Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Swyddog Gweithredol y Gwasanaethau Eiddo

Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Gweithredol y Gwasanaethau Eiddo sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd neu Wrecsam

Pwrpas y swydd 

Mae Swyddog Gweithredol y Gwasanaethau Eiddo yn gyfrifol am ddarparu cynlluniau a gwasanaethau cymorth a gweinyddu o dan swyddogaeth Gwasanaethau Eiddo Banc Datblygu Cymru. Er mwyn sicrhau darpariaeth effeithlon o ansawdd uchel, bydd cyfrifoldebau’r swydd yn plethu i mewn i’r meysydd canlynol: 

  • Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid. Mae’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn gronfa ‘cam-olaf’ sy’n helpu Lesddeiliaid i ddelio â materion diogelwch tân sy’n effeithio ar eu heiddo. Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r opsiwn i Lesddeiliaid all-brynu cartref, ac mae wedi’i anelu at y rhai sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol oherwydd materion diogelwch tân.

  • Mae Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn darparu benthyciadau ecwiti a rennir i bobl sy'n prynu eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i bobl brynu cartrefi sydd werth drwy adeiladwr sydd wedi cofrestru dan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru.

  • Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd. Nod y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yw rhoi pecynnau cyllido priodol i fusnesau er mwyn iddyn nhw allu gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio a fydd yn eu helpu i leihau costau a chefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol hirdymor Cymru ar gyfer sero net.

  • Cynlluniau Gwasanaethau Eiddo’r Dyfodol – Y bwriad yw integreiddio cynlluniau pellach yn y dyfodol, megis Ôl-osod Tai a Chymorth i Aros (sy’n esblygu o’r Cynllun Achub Morgeisi presennol).

  • Gwasanaethau cymorth a gweinyddu – Bydd y tîm Gwasanaethau Eiddo hefyd yn gyfrifol am wasanaethau cymorth ad hoc a pharhaus sy’n cael eu darparu i randdeiliaid mewnol. Dyma rai enghreifftiau:

    • Cynorthwyo’r gwaith o ddelio â chynnydd sydyn mewn ymholiadau dros y ffôn a thrwy e-bost yn ôl yr angen.

    • Cefnogi’r gwaith o weinyddu cynigion Banc Datblygu Cymru, fel glanhau data cyd-fuddsoddi ar gyfer Banc Busnes Prydain.

    • Cyflawni ac optimeiddio prosesau busnes parhaus, fel Effaith Portffolio a Ffurflenni Buddsoddi.

    • Unrhyw wasanaethau cymorth a gweinyddu pellach yn ôl yr angen yn y dyfodol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd gynnal perthynas waith agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid (ee, Lesddeiliaid, Benthycwyr, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gweithwyr proffesiynol trydydd parti, Banc Datblygu Cymru a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru) er mwyn sicrhau bod y Gwasanaethau Eiddo yn cael eu darparu yn ddidrafferth. 

Er mwyn sicrhau gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a bodloni meini prawf buddsoddi Banc Datblygu Cymru, bydd dealltwriaeth dda o gymhwysedd ac anghenion cwsmeriaid yn allweddol. Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rhyng-bersonol a datrys problemau datblygedig.  Mae gallu rhoi sylw i fanylion, ac agwedd ymarferol ragweithiol hefyd yn rhagofynion hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Bydd Swyddog Gweithredol y Gwasanaethau Eiddo hefyd yn meddu ar wybodaeth fanwl am feysydd mwy cymhleth y cynllun, a bydd yn gosod esiampl ar gyfer y tîm ehangach. Bydd ganddo hefyd gyfrifoldebau dros werthuso ansawdd, a gwirio cyd-aelodau o’r tîm er mwyn sicrhau’r lefelau uchaf o foddhad i gwsmeriaid. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd berfformio’n rhagorol yn gyson, yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cymorth technegol/uwchgyfeirio, gan weithio mewn modd sy’n cael effaith ac sy’n ychwanegu gwerth at eu tîm/adran.  

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Bod yn gyfrifol am reoli ceisiadau manwl, o’r camau cymhwysedd cychwynnol hyd at y cais llwyddiannus, gan sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir mewn cyflwr y gellir gweithredu arno a bod y dystiolaeth angenrheidiol wedi’i hatodi. 

  • Lle bo angen, bod yn gyfrifol am sgrinio ceisiadau yn ystod y camau cychwynnol. Cynnal ymchwil er mwyn gwneud asesiad ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid, gan ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.

  • Mynd ati’n rhyngweithiol i ddatblygu’n barhaus gan ddefnyddio meysydd a nodwyd drwy’r Sgôr Hyrwyddwr Net, adroddiadau perfformiad, gwirio cyd-aelodau a/neu ddadansoddiadau o wraidd y broblem.
  • Ymwybyddiaeth a defnydd ymarferol o gyfrifoldebau rheoleiddio a gofynion cwsmeriaid (h.y. – Dyletswydd Defnyddwyr, Agored i Niwed, Caledi Ariannol, a Thrin Cwsmeriaid yn Deg).
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy trylwyr a chadarn (bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn) wrth brosesu ceisiadau. Ymgymryd â’r cymhwysedd a’r fforddiadwyedd sy’n ofynnol yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru a’r cyfarwyddyd gan Reolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Eiddo.

