Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Caerdydd

Map of Cardiff

Cyrraedd ein swyddfeydd yng Nghaerdydd

Rydyn ni reit yng nghanol y ddinas - yn agos at brif ardal siopa Caerdydd a phob trafnidiaeth gyhoeddus.

Ein cyfeiriad yw Llawr 7, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ

Os ydych chi'n gyrru, mae maes parcio NCP gyferbyn - dilynwch gyfarwyddiadau ar gyfer Maes Parcio Stryd Pellett. O'r fan honno, cerddwch ar draws y Bont (fe’i gelwir yn 'Smart Bridge'). Ni yw'r adeilad cyntaf ar y dde. Mae'r fynedfa yn y cefn.

Os ydych chi'n cyrraedd ar drên, yr orsaf agosaf yw Caerdydd Canolog. Oddi yno gallwch naill ai gerdded 5-10 munud i'r swyddfa, neu ddal tacsi o'r tu allan i'r orsaf drenau.

 

Mynediad Anabl 

  • Darperir mynediad heb risiau a drysau â chymorth pŵer yn y brif fynedfa
  • Mae mannau parcio hygyrch dynodedig ar gael, cysylltwch â ni i gadw lle os gwelwch yn dda
  • Mae lifftiau ar gael
  • Mae toiledau hygyrch ar gael ar bob llawr
  • Rydym yn croesawu cwn cymorth