Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

FfBB Cymru yn Dathlu Gwobrau Busnesau Bach 2020

Rydym yn noddi categori gwobr Busnes Twf Uchel y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Busnesau Bach y Ffederasiwn Busnesau Bach (FfBB) eleni ar y 13eg o Fawrth.

Mae'r gwobrau hyn yn hyrwyddo busnesau bach ac unigolion hunangyflogedig ledled Cymru gyfan.

Yn y Banc Datblygu rydym yn cydnabod bod pob busnes yn unigolion a gellir dangos twf mewn gwahanol ffyrdd. Mae gwobr Busnes Twf Uchel y Flwyddyn yn cydnabod busnesau yng Nghymru sydd â strategaeth dwf gref ac sydd wedi profi twf eithriadol mewn gwerthiannau, elw, cyfran o'r farchnad neu gyflogaeth.

Dewch i ymuno ag aelodau o'n tîm micro fenthyciadau mewn prynhawn i ddathlu a chydnabod llwyddiannau busnes Cymru.

Canfyddwch fwy am y gwobrau yn fan hyn.

Pwy sy'n dod

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi