Pryd bynnag y byddwch yn darparu data personol i Cymorth i Aros Cymru, neu pryd bynnag y byddwn yn casglu data personol amdanoch chi, dim ond yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn y byddwn yn ei ddefnyddio. Darllenwch hwn yn ofalus.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Cymorth i Aros Cymru (y 'Cynllun'), Cynllun sy'n cael ei reoli gan is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru, sef Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf,.
Pryd bynnag y defnyddir y termau 'BDC', 'Cymorth i Aros Cymru', 'ni', 'ninnau', neu 'ein' yn yr hysbysiad hwn, mae'n golygu mai Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf. yw'r Rheolwr Data a rheolwr Cynllun Cymorth i Aros Cymru.
Am ein rhestr lawn o ddogfennau preifatrwydd cliciwch yma.
Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethu ar ein tudalen lywodraethu.
Ein hegwyddorion preifatrwydd
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Mae hyn yn golygu:
Dim ond eich data personol sy'n ein helpu i'ch helpu chi y byddwn yn gofyn i chi ei roi inni.
Byddwn yn cadw eich data personol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch gan gynnwys amgryptio electronig, i atal mynediad heb awdurdod i'ch data personol.
Dim ond gyda chwmnïau eraill yng Ngrŵp BDC, gyda chyflenwyr sy'n cyflawni gwasanaethau ar ein rhan, ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn, y byddwn yn rhannu eich data personol.
Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol.
Pwy ydym ni
Mae'r adran hon yn rhoi enw cyfreithiol y cwmni sy'n dal eich data personol i chi - a elwir yn 'endid cyfreithiol' - ac yn dweud wrthych sut allwch gysylltu â ni.
Banc Datblygu Cymru Cyf (Development Bank of Wales Group Plc) yw cwmni daliannol Grŵp sy'n masnachu fel 'Banc Datblygu Cymru'. Mae'r Grŵp yn cynnwys nifer o is-gwmnïau sydd wedi'u cofrestru gydag enwau gan gynnwys y llythrennau cyntaf BDC.
Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf yn gwmni cyllid datblygu sy'n eiddo llwyr i Weinidogion Cymru; nid yw wedi'i awdurdodi na'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).
Mae gan Grŵp Banc Datblygu Cymru Cyf dair is-gwmni sydd wedi'u hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr AYA. Sylwch nad yw Banc Datblygu Cymru Cyf nac unrhyw un o'i is-gwmnïau yn sefydliadau bancio nac yn gweithredu fel y cyfryw. Mae hyn yn golygu nad yw'r un o endidau'r grŵp yn gallu derbyn blaendaliadau gan y cyhoedd.
Mae Cymorth i Aros Cymru yn gynllun a weinyddir gan Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf., is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru Cyf.
I grynhoi, mae Banc Datblygu Cymru yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau, a sefydlwyd trwy wahanol endidau cyfreithiol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa rai o'r rhain sydd gennych berthynas â nhw pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaeth gyda ni.
Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol
Byddwn yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi am y rhesymau canlynol:
Mewn cysylltiad â chais i'r Cynllun, ac ar gyfer rheoli cais o'r fath yn barhaus.
Oherwydd eich bod chi eisiau i ni gysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol.
Cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddiol a chyfreithiol.
I drin a datrys cwyn a allai fod gennych, os hoffech godi un.
Defnyddio eich data yn unol â Thelerau ac Amodau'r cynllun.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy gyfryngau fel post, ffôn, e-bost, negeseuon testun, neu ddulliau cyfathrebu digidol eraill, gan gynnwys drwy ddulliau eraill a allai ddod ar gael yn y dyfodol. Efallai y byddwn yn anfon cyfathrebiadau at ddibenion:
Rheolaeth barhaus o gynhyrchion benthyciadau ecwiti rydyn ni wedi'u darparu i chi.
Cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddiol.
Marchnata ein cynnyrch a'n gwasanaethau os gwnaethoch chi ddewis ymuno yn ystod eich cais.
Ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, gallwch optio allan o hyn ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen 'dad-danysgrifio' yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost marchnata.
Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â phob un o'r dibenion hyn i'w gweld isod. Mae'r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn ein polisi cwcis.
Gweler hefyd bolisi cwcis llyw.cymru.
1. Defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â'n benthyciadau ecwiti
Pam mae angen i Cymorth i Aros Cymru ddefnyddio fy nata personol?
Os byddwch yn gwneud cais i ni am fenthyciad ecwiti, bydd angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych chi'n gymwys i gael benthyciad ecwiti. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i ddefnyddio eich data personol fel rhan o'n rheolaeth barhaus o gyllid i chi.
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio data personol amdanoch chi a ddarperir gan eraill i lywio ein penderfyniadau ynghylch benthyciadau ecwiti. Er enghraifft, os oes gennych gysylltiad ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu data personol amdanoch chi'ch dau.
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data personol amdanoch chi gydag adrannau'r llywodraeth fel Cofrestrfa Tir EM; er mwyn gwirio a dilysu'r data sydd gennym gyda data a gedwir yn ganolog gan Gofrestrfa Tir EM.
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data personol amdanoch chi gyda thrydydd partïon, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac asiantaethau sy'n gweithio ar eu rhan fel Rhentu Doeth Cymru, a Chofrestrfa Tir EM er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol, a lle mae er ein buddiannau cyfreithlon i wneud hynny (er enghraifft, er mwyn atal twyll neu gamymddygiad ariannol, neu i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r cynllun).
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Cymorth i Aros Cymru?
Bydd yr union wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi'i nodi ar y ffurflen gais ei hun. Bydd yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol.
Os byddwn yn penderfynu cynnig benthyciad ecwiti, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen monitro amrywiaeth. Dim ond i'n helpu i fonitro a ydym yn cyflawni cydraddoldeb cyfle gwirioneddol wrth ddarparu ein gwasanaethau y bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio. Ni chaiff ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi.
Beth mae Cymorth i Aros Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?
Pan fyddwch chi'n darparu eich data personol i ni, neu os caiff ei ddarparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn ni'n ei ddefnyddio er mwyn asesu'r cais ac i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid darparu'r benthyciad ecwiti ai peidio. Yna byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r benthyciad ecwiti ac i hwyluso eich trafodiad eiddo. Gall ein defnydd o'ch data personol gynnwys:
Gwneud chwiliadau amdanoch chi mewn asiantaethau cyfeirio credyd. Bydd yr asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth credyd i ni yn ogystal â gwybodaeth o'r gofrestr etholiadol a byddant yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a yw eich cais yn mynd rhagddo ai peidio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae asiantaethau cyfeirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio eich gwybodaeth drwy ddarllen yr Hysbysiad Gwybodaeth Asiantaethau Cyfeirio Credyd (“CRAIN”). Mae'r ddogfen hon yn disgrifio sut mae'r tair prif asiantaeth cyfeirio credyd yn defnyddio ac yn rhannu data personol. Mynediad i'r CRAIN.
Cael eich eiddo wedi'i brisio'n annibynnol gan syrfëwr penodedig gan RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig). Os byddwch yn symud ymlaen i'r cam hwn o'r cynllun, byddwn yn rhannu eich manylion gyda'r syrfëwr er mwyn iddynt gysylltu â chi.
Rhannu eich data gyda chyfreithwyr er mwyn cyflawni ffurfioldebau cyfreithiol mewn cysylltiad â'ch cais am fenthyciad ecwiti.
Rhannu eich data gyda Chofrestrfa Tir EM er mwyn dilysu data eiddo a gedwir gennym ni gyda data eiddo a gynhelir gan Gofrestrfa Tir EM.
Rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau a gyflogir ar eu rhan, a all gysylltu â chi at ddibenion ymchwil. Mae'r dibenion hyn yn cynnwys cynnal adolygiadau o gynlluniau, cael adborth gan gwsmeriaid ac ymgeiswyr, dadansoddi meysydd i'w gwella, a chynnal ymchwil ac arolygon ystadegol sy'n ymwneud â'r cynllun. Rhoddir cyfle i chi optio allan o'r rhain. Gall Cymorth i Aros Cymru rannu'r data hwn yn gyfrinachol ag adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol, ac asiantaethau sy'n gweithio ar ran Cymorth i Aros Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rhannu eich data gyda chynghorwyr morgeisi annibynnol i asesu eich addasrwydd ar gyfer y cynllun.
Rhannu eich data gydag asiantau olrhain er mwyn casglu ôl-ddyledion, rhag ofn y byddwch yn mynd i ôl-ddyledion gyda'ch ad-daliadau ar eich benthyciad ecwiti i ni.
Defnyddio eich data er mwyn trin a datrys cwyn a allai fod gennych, os hoffech godi un, gan gynnwys rhannu'r wybodaeth honno gydag Ombwdsmon, Gwasanaeth Datrys Anghydfodau, neu Awdurdod Rheoleiddio.
Defnyddio eich data yn unol â Thelerau ac Amodau'r Cynllun.
Fel rhan o'r gweithgareddau a restrir uchod, efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda'ch cyfrifwyr, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru.
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni ynghylch gofynion ar gyfer cymorth neu addasiadau ychwanegol, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ychwanegu nodiadau at eich cofnodion am unrhyw gymorth neu addasiadau sydd eu hangen arnoch (er enghraifft gan ddefnyddio print bras pan fyddwn yn cyfathrebu â chi) er mwyn sicrhau ei bod hi'n haws i chi ryngweithio â ni.
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol inni am eich amgylchiadau personol, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ychwanegu nodiadau at eich cofnodion am eich amgylchiadau personol i'n helpu i reoli eich sefyllfa unigol yn well.
Os byddwch yn rhoi unrhyw ddata categori arbennig i ni mewn perthynas ag unrhyw gymorth neu addasiadau sydd eu hangen arnoch, byddwn yn prosesu hyn at ddibenion darparu cymorth ac addasiadau ychwanegol i chi yn unig, ac ar gyfer darparu mesurau diogelwch i ymgeiswyr agored i niwed.
Ble fydd fy nata yn cael ei brosesu?
Bydd eich data personol yn cael ei brosesu o fewn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o'ch data y tu allan i'r DU/AEE yn destun mesurau diogelwch sy'n amddiffyn eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am fenthyciad ecwiti gyda ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Perfformiad Contract
Mae eich cais yn gais i ni ymrwymo i gontract gyda chi. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle mae'n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cyflawni camau cyn-gontract, i ymrwymo i gontract gyda chi, ac ar gyfer cyflawni contract sydd gennym ar waith.
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym yn ddarostyngedig i amryw o rwymedigaethau cyfreithiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciad ecwiti, gan gynnwys deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Buddiannau Cyfreithlon
Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu gorbwyso gan eich buddiannau eich hun.
Lle rydych chi wedi gwneud cais am fenthyciad ecwiti gyda ni, neu os ydych chi'n gwsmer presennol, rydym yn prosesu eich data personol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon, er mwyn:
Cynnal gwiriadau priodol ar gwsmeriaid posibl
Sicrhau ad-daliad benthyciadau ecwiti i ni
Asesu cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau ac amodau'r cynllun
Rheoli datblygiad eich eiddo a'ch trafodiad eiddo
Cynnal dilysu priodol o ddata eiddo sy’n cael ei gadw gennym ni (sydd wedi'i ddarparu gennych chi) gyda data eiddo sy’n cael ei gadw gan Gofrestrfa Tir EM.
Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli, gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau ac unioni effeithiau negyddol ar gwsmeriaid.
Ystyried anghenion lles cwsmeriaid, gan gynnwys darparu unrhyw addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad y mae angen iddynt eu rhoi ar waith.
Atal ac ymchwilio i dwyll, gwyngalchu arian a chamymddygiad ariannol arall.
I ddatblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon ac ymchwil cwsmeriaid.
Cael adborth gan gwsmeriaid am ein cynnyrch a'n gwasanaethau
Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.
Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o ddata personol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd oni bai bod y gyfraith yn caniatáu inni wneud hynny. Os gwnawn hynny, dim ond o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol y bydd:
Am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd; neu
Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu
I sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Am ba hyd mae Cymorth i Aros Cymru yn cadw fy nata personol?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o 6 blynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.
Os yw eich cais yn aflwyddiannus neu'n cael ei dynnu'n ôl, byddwn yn cadw ac yn dinistrio eich data personol yn unol â'n hamserlen cadw data.
Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach lle bo angen hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol, i gydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r gronfa neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hirach na'r hyn a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Cymorth i Aros Cymru?
Er mwyn i ni ystyried eich cais, rhaid i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Os na fyddwch yn darparu'r holl fanylion yr ydym yn gofyn amdanynt yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn gallu asesu eich cais, a gallai arwain at na fyddwch yn gallu cael mynediad at ein benthyciad ecwiti.
