Rheolwr gweithrediadau TGCh

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio rheolwr gweithrediadau TGCh a fydd yn seiliedig yn Nghaerdydd. 

Pwrpas y swydd

Bydd y Rheolwr Gweithrediadau TGCh yn gweithredu fel Dirprwy i'r Cyfarwyddwr TGCh, gan gyfrannu at ddatblygu a chyflawni'r Strategaeth TGCh gyffredinol. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb penodol am reoli, monitro ac adrodd ar berfformiad a chyflawni elfennau seilwaith a chymhwyso portffolio gwasanaeth TGCh y Banc Datblygu.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys rheoli llinell y timau seilwaith a chymhwyso a chydweithio â chydweithwyr yn yr adran TGCh a'r sefydliad ehangach i nodi, dylunio a gweithredu gwasanaethau TGCh. Bydd datblygu perthnasoedd effeithiol gyda staff a chyflenwyr yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y rôl, ynghyd â'r gallu i sicrhau cydymffurfiad parhaus â llywodraethu, rheoli prosiectau a safonau ansawdd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

 

  • Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr TGCh a'r tîm TGCh ehangach ar fanyleb, dyluniad, datblygiad a gweithrediad y strategaeth TGCh i gefnogi nodau ac amcanion y busnes.
  • Rheoli tîm o arbenigwyr TGCh technegol, gan sicrhau cydymffurfiad parhaus â methodolegau rheoli prosiect trwyadl.
  • Perchnogaeth cynhyrchu gwybodaeth reoli i adrodd ar berfformiad adrannol yn erbyn CLG a DPA y cytunwyd arnynt.
  • Nodi, rheoli, lliniaru ac adrodd ar risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio gwasanaethau TGCh y busnes drwyddo draw.
  • Sicrhau bod dogfennaeth a chydymffurfiad trwyddedu'r portffolio gwasanaeth TGCh yn cael ei gynnal.
  • Cydweithio â'r tîm TGCh a busnes ehangach i gytuno ar ddylunio a gweithredu rhaglen gyfannol o weithgareddau gwella parhaus TGCh.
  • Rheoli a datblygu perthnasoedd â chyflenwyr Banc Datblygu, gan sicrhau'r enillion gorau ar fuddsoddiad a pherfformiad cyflenwyr.
  • Yn gallu darparu tystiolaeth o reolaeth ariannol gadarn ac adroddiadau ar wariant TGCh.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Cyfarwyddwr TGCh i ddiwallu anghenion gweithredol y Busnes.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Arweinydd / rheolwr profedig timau TGCh amlddisgyblaethol sydd â phrofiad o reoli gwasanaethau TGCh mewnol ac allanol mewn swydd uwch reoli
  • Sgiliau cyfathrebu llafar a dylanwadu rhyngbersonol rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon uchel iawn ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Dealltwriaeth gadarn o fframweithiau Rheoli Gwasanaeth ITIL a rheoli prosiect, ac yn meddu ar y cymwysterau achrededig cyfatebol
  • Gallu profedig i ddarparu prosiectau TGCh cymhleth ar amser ac yn unol â chostau ac yn meddu ar gymwysterau Rheoli Prosiectau achrededig
  • Profiad o ddylunio, caffael a rheoli contractau gwasanaeth TGCh ar gontract allanol
  • Profiad o hyfforddi a mentora aelodau'r tîm
  • Dealltwriaeth gadarn a phrofiad o brosesau rheoli newid
  • Profiad technegol amlwg, gydag achrediadau technegol perthnasol cyfatebol
  • Datrysydd problemau gyda'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd neu faterion, cipio cyflyrau cyfredol, nodi gofynion yn y dyfodol a darparu atebion ymarferol o ansawdd uchel
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau ac ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau tasgau i safon uchel gyda llwyddiant mesuradwy
  • Ymagwedd hyblyg tuag at oriau gwaith

Dymunol 

  • Addysg lefel gradd
  • Profiad o fframweithiau a phrosesau caffael y Llywodraeth
  • Profiad o gwmnïau a phrosesau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol
  • Profiad gyda mentrau Trawsnewid Digidol

Gweler strwythur y tîm TGCh yma.

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru

Dyddiad cau

24 Mehefin 2020