Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Clinig cymorth busnes

Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent rydym yn cynnal Clinig Cymorth Busnes rhwng 8.00yb - 16:00yp ar y dyddiad canlynol:

 

24 Chwefror 2020

Y Swyddfeydd Cyffredinol, Steelworks Road,

Glyn Ebwy NP23 6AA

 

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn sicrhau'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i dyfu eich busnes presennol.

Yn y sesiwn, gallwch ddarganfod mwy am gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer eich busnes. Gan weithio gyda'n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P'un a ydych chi'n fusnes sy'n dechrau o'r newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

E-bostiwch claire.vokes@bancdatblygu.cymru  i archebu slot 30 munud.

Fel arall, gallwch ei ffonio hi ar 02920 801728

 

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi