Swyddog datblygu portffolio

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog datblygu portffolio a fydd yn seiliedig yn Caerdydd. Cyflog cychwynnol o £50,000.

Pwrpas y swydd

Mae'r Swyddog Datblygu Portffolio yn gweithredu fel Rheolwr Buddsoddi'r Banc Datblygu ar gyfer portffolio o fuddsoddiadau ecwiti a, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad cyffredinol, yn gyfrifol am sicrhau'r adenillion mwyaf posibl ar fuddsoddiadau ecwiti portfolio.

Prif gyfrifoldeb y Swyddog Datblygu Portffolio fydd datblygu dealltwriaeth fanwl am gleientiaid portffolio a datblygu perthynas weithio agos â hwy. Yn ogystal, bydd y Swyddog Datblygu Portffolio yn gyfrifol am werthuso ceisiadau am unrhyw fuddsoddiadau dilynol, boed hynny drwy gymorth ecwiti, dyled neu fesanîn neu unrhyw gyfuniad o'r rhain.

Mae'r Swyddog Datblygu Portffolio yn gyfrifol am baratoi'r cwmni buddsoddi ar gyfer ei werthu / ymaddawiad y Banc Datblygu a rheoli'r broses ymadael ar ran y Banc Datblygu fel cyfranddeiliad.

Y Swyddog Datblygu Portffolio sydd hefyd yn gyfrifol am nodi a gwerthuso cyfleoedd buddsoddi ecwiti newydd ar gyfer y Banc Datblygu.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli buddsoddiadau ecwiti, gan gynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ddogfennau buddsoddi, e.e. cytundebau cyfranddalwyr, Erthyglau Cymdeithas a chyfamodau benthyciadau.
  • Datblygu cynlluniau strategol priodol gyda chytundeb y Rheolwr Datblygu Portffolio a'r Cyfarwyddwr Buddsoddi, Cymru er mwyn sicrhau bod yr enillion mwyaf posibl ar gyfer Grŵp y Banc Datblygu.
  • Lle bo'n briodol, cytuno / trafod y cynlluniau strategol hynny gyda bwrdd y cwmni sy'n buddsoddi / budd-ddeiliaid allweddol, gan ddefnyddio hawliau buddsoddi  cyfranddeiliaid y Banc Datblygu, rhwymedigaethau ariannol eraill neu sgiliau dylanwadu yn ōl yr angen.
  • Cynnal cyswllt rheolaidd â busnesau cleientiaid / aelodau'r bwrdd i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth gyfoes o fusnesau cleientiaid a meithrin perthynas gref â rheolwyr / byrddau. Dylai cyswllt o'r fath gael ei deilwra i ddiwallu anghenion pob cleient a bydd hynny'n cynnwys o leiaf bod yn bresennol mewn cyfarfodydd bwrdd. 
  • Adeiladu perthnasau gwaith agos yn fewnol a gyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaethau er mwyn cynyddu gwybodaeth am y farchnad a'r gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid portfolio
  • Lle bo'n briodol nodi a chyflenwi cymorth strategol a gweithredol uniongyrchol neu drydydd parti er mwyn gwella gwerth busnes y cleient
  • Cynhyrchu a chynnal dogfennaeth gywir ar gyfer holl weithgareddau cwmnïau cleientiaid.
  • Monitro ac asesu gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol er mwyn paratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio. Gwneud argymhellion cytbwys i'r uwch reolwyr neu bwyllgor buddsoddi lle mae angen rowndiau buddsoddi ychwanegol. Rheoli'r rowndiau buddsoddi ychwanegol hynny, gan gynnwys dogfennau cyfreithiol ac unrhyw ddiwydrwydd dyladwy angenrheidiol.
  • Cynhyrchu rhagolygon rheolaidd o brisiadau / enillion disgwyliedig ar gyfer Gwybodaeth Reolaethol (GRh) mewnol y Banc Datblygu.
  • Cynorthwyo'r cwmni buddsoddi wrth ei baratoi i gael ei werthu / ymadawiad y Banc Datblygu. Rheoli'r broses ymadael ar ran y Banc Datblygu.
  • Datblygu a gwella enw da'r Banc Datblygu fel darparwr buddsoddiadau proffesiynol.
  • Sicrhau bod yr holl ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cael ei gynnal yn unol â'r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol ar gyfer partïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall a all gael ei diffinio gan y Rheolwr Datblygu Portffolio i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni yn cael eu cynnal bob amser.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan gymhelliant gyda'r gallu i gymryd ymagwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyfforddus wrth ymdrin â gwaith sy'n hanfodol i gleientiaid ac sy'n sensitif i amser.
  • Yn canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chwrdd â thargedau.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a gweithdrefnau bwrdd
  • Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a llunio cynigion buddsoddi cytbwys
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol neu rifol tebyg ac yn benodol ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Profiad o brosiectau cynllunio busnes, cyngor strategol a chyllid corfforaethol (buddsoddiadau, caffaeliadau, gwaredu), gan weithio ar y cyd â byrddau cwmni.
  • Llythrennog mewn TG / PC ac yn meddu ar y gallu i ddefnyddio Pecynnau Microsoft Office
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu bum mlynedd o brofiad mewn diwydiant perthnasol
  • Trwydded yrru

Dymunol  

  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion busnesau bach a chanolig yng Nghymru

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais