Swyddog buddsoddi cynorthwyol

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog buddsoddi cynorthwyol a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd.

Pwrpas y swydd

Mae'r Tîm micro yn gyfrifol am fuddsoddi arian o £1,000- £50,000 i fusnesau maint micro ar hyd a lled Cymru. Ei fandad yw targedu busnes newydd yn unig, sydd wedyn yn cael ei basio i un o'r swyddogion portffolio i'w reoli. Mae cyrchu, gwerthuso a chwblhau ystod eang o drafodion, o £1,000 i £50,000, yn hanfodol i'w weithrediad ac i amcanion ehangach grŵp BDC.

Yn bennaf, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni'r benthyciadau wedi'u symleiddio (benthyciadau o £1k- £10k i fusnesau sy'n bodoli eisoes) sy'n gyflawniad allweddol i'r tîm Micro gan ei fod yn helpu i gyflawni cyfaint ein bargeinion yn y gronfa ac mae'n cefnogi cyllid dilynol yn y dyfodol hefyd.

Byddant hefyd yn gyfrifol am gefnogi Swyddogion Buddsoddi ar ôl sancsiwn i symud trafodion at y cam tynnu arian i lawr a bydd hynny’n cynnwys adolygu rhag-amodau a dadansoddi dogfennau'r cwsmer i sicrhau bod y wybodaeth gywir yn ei lle i dynnu arian i lawr.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi Swyddogion Buddsoddi, pan fo angen, gyda llif parhaus bargeinion trwy ddadansoddi ceisiadau, ysgrifennu papurau sancsiwn a chysylltu â chwsmeriaid trwy gydol y broses.

Bydd angen i ddeilydd y swydd adeiladu perthynas waith agos yn fewnol a chyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaeth i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a'u gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i ddarpar gleientiaid. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o ofynion a blaenoriaethau cwsmeriaid yn allweddol wrth sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chwrdd â meini prawf buddsoddi Banc Datblygu Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn meddu ar allu datblygedig i ddatrys problemau rhyngbersonol a datblygedig. Mae sgiliau technegol bancio, sylw i fanylion a dull rhagweithiol, ymarferol hefyd yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd ddatblygu i fod yn Swyddog Buddsoddi llawn ymhen mwyafswm o 2 flynedd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

• Cyfrannu at darged ariannol y tîm Micro, gan chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid amserol a rhagorol.

• Nodi cyfleoedd ar gyfer ariannu, cynnal dadansoddiadau ariannol a gwneud penderfyniadau masnachol cadarn trwy gyfrwng adroddiadau sancsiwn wedi'i symleiddio ar gyfer y rheolwr llinell / rheolwr y gronfa.

• Gweithio gyda Swyddogion Buddsoddi yn y Tîm Micro i gynorthwyo gyda'r asesiad o ymdrin â bargeinion £1k- £50k (lle bo angen) a gweithio gyda chwsmeriaid i gwblhau diwydrwydd dyladwy a'r gwaith papur angenrheidiol i gwblhau pob buddsoddiad. Bydd hyn yn cynnwys cynnal diwydrwydd dyladwy trylwyr a chadarn, ariannol a masnachol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi.

• Paratoi a phrosesu adroddiadau Micro sancsiwn wedi'u symleiddio.

• Datblygu dros amser a bod yn rhan o, drafod telerau masnachol a throsi'r rhain i gyfarwyddiadau cyfreithiol.

• Cymryd cyfrifoldeb dros gwblhau bargeinion gan sicrhau bod safonau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cyflawni wrth weithredu'n fasnachol gan gefnogi'r cwsmer trwy sefyllfaoedd anodd gan sicrhau bod partïon priodol yn cael adborth amserol ac wrth lofnodi'r holl rag-amodau.

• Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb personol a bod yn barod i gael sgwrs anodd gyda chleientiaid.

• Cysylltu â'r timau o fewn y sefydliad ehangach, gan ymdrin ag agweddau cyfreithiol / diogelwch, a chymryd cyfrifoldeb amdanynt.

• Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau mewn gweithgarwch buddsoddi.

• Cymryd rhan a lle bo hynny'n briodol, cynrychioli buddsoddiadau Banc Datblygu mewn cyfarfodydd, seminarau, digwyddiadau a gweithgareddau ar y cyd.

• Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo'r Banc Datblygu.

• Datblygu a gwella enw da'r Banc Datblygu fel darparwr buddsoddi proffesiynol

• Unrhyw dasg a all gael ei diffinio gan Reolwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, Sgiliau, Gallu a Phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan gymhelliant gyda'r gallu i gymryd ymagwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith sy'n hanfodol o ran amser i gleientiaid.
  • Dealltwriaeth o wybodaeth a dadansoddi ariannol
  • Yn meddu ar y gallu ganolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Chwaraewr tîm cryf
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd â thargedau. Yn meddu ar yr awydd a'r agwedd benderfynol i gwblhau gwaith hyd safon uchel yn gyson.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Profiad blaenorol o baratoi adroddiadau credyd a dadansoddi ariannol
  • Peth dealltwriaeth o brosesau asesu risg a buddsoddi
  • Y gallu i wneud penderfyniadau'n hyderus
  • Yn meddu ar y gallu i asesu cynigion buddsoddi a chynnal diwydrwydd dyladwy.
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol.
  • Yn llythrennog mewn TG / PC gyda'r gallu i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
  • Ymrwymedig tuag at ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd.

Dymunol

  • Profiad o fuddsoddi / rhoi benthyg arian i BBaChau
  • Dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus mewn cyllid BBaCh
  • Dealltwriaeth o amgylchedd busnes rhanbarthol
  • Siaradwr Cymraeg
  • Trwydded yrru
  • Sgiliau TG gan gynnwys y defnydd o Word, Excel a Powerpoint

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais