Rheolwr Cynaliadwyedd

Rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Cynaliadwyedd yng Nghaerdydd

Pwrpas y swydd

Rydyn ni’n fanc datblygu sy’n rhoi potensial Cymru wrth galon ein penderfyniadau. Rydyn ni’n ariannu busnesau sydd am wneud cyfraniad ariannol, cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol at ein cymunedau a’r byd ehangach. Mynd ati bob dydd i sbarduno posibiliadau a gwireddu dyheadau.

Bydd y rheolwr cynaliadwyedd yn arwain y gwaith o wreiddio ymrwymiad y Banc Datblygu i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol. Byddwch chi’n datblygu polisïau a strategaethau i gynyddu ein hygrededd a’n dylanwad, gan wneud yn siŵr ein bod yn arwain drwy esiampl yn ein gweithrediadau ac yn helpu cwsmeriaid i fynd i’r afael â chynaliadwyedd yn eu gwaith eu hunain, gan gynyddu effaith ein gweithgareddau buddsoddi.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Datblygu strategaeth cynaliadwyedd ar gyfer y grŵp cyfan, sy’n cyd-fynd â chynllun corfforaethol 2022 – 27
  • Bod yn ysgrifenyddiaeth i’r grŵp rheoli cynaliadwyedd er mwyn rheoli cynaliadwyedd a phrosiectau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yn effeithiol
  • Gweithio’n agos gydag adrannau mewnol (buddsoddiadau, caffael, cyfleusterau, cyfathrebu) i gynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd mewn polisïau a phenderfyniadau
  • Sicrhau bod data ynghylch datgeliadau/adroddiadau allyriadau yn cael ei gasglu’n effeithiol
  • Rheoli dulliau casglu data a’r broses o gyflwyno data ar gyfer ein fframwaith buddsoddiadau effaith
  • Dadansoddi a llunio adroddiadau a gwybodaeth ar sail data
  • Datblygu a rheoli rhaglen hyfforddiant, addysg ac ymgysylltu amgylcheddol ar gyfer cydweithwyr
  • Cynrychioli’r Grŵp yn allanol mewn cyfarfodydd a chyfleoedd i siarad am gynaliadwyedd a materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu
  • Cyfrannu cynnwys ar gyfer arwain agweddau er mwyn dylanwadu ar gwsmeriaid   
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu mewn trafodaethau â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys buddsoddwyr
  • Gweithio’n agos gyda’r timau portffolio a buddsoddi i ddarparu dadansoddiad a chefnogaeth ar gynnwys cynaliadwyedd/materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu mewn penderfyniadau buddsoddi a’r cymorth a roddir i gwmnïau portffolio. Gwneud argymhellion ymarferol ar sut i ymgysylltu ymhellach â’n portffolio o gwsmeriaid a hyrwyddo’r manteision ymysg cydweithwyr sy’n delio â chwsmeriaid
  • Darparu cymorth technegol ar wasanaethau neu gronfeydd sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd
  • Cyflawni rôl sylwedydd yn ein pwyllgor buddsoddi pan fydd angen, a chynorthwyo a herio aelodau o’r pwyllgor buddsoddi ynghylch ystyriaethau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu
  • Cyd-drefnu gweithgarwch sy’n ymwneud â chyrraedd safonau yng nghyswllt cynaliadwyedd a materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu
  • Cyfrifoldeb rheolwr llinell, gan roi hyfforddiant ac arweiniad pan fydd angen
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu er mwyn bodloni anghenion gweithredol y sefydliad.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol 

  • Cefndir cryf ym maes cynaliadwyedd a’i ddefnyddio’n ymarferol gyda busnesau bach a chanolig
  • Gwybodaeth am safonau, cyrff a pholisïau cyhoeddus cyfredol a newydd sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a datgelu
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn, gallu dylanwadu ar eraill a’u cymell
  • Sgiliau meddwl a dadansoddi’n feirniadol, a’r gallu i ddatblygu strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Siaradwr hyderus mewn digwyddiadau cyhoeddus  
  • Gallu cymell eich hun a dangos blaengaredd, a gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith o dan bwysau

Dymunol 

  • Profiad o weithio i neu gyda chwmni gwasanaethau ariannol sy’n darparu cymorth ar gyfer integreiddio cynaliadwyedd mewn strategaeth fuddsoddi a/neu godi arian  
  • Gwybodaeth am Grŵp Banc Datblygu Cymru
  • Siaradwr Cymraeg

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru