Cymru gyda buddsoddiad ecwiti o £500,000.
Mae'r busnes yn arbenigo fel manwerthwr a dosbarthwr cymhorthion symudedd, gan gynnwys cadeiriau esgyn a chadeiriau orthopedig, ac fe'i sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl gan Peter O 'Shea.
Dechreuodd fel ystafell arddangos sengl yn Hwlffordd cyn ehangu ymhellach i dde Cymru gyda siopau yn Abertawe a Phenarth.
Cydnabu Banc Datblygu Cymru bod y Rheolwr Gyfarwyddwr David Morgan a'r Cadeirydd Kevin Bounds, yn meddu ar y sgiliau allweddol a'r profiad i arwain allbryniant rheoli llwyddiannus ochr yn ochr â phedwar o aelodau staff presennol.
Darparwyd arian ar gyfer yr allbryniant gan Fanc Datblygu Cymru, trwy eu Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Mae'r gronfa hon yn galluogi timau rheoli i gael gafael ar gyllid ecwiti i drosfeddiannu busnesau presennol.
Dywedodd David Morgan: “Roeddwn i'n chwilio am fusnes a oedd yn gwneud rhywbeth defnyddiol. Mae Snowdrop yn gwneud bywydau pobl yn well ac mae hynny'n ymddangos i mi fel ffordd eithaf da o dreulio'ch diwrnod. Mae Snowdrop yn darparu cymhorthion ar gyfer symudedd a byw o ddydd i ddydd fel cadeiriau olwyn pŵer, gwelyau arbenigol, teclynnau codi, sgwteri symudedd a nwyddau traul. Mae'r timau peirianneg yn gosod cadeiriau esgyn, teclynnau codi a lifftiau trwy'r llawr ac yn gallu rheoli addasiadau eiddo mwy cymhleth.
“Fe wnaethom gyfarfod ag uwch reolwyr ac adeiladu'r tîm allbrynu. Arweiniodd y Banc Datblygu Cymru ni ar sut i adeiladu cynnig a fyddai'n gweithio i ni a'r banc. Fe wnaeth y cymorth a'r cyngor a dderbyniwyd yn ddiolchgar drwy'r camau hyn ein helpu i sicrhau cwblhad yr allbryniant rheoli.”
Mae'r tîm rheoli newydd yn awr yn bwriadu tyfu'r busnes gyda mwy o ystafelloedd arddangos, mwy o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno technoleg newydd sy'n darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid. Ar hyn o bryd, mae 22 aelod o staff a bydd 20 o swyddi newydd yn cael eu creu.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Buddsoddi, Stephen Galvin, a arweiniodd y trafodion gyda'r Swyddog Buddsoddi, Navid Falatoori: “Fe wnaethom fuddsoddi yn y busnes hwn oherwydd ein bod yn hoffi cynllun y tîm rheoli i fanteisio ar ddemograffeg y sector. Mae Snowdrop yn datblygu cynnig sy'n gwella symudedd ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio a'r nifer yn cynyddu'n gyson ac roeddem am fod yn rhan o hynny. Gwnaethom gryfhau'r tîm rheoli, gan ychwanegu at yr adnoddau presennol drwy ddod â phrofiad David a Kevin i mewn, gan ei wneud yn dîm ARh cadarn a hyderus.
“Mae'r banc datblygu yn awyddus i sicrhau bod gan dimau rheoli arian olyniaeth i'w helpu i drosfeddiannu busnesau sy'n seiliedig yn gryf ar y gymuned fel Snowdrop. Rydym hefyd yn cael ein calonogi bod y cyn-berchennog Peter O 'Shea yn aros yn y busnes wrth iddo dyfu, ochr yn ochr â'r holl aelodau staff presennol. Wrth iddynt agor siopau newydd, bydd hyn hefyd yn creu mwy o swyddi. Mae ein harnodiad bellach yn golygu bod Snowdrop yn gallu ymfalchïo mewn tîm rheoli hynod brofiadol gydag uchelgeisiau cryf a ffocws ar dwf.”
Dywedodd Andy Morris, y swyddog portffolio: “Byddaf yn gweithio gyda'r busnes dros y misoedd nesaf i sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae trafodion olyniaeth rheoli yn ymrwymiad hir dymor a gallwn helpu'r tîm i lywio'r daith sydd o'u blaenau.”
Y buddsoddiad gan Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru oedd y gyntaf ers i’r Gronfa Bensiynau Clwyd fuddsoddi ynddo yn ddiweddar.