Rydym am recriwtio swyddog cyfryngau cymdeithasol i weithio o Wrecsam, Llanelli neu Gaerdydd. Cyflog rhwng £26,000 a £28,000.
Pwrpas y swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, uchel ei gymhelliant, sydd â dawn i droi eu llaw at bopeth sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, i gymryd perchnogaeth dros a llywio ein gweithgarwch a’n cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch adrodd straeon, creu copi cyfareddol, a chwarae eich rhan i gefnogi busnesau ledled Cymru, dyma’r lle iawn i chi.
Gan adrodd i'n Rheolwr Cyfathrebu Digidol, byddwch yn ymuno â thîm marchnata prysur – byddwch yn cefnogi’r strategaeth cyfryngau cymdeithasol a'r cynllun marchnata cyffredinol.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Ysgrifennu postiadau cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau bod holl gynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog ac yn gywir.
- Datblygu cynnwys deniadol, creadigol ac arloesol ac ymgyrchoedd ar gyfer postiadau a drefnir yn rheolaidd ar draws ystod o sianeli a brandiau cyfryngau cymdeithasol.
- Darparu postiadau cyfryngau cymdeithasol byw o ddigwyddiadau’r cwmni.
- Cefnogi'r Rheolwr Cyfathrebu Digidol a'r strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
- Cymryd cyfrifoldeb dros berchnogaeth a diweddaru'r cynllun cynnwys cyfryngau cymdeithasol a'r calendr.
- Goruchwylio rheolaeth cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cwmni.
- Dod yn eiriolwr i'r cwmni mewn gofodau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rheoli a gwasanaethu cymunedol.
- Cefnogi hyfforddiant mewn adrannau eraill ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
- Cydlynu negeseuon cyfryngau cymdeithasol ag adrannau eraill, rheolwyr cronfeydd, a nodau cwmni chwarterol neu dymhorol.
- Cefnogi'r Rheolwr Cyfathrebu Digidol i ddadansoddi perfformiad cyfryngau cymdeithasol gyda systemau olrhain i gasglu data ymwelwyr i ddatblygu ymgysylltiad â phostiadau cymdeithasol.
- Perfformio’r dasg o wrando’n gymdeithasol er mwyn casglu mewnwelediad perthnasol i gystadleuwyr a dylanwadwyr.
Cefnogi Mewnrwyd a gwefan y cwmni
- Cefnogi’r tîm marchnata, uwchlwytho cynnwys ar fewnrwyd a gwefan y cwmni.
Marchnata ad hoc
- Codi unrhyw archebion prynu ar gyfer gweithgaredd digidol.
- Ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Cyfathrebu Digidol i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran
Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad
Hanfodol
- Sgiliau gwrando, cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Profiad o ysgrifennu cynnwys ar-lein
- Rhugl a hyderus yn y Gymraeg
- O leiaf 1 mlynedd o brofiad mewn rôl marchnata cyfryngau cymdeithasol
- Angerdd amlwg dros bopeth cymdeithasol gydag ymwybyddiaeth dda o'r dirwedd cyfryngau cymdeithasol cyfredol.
- Profiad o weithio gyda llwyfannau cyfryngau cymdeithasol niferus
- Profiad o gyfryngau gymdeithasol fel rhan integredig o'r cymysgedd marchnata a chyfryngau llawn
- Gwybodaeth a phrofiad o ddadansoddeg cyfryngau cymdeithasol, offer gwrando ac adrodd - gyda'r gallu i ddadansoddi.
- Gwybodaeth a phrofiad o ddatblygu gwahanol fathau o gynnwys cymdeithasol e.e. fideos, blogiau, ffeithluniau, ac ati
- Dealltwriaeth gadarn o olrhain cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgyrchoedd a phostiadau
- Sgiliau trefnu a blaenoriaethu cryf a llygad graff am fanylion.
- Sgiliau datrys problemau, dylanwadu a thrafod cryf.
- Dealltwriaeth gref o LinkedIn, Trydar / Twitter, Facebook ac Instagram
- Dycnwch ac egni personol i gyflawni amcanion gyda chanlyniadau o ansawdd uchel.
Dymunol
- Gwybodaeth ganolradd o offer dadansoddeg gwe ac offer dadansoddi gwe (olrhain, cwcis, ac ati )
- Profiad yn y sector ariannol (yn enwedig ym maes cyfryngau cymdeithasol)
- Profiad o greu cynnwys ar gyfer Instagram
- Sgiliau dylunio Photoshop
- Dealltwriaeth dda o rôl Banc Datblygu Cymru yn economi Cymru, economi, diwydiant a masnach Cymru yn ogystal ag anghenion buddsoddi BBaChau
- Gwybodaeth am Safonau Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru
- Cymhwyster marchnata cydnabyddedig (gradd neu ddiplomâu CIM/IDM o ddewis
- Trwydded yrru lawn
Ymgeisiwch
I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru
Fel rhan o'r cyfweliad byddwch yn perfformio asesiad ysgrifennu copi a chyfieithu sy'n para am 35 munud.