  • Ymgymryd â’r gwaith o ddelio ag achosion, gan sgwrsio yn barhaus gydag ymgeiswyr, rhanddeiliaid a chydweithwyr ynghylch cynnydd a gweithgarwch.

  • Drafftio a chyhoeddi cyfarwyddiadau prisio; adolygu adroddiadau prisio, a chyfleu gwerth/cynigion arfaethedig i ymgeiswyr.

  • Rheoli portffolio o achosion byw gan amrywiaeth o wasanaethau a chynlluniau, an fonitro a rheoli cysylltiadau yn unol â gweithdrefnau ac yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Eiddo. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â Busnesau, Lesddeiliaid, Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol, a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn rheolaidd.

  • Hwyluso ceisiadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig am fenthyciadau, anfon manylion achos cywir at y Landlordiaid, a chadarnhau’r awdurdod i fwrw ymlaen. Paratoi a chyflwyno papurau sancsiynu benthyciadau i'w cymeradwyo (gan gynnwys Diwydrwydd Dyladwy Cwsmeriaid) Cyfarwyddo, adolygu a chyhoeddi llythyrau cynnig benthyciad fel y bo'n briodol.
  • Cyfarwyddo cyfreithwyr y panel ar COT a “First Charge”. Adolygu a choladu dogfennau COT a “tâl cyntaf”, cyn eu cyflwyno i Reolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Eiddo i'w cymeradwyo.

  • Datblygu a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid proffesiynol, gan gynnwys Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol, Cyfreithwyr, Priswyr, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, a Syrfewyr Meintiau. 

  • Cydlynu’r Gwaith Cwblhau – Cwblhau hysbysiadau tynnu i lawr, gwaith cyfreithiol, DDR a chwiliadau adolygu. 

  • Rheoli Prosesau ar ôl Cwblhau - Llunio a chydlynu hysbysebion cwblhau, trefnu i dalu am brisio, Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol, a ffioedd cyfreithiol drwy BACS. Gwirio Cofrestrfa Tir EM er mwyn sicrhau bod diogelwch wedi’i gofrestru’n briodol.

  • Darparu gwasanaeth cywir, cwrtais, brwdfrydig a phroffesiynol i’r holl randdeiliaid allanol a mewnol, ac ymateb yn briodol i bob ymholiad a dderbynnir drwy’r wefan, e-bost a ffôn.

  • Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb, a bod yn barod i ymdrin â sgyrsiau anodd gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol.

  • Sicrhau bod dogfennau cyfreithiol yn cael eu cwblhau, a bod yn ymwybodol o ofynion rheoleiddio priodol fel rhan o’r gwaith parhaus o reoli achosion.

  • Datblygu a chynnal gwybodaeth dechnegol sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn sicrhau arferion gorau a chydymffurfiaeth mewn gweithgareddau buddsoddi.

  • Mynd ati’n rhagweithiol i fonitro ceisiadau drwy lunio adroddiadau trylwyr.  Diweddaru cofnodion yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod lefelau cywirdeb yn cael eu cynnal ar y system rheoli cofnodion cleientiaid, gan adrodd yn ôl i’r Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Eiddo os oes unrhyw broblemau yn codi.

  • Ymgymryd ag unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan Reolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Eiddo er mwyn bodloni anghenion gweithredol y Gwasanaethau Eiddo. 

  • Yn unol â’r galw, bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfuno ei lwyth gwaith â chynlluniau eraill fel HtBW, GBLS a LSS.

  • Ystyried a bod yn ymwybodol o Ddyletswydd Defnyddwyr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol bob amser, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael canlyniadau da i’n cwsmeriaid drwy ymddwyn yn ddidwyll, osgoi niwed y gellir ei ragweld, a chefnogi a galluogi ein cwsmeriaid i gyflawni eu hamcanion ariannol.

  • Sicrhau bod ein cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn cael eu trin yn deg, a bod ein cynnyrch a’n gwasanaethau yn diwallu anghenion y cwsmeriaid hynny.

Gwybodaeth, Sgiliau, Galluoedd a Phrofiad 

Hanfodol 

  • Gallu cymell eich hun a dangos blaengaredd, a gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm. 
  • Dealltwriaeth o brosesau a gweithdrefnau asesu risg a chymhwysedd.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu cadarn.
  • Hyderus yn eich gallu i wneud penderfyniadau.
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau.
  • Lefel uchel o gywirdeb, a gallu rhoi sylw trylwyr i fanylion.
  • Yn hyddysg ym maes TG/cyfrifiaduron ac yn gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office.

Dymunol 

  • Profiad o fancio/rheoleiddio.
  • Profiad o ddatblygu eiddo
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol ac adroddiadau prisio.
  • Gallu siarad Cymraeg.
  • Trwydded yrru.

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i ein tudalen recriwtio