Mae Cufflink, cwmni Preifatrwydd Data a Seiberddiogelwch o Ogledd Cymru, wedi llwyddo i gael gwerth dros £500,000 o gyllid ecwiti a grant i helpu i ddiogelu eich data personol.
Sefydlwyd Cufflink yn 2018 gan Billy Williams a Boris Grekov. Mae’r cwmni yn datblygu Ap diogel i helpu pobl i reoli sut mae eu data personol yn cael eu defnyddio er mwyn eu helpu i fod yn fwy diogel a doeth wrth reoli data personol ar-lein.
Banc Datblygu Cymru oedd yn arwain y gronfa sbarduno cyllid ecwiti chwe ffigur, sy’n ategu buddsoddiad pellach pwysig gan Angel, grŵp o fuddsoddwyr sydd wedi’u lleoli yn Llundain.
Fel yr eglurodd Billy Williams, Prif Weithredwr Cufflink:
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau ein buddsoddiad ecwiti cyntaf ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at barhau i dyfu a datblygu ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru a’n cyd-fuddsoddwyr, Angel."
Mae’r cyllid yn golygu y bydd Cufflink yn gallu parhau i ddatblygu ei Ap a’i gynnig SaaS corfforaethol yn ogystal â pharhau i dyfu ac ehangu ei dîm o bell a’r tîm sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwyddoniaeth M-Sparc ar Ynys Môn ar yr un pryd. Bydd hyn yn creu amryw o gyfleoedd a swyddi uwch-dechnoleg yn yr ardal.
Hefyd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, mae Cufflink wedi cael cyllid grant ychwanegol gan Innovate UK – asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU. Dan arweiniad yr Athro Andrew McStay a’r Athro Vian Bakir, bydd hyn yn golygu y bydd modd parhau i ymchwilio i’r ystyriaethau moesegol ehangach sy’n berthnasol i systemau rheoli gwybodaeth bersonol.
Nid oes gan 75% o oedolion y DU bellach ffydd mewn cwmnïau o ran eu data personol. Amcangyfrifir y bydd y farchnad gwybodaeth bersonol werth $19.5 biliwn erbyn 2025, ac mae Cufflink yn ymdrechu i adfer ac ennill peth o’r ffydd hwnnw’n ôl.
Mae Ap Cufflink ar gael i’w ddefnyddio am ddim ac mae’n helpu pobl i storio ac amgryptio eu data personol yn rhwydd ac yn ddiogel ar eu dyfais. Gallwch hefyd rannu’r data personol hyn â ffrindiau a theulu neu eu rhoi dan drwydded i gwmnïau drwy gynnig SaaS corfforaethol lle mae perchennog y data yn rheoli mynediad ato. Mae’r swyddogaeth hon yn sicrhau mai’r defnyddiwr sydd bob amser yn rheoli pa ddata personol y mae’n eu rhannu ac i ba ddiben.
Ychwanegodd Billy: "Yn y gorffennol, pan oedd gan rywun eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad, roeddech yn ymddiried ynddo i’w gadw’n ddiogel ac i beidio â’i rannu. Nid felly y mae hi erbyn hyn."
"Rydym wedi colli rheolaeth dros ein gwybodaeth bersonol. Rydym yn ei rhoi i gorfforaethau mawr rhyngwladol i’w phrynu a’i gwerthu ac maen nhw’n gwybod mwy amdanom ni na’n teulu a’n ffrindiau yn y diwedd. Mae’n rhaid newid hyn."
"Rydym yn awyddus iawn i bobl ein helpu i greu Ap gwell ac rydym yn annog pobl i gofrestru ar ein rhaglen Brofi drwy ein gwefan."
Drwy lwytho Ap Cufflink i lawr, mae pobl yn gallu storio neu rannu (neu gysylltu) gymaint neu cyn lleied o’u gwybodaeth ag y maen nhw’n dymuno â’u teulu a’u ffrindiau. Mae’r wybodaeth yn cael ei diweddaru yn awtomatig iddyn nhw pan mae pethau’n newid. Mae pawb yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf a chadw mewn cysylltiad pan mae manylion cyswllt yn newid – gan gynnwys pan rydych yn symud tŷ neu’n newid swydd neu pan rydych yn diweddaru cyfrinair a rennir.
Mae gwasanaeth talu corfforaethol Cufflink yn cynnig ffordd fwy diogel, tryloyw a chywir, sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau, o reoli data eu cwsmeriaid i gwmnïau drwy ddefnyddio technolegau cyfriflyfr dosbarthedig mewn ffordd arloesol sydd dan ystyriaeth i gael patent ar hyn o bryd.
Drwy roi’r gwaith o reoli eu cysylltiadau yn ôl yn nwylo’r unigolion eu hunain, nod Cufflink yw lleihau’r gost o ran mynediad diawdurdod at ddata i bobl ac i gwmnïau fel ei gilydd.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae’n wych gweld cwmni fel Cufflink, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn llwyddo yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae’n gwmni cyffrous ac arloesol a fydd yn dod â chyfleoedd sgiliau uchel i’r ardal. Dyma’r math o greadigrwydd ac uwch-dechnoleg roeddem yn gobeithio y byddai M-Sparc yn ei ysbrydoli yn y rhanbarth ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld sut bydd y cwmni’n parhau i dyfu ac i ddatblygu yn y sector deinamig hwn.”
Dywedodd Michael Bakewell, aelod o dîm buddsoddi mewn mentrau technegol Banc Datblygu Cymru: “Mae Cufflink yn gwmni seiberddiogelwch cyffrous iawn sydd â dyfodol hynod o addawol o’i flaen. Fel partner ecwiti hirdymor, rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gyd-fuddsoddi â chwmni buddsoddi Angel ac i barhau â’n gwaith cydweithredol ag Innovate UK, Prifysgol Bangor ac M-SParc. Gyda’n gilydd, rydym yn cael effaith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Cufflink ar eu siwrnai.”
Ychwanegodd Pryderi ap Rhisiart, Prif Weithredwr M-SParc: "Mae’n wych gweld Cufflink yn cael cymorth cyhoeddus a phreifat fel rhan o’u cais llwyddiannus am gyllid. Dyma’r union fath o arloesi rydym am ei weld yn M-SParc, gan greu gyrfaoedd sgiliau uchel ac annog eraill i arloesi a mentro i fyd busnes. Mae Cwmnïau fel Cufflink yn cadarnhau bod modd tyfu a ffynnu yng Ngogledd Orllewin Cymru ac rydym yn parhau i weld cyfleoedd newydd a chyffrous yn codi yn yr ecosystem."
Derbyniodd Cufflink wobr Busnes Seiber Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020.
Gallwch lwytho Ap Cufflink i lawr drwy ymuno â’r rhaglen brofi BETA ar y wefan neu drwy ymweld â https://cufflink.io/contact-us-beta/