Rheolwr Swyddfa

Rydyn ni eisiau recriwtio Rheolwr Swyddfa i weithio o'n swyddfa yn Wrecsam.

 

Pwrpas y swydd

Darparu gwasanaethau rheoli a gweinyddu cyfleusterau ar gyfer Banc Datblygu Cymru ar draws y Grŵp ac fel arweinydd ar gyfer swyddfa Wrecsam. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys rheoli contractwyr, iechyd a diogelwch, diogelwch, cyllidebau a rheoli costau yn ogystal â dyletswyddau rheoli cyfleusterau cyffredinol.

Bydd gofyn i ddeilydd y swydd hefyd ddarparu gwasanaethau derbynfa a switsfwrdd ar safle Wrecsam.


 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

  • Sicrhau bod y swyddfeydd yn rhedeg yn effeithlon o ddydd i ddydd
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid blaen tŷ o ansawdd uchel 
  • Datblygu a chynnal perthynas waith gadarnhaol gyda phob adran, gan nodi a diwallu anghenion cwsmeriaid
  • Cefnogi'r gwaith o weinyddu prydlesi swyddfeydd ar draws y Grŵp
  • Rheoli'r berthynas o ddydd i ddydd gyda landlordiaid yn Wrecsam a safleoedd eraill fel bo'r angen. Gweithio gyda'u timau ar bob agwedd ar reoli cyfleusterau a'r amgylchedd gwaith
  • Rheoli contractau cyflenwyr gan gynnwys rheoli cyllideb a pherfformiad yn erbyn 
  • Cytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG)
  • Rheoli cyfleusterau storio oddi ar y safle
  • Rheoli cyfarpar ac adnoddau swyddfa
  • Prynu o ddydd i ddydd a rheoli cyllidebau
  • Unrhyw dasg arall y gellir ei diffinio gan y Rheolwr Gwasanaethau Canolog i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran


 

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Y gallu i adnabod a diwallu anghenion cwsmeriaid yn effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol cryf
  • Y gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd neu faterion ac adnabod atebion ymarferol, o safon uchel
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau ac yn meddu ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau tasgau hyd safon uchel gyda llwyddiant mesuradwy
  • Profiad o reoli costau
  • Profiad o reoli cyfleusterau neu swyddfa
  • Llygad graff am fanylion
  • Yn hyrwyddo diwylliant tîm cryf yn weithredol
  • Y gallu i siarad Cymraeg
     

Dymunol

  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur

Gofynion eraill

  • Bod ag ymagwedd hyblyg tuag at oriau gwaith
  • Trwydded yrru
  • Sgiliau TG gan gynnwys y gallu i ddefnyddio Word, Excel, PowerPoint, Visio, Project, Lotus Notes