Sioe Frenhinol Cymru - Cwrdd â'r Arbenigwyr

Fe fyddwn ni yn Sioe Frenhinol Cymru eto eleni! Os ydych chi yn y sioe, dewch draw i ddweud helo. Bydd gennym staff buddsoddi wrth law drwy'r wythnos i siarad am ynghylch sut y gallwn helpu eich busnes i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae gennym arian ar gael i helpu amrywiaeth o sectorau gan gynnwys; ffermio, twristiaeth, manwerthu a bwyd a diod.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau panel Cwrdd â'r Arbenigwr tra fyddwn ni yno. Cewch glywed gan arbenigwyr yn y busnes a'r gymuned ariannol am gefnogaeth i'ch cwmni. Bydd Ffederasiwn y Busnesau Bach, Busnes Cymru a Thîm Twristiaeth Llywodraeth Cymru yn ymuno â ni. Cofrestrwch i gael sesiwn am ddim ar Eventbrite.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddog Noddi a DigwyddiadauLouise Butler

 

Pwy sy'n dod