2. Defnyddio eich data personol i ymateb i'ch ymholiad
Pam mae angen i Cymorth i Aros Cymru ddefnyddio fy nata personol?
Os byddwch yn cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am fenthyciad ecwiti, neu i wneud ymholiad cyffredinol, bydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn ymateb i chi.
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Cymorth i Aros Cymru?
Bydd hynny'n dibynnu ar natur eich ymholiad. Mae'r 'tudalen cysylltu â ni' ar ein gwefan yn nodi'r wybodaeth leiaf y bydd ei hangen arnom amdanoch chi er mwyn ymateb i'ch ymholiad. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy anfon eich ymholiad i'r cyfeiriad e-bost canlynol: Ceisiadau@cymorthiaros.cymru
Beth mae Cymorth i Aros Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ymateb i'ch ymholiad.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais am fenthyciad ecwiti gyda ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gydag ymholiad, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Perfformiad Contract
Os yw eich ymholiad yn gysylltiedig â chais neu gontract sydd gennym gyda chi, caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle mae'n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cyflawni camau cyn-gontract, i ymrwymo i gontract gyda chi, ac ar gyfer cyflawni contract sydd gennym ar waith.
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym yn ddarostyngedig i amryw o rwymedigaethau cyfreithiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciad ecwiti, gan gynnwys deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Buddiannau Cyfreithlon
Caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu gorbwyso gan eich buddiannau eich hun.
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gydag ymholiad, rydym yn prosesu eich data personol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon, er mwyn:
Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli, gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau ac unioni effeithiau negyddol ar gwsmeriaid.
Ystyried anghenion lles cwsmeriaid, gan gynnwys darparu unrhyw addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad y mae angen iddynt eu rhoi ar waith.
Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
Cael adborth gan gwsmeriaid am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.
Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o ddata personol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd oni bai bod y gyfraith yn caniatáu inni wneud hynny. Os gwnawn hynny, dim ond o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol y bydd:
Am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd; neu
Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu
I sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Am ba hyd mae Cymorth i Aros Cymru yn cadw fy nata personol?
Byddwn yn cadw eich data personol am yr amser y mae'n ei gymryd i ddelio â'ch ymholiad. Gall hyn gynnwys unrhyw ohebiaeth sydd gennych â ni drwy e-bost neu drwy'r ffurflen 'Cysylltwch â Ni' ar ein gwefan.
Fel arfer, byddwn yn dileu eich data personol ar ôl 24 mis.
Os bydd angen i ni gadw eich data personol am gyfnod hirach nag a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Cymorth i Aros Cymru?
Er mwyn i ni ymateb i'ch ymholiad, rhaid i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Os na fyddwch yn darparu'r holl fanylion yr ydym yn gofyn amdanynt yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn gallu ymateb i'ch ymholiad na'i ddatrys.
3. Defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â chynhyrchion neu wasanaethau rydych chi'n eu darparu i ni
Pam mae angen i Cymorth i Aros Cymru ddefnyddio fy nata personol?
Os ydych chi'n darparu cynhyrchion neu wasanaethau i Cymorth i Aros Cymru, bydd angen i chi roi gwybodaeth amdanoch chi i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych chi'n berson neu'n endid cywir i ddarparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth gofynnol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r cynnyrch neu'r gwasanaeth a ddarparwch.
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Cymorth i Aros Cymru?
Mae angen gwybodaeth arnom fel eich enw llawn, cyfeiriad, a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Beth mae Cymorth i Aros Cymru yn ei wneud gyda fy nata personol?
Pan fyddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth i ni, byddwn ni'n ei defnyddio er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth. Yna byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i reoli ein perthynas barhaus tra byddwch chi'n darparu'r gwasanaeth a byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth honno gyda thrydydd partïon yn ôl yr angen.
Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gellir prosesu eich data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o'ch data y tu allan i'r AEE yn destun mesurau diogelwch sy'n amddiffyn eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata personol?
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch chi'n gwneud cais i ddarparu gwasanaeth i ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Pan fyddwch chi'n gwneud cais i ddarparu gwasanaeth i ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Perfformiad Contract
Pan fyddwch chi'n darparu gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu i ni, mae gennym ni ganiatâd i ddefnyddio eich data personol lle mae'n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cyflawni camau cyn-gontract, i ymrwymo i gontract gyda chi, ac ar gyfer cyflawni contract sydd gennym ni ar waith.
