Yng nghylch bywyd llawer o gwmnïau sy’n ehangu, fel ddaw adeg pan fydd angen iddynt benodi rhywun i oruchwylio cymhlethdodau cynyddol rheolaeth ariannol busnes mwy. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn dilyn y pandemig COVID-19 a’r ansicrwydd o ran Brexit
Fel perchennog busnes bach, mae angen i chi fod â'ch ffigyrau ar flaenau eich bysedd a gwneud penderfyniadau yn gyflym i gadw i fyny â chyflymder y newid. Bydd hyn yn caniatáu i chi allu diweddaru eich rhanddeiliaid a'ch credydwyr fel eu bod nhw’n deall beth yw’r sefyllfa o ran eich cynlluniau busnes. Byddan nhw eisiau gwybod bod gennych chi reolaeth dda dros lif arian. Gall arbenigwr ariannol gefnogi hyn.
Mae bob busnes angen rhywun busnes sy'n goruchwylio materion cyllid cwmni, gan gynnwys y gyflogres, rheoli'ch cadwyn gyflenwi, cyfalaf gweithio, llif arian, ac adrodd. Gall hwn fod yn benodiad mewnol, neu wedi'i gontractio yn allanol trwy wasanaeth cadw llyfrau, cyfrifydd neu gwmni rheolydd ariannol.
Ym Manc Datblygu Cymru, gall ein tîm portffolio eich cyflwyno i arbenigwyr cyllid profiadol a all gefnogi eich busnes.
Ar hyn o bryd mae ein cwsmer, Dale Roads Group yn berchen ar ac yn gweithredu pum cartref gofal yn Sir Benfro. Gan weithio gyda'u swyddog portffolio fe wnaethant benodi cwmni rheoli ariannol - SME Finance Partners.
Roedd gan Mike Davies, Cyfarwyddwr Ariannol Dale Roads Group hyn i'w ddweud am eu rheolwr ariannol newydd a'i dîm:
“Fe wnaethom elwa’n gyflym o weithio gyda Chris Thomas, o SME Finance Partners. Llwyddodd i werthuso arferion gweithredol y grŵp a gwnaeth argymhellion adeiladol. Yna fe wnaethant sefydlu ein system adrodd ar y cwmni, a wellodd ein hadroddiadau ariannol gyda nodweddion wedi'u teilwra nad ydynt i'w cael ar becynnau cyfrifyddu traddodiadol.
“Heddiw mae Chris a'i dîm yn chwarae rhan weithredol yn ein holl weithrediadau ariannol, gan gynnwys cynllunio rhagolygon, strwythur ariannol, a chynllunio prosiectau. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda SME Finance Partners ymhell i'r dyfodol.”
Roedd gan Jack Lear, Rheolwr Gyfarwyddwr Bodysocks, cyfanwerthwr a manwerthwr sy'n seiliedig yn Ninbych-y-pysgod, hyn i'w ddweud am ei brofiad o arbenigwr cyllid a gyflwynwyd iddo gan y Banc Datblygu:
“Darparodd ein swyddog portffolio werth aruthrol trwy gyfeirio Richard Morgan, ein rheolwr ariannol at y cwmni. Mae Richard wedi dod yn rhan werthfawr o'r busnes ac wedi darparu ystod amrywiol o arbenigedd ariannol inni, o gynhyrchu cyfrifon rheoli misol i archwiliadau TAW.”
Mae Mazuma o Ben-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwasanaethau cyfrifyddu a chadw llyfrau ar-lein ac o bell i fusnesau bach ledled y DU.
Mae Lucy Cohen, Rheolwr Gyfarwyddwr Mazuma yn cynnig y cyngor a ganlyn i fusnesau ar reolaeth ariannol fel ag y mae pethau ar hyn o bryd:
“Nawr yn fwy nag erioed mae'n hanfodol eich bod chi'n cadw eich ffigurau ar flaenau eich busnes. Mae rheolaeth ariannol dda yn allweddol, ond mae hyd yn oed yn bwysicach pan fo pethau'n ansicr. Mae cadw llygad barcud ar eich cyllid yn golygu, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod beth sydd rownd y gornel i'ch busnes, rydych chi'n gwybod pa adnoddau sydd gennych i ymdrin â nhw waeth be' mae'r byd yn ei daflu atoch chi. Mae gwybod eich ffigurau yn golygu y gallwch nodi bylchau yn eich cynllun a chwilio am ffyrdd i'w lliniaru - p'un a yw hynny'n codi cyllid ychwanegol neu'n torri ar wariant. Efallai y bydd hyn yn teimlo'n frawychus, efallai y byddwch yn teimlo eich bod eisiau claddu'ch pen ryw fymryn - ond unwaith y byddwch wedi goresgyn y teimlad hwnnw a dod i nabod eich ffigurau o ddifri, byddwch yn rhoi eich busnes ar y llwybr cywir."
I ganfod mwy am y gwasanaethau rheoli ariannol y gallwn ni eich cyflwyno iddynt, cysylltwch â'ch swyddog portffolio.