Polisi Datgeliadau & Chytundebau

Darllenwch y wybodaeth bwysig a ganlyn yn ofalus os gwelwch yn dda.

Datganiadau

  • Mae hyn yn nodi sut y bydd Banc Datblygu Cymru a'i gymdeithion a ddisgrifir ar y cyd fel 'BDC' yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir yn y cais hwn yn ogystal â'r awdurdodadau angenrheidiol y cyfeiriwyd atynt fel 'Rwyf,' 'Rydym', 'Fi', 'Ni', 'rydych 'chi'n' ei ddarparu i BDC.
  • Bydd gwybodaeth ddiffygiol neu gamarweiniol yn golygu bod y cais yn cael ei wrthod heb esboniad pellach.
  • Efallai y bydd BDC yn cael gwybodaeth amdanoch chi gan asiantaethau cyfeirio credyd i helpu i wneud penderfyniadau ac i reoli eich cyfrif, gan gynnwys eich perfformiad talu. Bydd yr asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth gredyd i BDC yn ogystal â gwybodaeth oddi ar y Gofrestr Etholiadol a data arall a gedwir ar eich ffeil credyd.
  • Bydd yr asiantaethau'n cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a yw'r cais hwn yn mynd rhagddo ai peidio, ac efallai y bydd cwmnïau eraill yn gweld y chwiliadau hyn sy'n gwneud eu hymholiadau credyd eu hunain amdanoch chi. Gall hyn effeithio ar eich gallu i gael credyd o leoedd eraill yn y dyfodol agos.
  • Mae arweiniad llawn ar yr hyn y mae BDC yn ei wneud a sut y bydd BDC ac asiantaethau cyfeirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio'ch gwybodaeth ar gael yn fanwl yn y ddogfen “Arweiniad am y defnydd a wneir o’ch Gwybodaeth Bersonol a Busnes”.
  • Gall BDC ddefnyddio dulliau sgorio credyd i asesu eich cais.
  • Bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio cofnodion asiantaeth cyfeirio credyd sy'n ymwneud ag unrhyw un y mae gennych gysylltiad ariannol â nhw. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd ar gyfer olrhain dyledion yn ogystal â rheolaeth barhaus unrhyw arian a ddarperir gan BDC.
  • Efallai y bydd BDC yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau cyfeirio credyd ynghylch sut rydych chi'n rheoli'ch cyfrif. Mae'r wybodaeth hon ar gael i sefydliadau eraill (gan gynnwys asiantaethau atal twyll a sefydliadau ariannol eraill) fel y gallant wneud penderfyniadau amdanoch chi, eich cydweithwyr ac aelodau o'ch cartref.
  • Gall BDC gadw unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn ein cofnodion cyfrifiadurol i reoli unrhyw gyllid a ddarperir ac fe all gael ei rannu o fewn BDC a chyda thrydydd parti i amddiffyn BDC a chwsmeriaid BDC rhag twyll.
  • Er mwyn atal neu ganfod twyll, bydd yr wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gais hon yn cael ei rannu gydag asiantaethau atal twyll. Mae'n hanfodol felly eich bod chi'n darparu gwybodaeth gywir bob amser.
  • Mae gennych hawl i gael copïau o unrhyw ddata personol a ddelir amdanoch chi gan BDC a gofyn i unrhyw anghywirdebau gael eu cywiro.
  • Mae gan BDC yr hawl i ofyn am fwy o wybodaeth os oes angen.

 

Cytundebau

Wrth lenwi'r ffurflen gais hon, rydyn ni / rydym ni'n cadarnhau'r hyn a ganlyn:

  • Rwyf / Rydym yn cyflwyno'r cais hwn am fuddsoddiad ac yn ardystio bod y wybodaeth a ddarperir yn wir ac yn gywir.
  • Rwyf / Rydym yn awdurdodi BDC i ofyn am chwiliadau gan asiantaethau cyfeirio credyd i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael am y busnes a'r ymgeiswyr sy'n gysylltiedig â'r busnes at ddibenion asesu credyd.
  • Rwyf / Rydym ni'n awdurdodi BDC i gynnal yr ymchwiliadau eraill sy'n ofynnol wrth asesu'r cais hwn, gan gynnwys cynnal dadansoddiad ystadegol i brofi ad-dalu unrhyw arian a ddarperir.
  • Rwyf / Rydym yn cydnabod y gall BDC rannu gwybodaeth amdanaf i / ni gyda thrydydd partïon fel asiantaethau cyfeirio credyd, asiantaethau atal twyll, Llywodraeth Cymru ac unrhyw drydydd partïon eraill ar gyfer asesu'r cais hwn, atal troseddau ariannol a rheoli unrhyw gyllid, neu gyllid dilynol, a ddarperir yn barhaus.
  • Rwyf i / Rydym ni'n cytuno y bydd BDC yn defnyddio'r wybodaeth a'r dogfennau ategol a ddarperir i asesu'r cais hwn ac mae penderfyniad BDC yn derfynol.
  • Rydw i / Rydym yn cadarnhau fy mod i / rydym ni wedi darllen Hysbysiad Preifatrwydd BDC ac yn cadarnhau cywirdeb y datganiadau a wnaed ynddo.
  • Rwyf i/Rydym ni yn cydnabod ac yn cytuno mai fy nghyfrifoldeb i/ein hunig gyfrifoldeb fel yr ymgeisydd yw cywirdeb gwybodaeth y prosiect, gan gynnwys yr arbedion carbon ac arbedion cost a ragwelir ar gyfer buddsoddi a geisir drwy'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd. Bydd gan BDC yr hawl i ddibynnu ar gywirdeb yr holl wybodaeth a ddarperir ac ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth i ddilysu ei gynnwys yn annibynnol ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wallau neu hepgoriadau.