Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, Cymru, mae Pinnacle yn ddarparwr atebion blaenllaw ym maes print a dogfennau yn y DU ac Ewrop. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad ac mae’n cynnal dros 3,500 o ddyfeisiau a reolir.
Fel cyd Bartner Platinwm Xerox ac Arian HP, mae caffael Pinnacle yn help i ehangu portffolio print Grŵp Ethos. Mae'n ehangu ymhellach y gwasanaeth pwrpasol at eu gofynion unigol y gall Ethos ei gynnig i’w gwsmeriaid ac yn cryfhau ac ehangu ei gwmpas daearyddol yr un pryd.
Gyda gweithlu cyfun o fwy na 200 o weithwyr, bydd trosiant blynyddol y Grŵp yn fwy na £42M erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd yn ceisio cynnal EBITDA ar 18% o’r trosiant.
Ymunodd Clive Hamilton, Rheolwr Gyfarwyddwr Pinnacle, â’r cwmni yn 1993 fel swyddog gwerthu, cyn arwain y rheolwyr yn eu pryniant o’r cwmni yn 2015 a mynd ati wedyn i brynu Fast Technology a Copier Mate. Mae’r pryniant yn galluogi Banc Datblygu Cymru i dynnu allan yn llwyddiannus, ac yntau wedi darparu cyllid dyled ac ecwiti i gefnogi pryniant y rheolwyr dan arweiniad Clive Hamilton.
Bydd Barry Matthews, Prif Weithredwr Ethos, a Clive Hamilton, Rheolwr Gyfarwyddwr Pinnacle, yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi cynlluniau twf uchelgeisiol y Grŵp.
Dywedodd Barry Matthews, Prif Weithredwr Ethos:
“Mae caffael Pinnacle, ynghyd â Clive a’i staff, yn cynrychioli cyfle i dyfu’n strategol gan ddarparu platfform cadarn i adeiladu arno yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr. A minnau wedi adnabod Clive ers sbel, roeddwn yn gwybod mor uchel ei barch ydyw yn y diwydiant ac rwy’n llawn cyffro o gael y cyfle nawr i gydweithio ag ef. Mae ei werthoedd gwaith yn gwbl arbennig ac mae’r ddau ohonom yn rhannu’r un weledigaeth o ran parhau i lwyddo yn y diwydiant hwn.
Ar nodyn personol, roedd y pryniant hwn yn un o’r pethau olaf y cefais y pleser o weithio arno gyda Chadeirydd Ethos, Paul Norris, cyn ei farwolaeth annisgwyl y llynedd. I mi, yr Uwch Dîm Arwain a’r staff, mae’r pryniant hwn yn cynrychioli parhad ei waddol.”
Dywedodd Clive Hamilton, Rheolwr Gyfarwyddwr Pinnacle Document Solutions:
“Cychwynnom ar y siwrnai hon ym mis Mawrth 2015 gyda phryniant y rheolwyr. Bryd hynny, roedd y Bwrdd a minnau wedi cynllunio twf drwy uno a phrynu cwmnïau, yn ogystal â thrwy dwf organig Pinnacle, o fewn y cyfnod hwn o 5 mlynedd.
Y cam nesaf ar y siwrnai nawr yw edrych ar sut y gallwn uno ein sgiliau, profiad y staff a theyrngarwch cwsmeriaid i greu busnes mwy, mwy cynaliadwy, gyda llawer mwy o atebion a gwasanaethau y bydd ein cleientiaid yn elwa ohonynt.
Ar ôl cwrdd â Paul a Barry roeddwn yn gwybod mai Ethos oedd y Grŵp a wnaiff ychwanegu’r gwerth, y symbyliad a’r gefnogaeth i ganiatáu inni adeiladu busnes cryfach sy’n gydnaws â’r farchnad dechnoleg rydyn ni’n gweithio ynddi, lle mae popeth yn symud mor gyflym.
Ar nodyn personol, rwy’n llawn cyffro o gael y cyfle i weithio gyda Barry a’i Uwch Dîm Arwain i barhau â stori a siwrnai Pinnacle am y 5 i’r 7 mlynedd nesaf.”
Gambit Corporate Finance oedd y prif gynghorydd ariannol i gyfranddalwyr Pinnacle, yn gyfrifol am adnabod, negodi a strwythuro’r cytundeb. Roedd tîm Gambit yn cael ei arwain gan Geraint Rowe (Partner) Tim Brotherton (Cyfarwyddwr) a Nick Gallagher (Dadansoddwr).
Dywedodd Geraint Rowe:
“Rydym wedi cael y fraint o weithio’n agos gyda Clive a Pinnacle ers sawl blwyddyn. Buom yn eu cynghori ar bryniant y rheolwyr yn 2015 a phryniannau wedi hynny, gan weld drosom ein hunain fel y mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn ddarparwr gwasanaethau print rheoledig a dogfennau blaenllaw yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr. Bydd y pryniant gan Grŵp Ethos yn galluogi Pinnacle ac Ethos i wireddu cam nesaf eu cynlluniau twf fel rhan o grŵp mwy, yn cynnig mwy o wasanaethau a chanddynt ôl troed mwy o ran cwsmeriaid.”
Darparodd Gunnercooke gyngor cyfreithiol i Grŵp Ethos a darparodd Hugh James (Gerallt Jones a Gemma Davies) gyngor cyfreithiol i gyfranddalwyr Pinnacle.
Sam Macalister-Smith fu’n arwain y trafodiad ar ran Banc Datblygu Cymru.