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym yn ddarostyngedig i amryw o rwymedigaethau cyfreithiol pryd bynnag y byddwn yn caffael gwasanaethau neu nwyddau gan gynnwys rheoliadau caffael, rheoliadau contractau cyhoeddus a deddfwriaeth diogelu data.
Buddiannau Cyfreithlon
Caniateir inni ddefnyddio eich data personol lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu gorbwyso gan eich buddiannau eich hun.
Pan fyddwch chi'n darparu gwasanaeth i ni, rydym yn prosesu eich data personol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon, er mwyn:
Cynnal gwiriadau ar ddarpar ddarparwyr gwasanaethau a chyflenwyr.
Ymchwilio i ymholiadau a chwynion a'u rheoli, gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau ac unioni effeithiau negyddol ar gwsmeriaid.
Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
Rhoi adborth i'n cyflenwyr am eu cynhyrchion a'u gwasanaethau.
Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.
Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o ddata personol fel rhai sy'n arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu na defnyddio'r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd oni bai bod y gyfraith yn caniatáu inni wneud hynny. Os gwnawn hynny, dim ond o dan un o'r seiliau cyfreithiol canlynol y bydd:
Am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd; neu
Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu
I sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Am ba hyd mae Cymorth i Aros Cymru yn cadw fy nata personol?
Byddwn yn cadw eich data personol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o 6 blynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.
Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach lle bo angen hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hirach na'r hyn a nodwyd, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata personol i Cymorth i Aros Cymru?
Nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, os na fyddwch yn darparu'r manylion yr ydym yn gofyn amdanynt, ni fyddwn yn gallu defnyddio eich gwasanaethau.
Eich hawliau diogelu data
Bydd y data personol a roddwch i ni yn cael ei gadw yn unol â'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae'r cyfreithiau hyn yn cynnwys hawliau penodol i chi, gan gynnwys:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol (gelwir hyn hefyd yn gais mynediad gan bwnc).
Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata rydych chi'n credu sy'n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau data rydych chi'n credu sy'n anghyflawn.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu ein prosesu o’ch data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan rai amodau.
Yr hawl i gwyno i'r rheoleiddiwr - Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych chi'n anfodlon â sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk.
Eich hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd – Mae gennych hawliau i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd os yw'r penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol neu faterion eraill sydd yr un mor bwysig. Mae gennych hefyd hawliau i ddeall y rhesymau y tu ôl i benderfyniadau a wneir amdanoch chi trwy wneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio.
Eich hawliau a sut i gysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich data personol, neu os hoffech arfer eich hawliau diogelu data, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data.
Ymholiadau diogelu data a cheisiadau am hawliau
Am ymholiadau cyffredinol am eich data personol, neu i arfer eich hawliau (gan gynnwys ceisiadau mynediad), cysylltwch â ni yn:
E-bost: sdd@bancdatblygu.cymru
Gallwch gysylltu â ni er mwyn:
Gofyn am fynediad at eich data personol (cais mynediad gan bwnc).
Gofyn i ni gywiro neu ddiweddaru eich data personol.
Gofyn am ddileu neu gyfyngu ar brosesu.
Gwrthwynebu sut rydym yn defnyddio eich data.
Gofyn sut mae eich data personol yn cael ei drin.
Byddwn yn ymateb yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol.
Gwneud cwyn
Os ydych chi'n anfodlon â sut rydym ni wedi trin eich data personol, mae gennych chi'r hawl i wneud cwyn.
Cysylltwch â'n Tîm Cwynion
Ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel a chymryd cwynion o ddifrif. Gallwch godi cwyn gyda ni yn:
E-bost: cr@cymorthiaros.cymru
Byddwn yn cydnabod eich cwyn yn brydlon ac yn ymchwilio iddi'n deg ac yn ddiduedd. Lle bo'n briodol, bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu ar y cyd â'n Swyddog Diogelu Data.
Cysylltu â'r rheoleiddiwr
Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i reoleiddiwr diogelu data’r DU ar unrhyw adeg:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Gwefan: www.ico.org.uk
Ffôn: 0303 123 1113
Nid oes angen i chi godi eich cwyn gyda ni cyn cysylltu â'r ICO.
Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.
Diweddarwyd Diwethaf: Mehefin 2026