Mae buddsoddiad chwe ffigur mewn arbenigwyr iechyd merched Health & Her yn chwyldroi’r ffordd y mae menywod yn rheoli’r symptomau sy’n gysylltiedig â'r menopos.
Fe'i sefydlwyd yn 2017, Health & Her yw'r hwb menopos cyfannol cyntaf sy'n cynnig cynhyrchion, cyngor arbenigol ac olrhain symptomau trwy eu app menopos. Gwnaeth Banc Datblygu Cymru fuddsoddiad cychwynnol chwe ffigur yn 2019 ochr yn ochr â chyllid gan syndicet o fuddsoddwyr angylion a Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Mae'r cwmni technoleg iechyd o Gaerdydd wedi tyfu bum gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn yr ail rownd hon o gyllid ym mis Rhagfyr 2020, bydd y Banc Datblygu yn dilyn ei fuddsoddiad ecwiti ochr yn ochr â'r syndicet angel a’r arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Bydd yr arian yn galluogi'r busnes i ddatblygu cynnyrch ac ehangu i fanwerthu prif ffrwd. Mae Health & Her yn disgwyl creu hyd at 18 o swyddi newydd a disgwylir i bartneriaid cadwyn gyflenwi ym Mhort Talbot a Chonwy elwa o dwf y busnes.
Mae canolbwynt iechyd menopos arobryn Health & Her yn grymuso menywod i reoli eu symptomau trwy ddarparu cynhyrchion blaengar, cyngor arbenigol arweiniol a mewnwelediadau newydd yn glinigol trwy wefan e-fasnach, gwasanaeth teleiechyd ac ap. Mae Health & Her hefyd yn cynnig teclyn a thraciwr symptomau menopos ar-lein am ddim ynghyd â gwybodaeth gymwys ac arbenigol ar y menopos gan arbenigwyr gorau'r DU. Mae apwyntiadau ar-lein taladwy ar gael gyda meddygon teulu arbenigol hefyd.
Mae Kate Bache yn gyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr. Meddai: “Gall y menopos newid bywyd cymaint. Trwy rymuso menywod i ystyried y corff, y meddwl a ffordd o fyw - a rhoi’r cyfarpar iddynt allu gwella eu profiad - ein gobaith ydi newid bywydau miliynau o fenywod er gwell.
“Mewn gwirionedd, mae'r ymchwil rydyn ni wedi'i wneud gyda menywod wedi ein helpu i ddeall pa mor gymhleth y gall profiadau a symptomau’r menopos fod. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n newid ac yn gwella Health & Her yn gyson trwy wrando ar y merched rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r ffyrdd gorau o gyrraedd pob merch a gwneud cynhyrchion a gwasanaethau yn fwy hygyrch. Mewn byd o ddulliau cyfathrebu a thueddiadau cyfryngol sy'n newid yn barhaus, mae angen i ni ei gwneud hi'n hawdd iawn i fenywod ddod o hyd i'r hyn sydd gennym i'w gynnig, ei ddefnyddio a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan yr hyn sydd gennym i'w gynnig.
“Mae'r cyllid diweddaraf hwn bellach yn golygu y byddwn yn gallu cynyddu ein graddfa gyda chymorth y Banc Datblygu fel ein partner ecwiti tymor hir. O'u buddsoddiad cychwynnol yn 2019, mae eu cefnogaeth barhaus wedi bod yn hanfodol i'n twf. Rydyn ni'n falch iawn o'u cael nhw ar y daith gyda ni."
Dywedodd Sarah Smith o dîm mentrau technoleg y Banc Datblygu: “Mae Health & Her ar genhadaeth i olrhain y darganfyddiadau menopos gorau un, a rhannu syniadau gwych a fydd yn newid bywydau menywod er gwell. Gyda data wrth wraidd yr hyn sy’n cael ei gynnig, mae'r busnes wedi cofnodi twf cryf dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi llenwi bwlch yn y farchnad.
“Ynghyd â chefnogaeth barhaus y Banc Datblygu a buddsoddwyr angylion preifat, mae Health & Her yn fusnes sydd wedi ei dyfu gartref gyda dyfodol cyffrous sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau merched. Mae'n wych gweld yr effaith y gall cyd-fuddsoddi ei chael; daw â grym gwirioneddol buddsoddwr sefydliadol a gwerth ychwanegol buddsoddi angel.”
Gall Banc Datblygu Cymru fuddsoddi ecwiti mewn cwmnïau sy'n dechrau o'r newydd, yn eu camau cynnar neu sefydledig sy'n bwriadu datblygu a manteisio ar dechnoleg gyda buddsoddiad mynediad o £50,000 i £2 filiwn. Mae buddsoddiad dilynol hyd at £5 miliwn ar gael ynghyd â mynediad at rwydwaith mawr o gyd-fuddsoddwyr ac angylion busnes trwy Angylion Buddsoddi Cymru.