Telerau & Amodau - grant cydlynydd ôl-osod

Diffiniadau

Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Telerau a’r Amodau hyn atoch ‘chi’ neu ‘eich’ yn golygu perchennog / perchnogion eiddo (a chwsmer(iaid) cydlynydd ôl-osod penodol) sy’n dymuno cael budd o grant a dalwyd o dan y Cynllun. Mae unrhyw gyfeiriadau at “ni” neu “ninnau” yn golygu BDC.

Rhagymadrodd

Mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi gosod rhai mathau o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni a systemau gwresogi carbon isel mewn eiddo domestig yng Nghymru (sef y ‘Mesurau Cymwys’) a ddisgrifir yn Atodiad B o'r Telerau a’r Amodau hyn). Ariennir y Cynllun gan Lywodraeth Cymru (“LlC”) a chaiff ei weinyddu gennym ni.

1. Bydd y Grant Cydlynydd Ôl-osod yn cael ei gynnig i berchnogion eiddo cymwys (fel y'i diffinnir yn Atodiad A) er mwyn cael cefnogaeth Cydlynydd Ôl-osod fel y'i enwir yn y Llythyr CO drwy gydol Camau'r Cynllun.

2. Rhaid cyflwyno ceisiadau am daliadau o dan y Llythyr CO gyda'r holl wybodaeth ategol ofynnol ar gyfer pob Cam a datganiadau cyn i Gyfnod Dilysrwydd Grant y Cydlynydd Ôl-osod ddod i ben fel y disgrifir yn amodau 8 a 9 isod.

3. Mae'r Telerau a’r Amodau hyn yn berthnasol i dderbynwyr y Llythyr CO. Drwy lofnodi’r Llythyr CO, byddwch yn cadarnhau eich bod yn cytuno â’r Telerau a’r Amodau hyn sy’n berthnasol i’r trefniadau rhyngoch chi a Banc Datblygu Cymru mewn perthynas â’r Llythyr CO.

Gofynion cymhwysedd

4. Bydd Llythyr CO yn ddilys ddim ond ar gyfer, a gellir ddim ond ei ddefnyddio i hawlio Grant Cydlynydd Ôl-osod, pan fodlonir yr holl ofynion cymhwysedd canlynol :-

a. rhaid i chi a'r Eiddo a ddisgrifir yn Nhelerau Allweddol eich Llythyr CO fodloni'r gofynion cymhwyster a ddisgrifir yn Atodiad A i'r Telerau a’r Amodau hyn. Oni bai bod Atodiad A yn dweud fel arall, rhaid bodloni’r gofynion cymhwysedd hyn ar yr adeg y caiff y Llythyr ei anfon atoch;

b. rhaid i chi gyfarwyddo Cydlynydd Ôl-fosod sydd wedi'i gofrestru o dan Gynllun TrustMark Llywodraeth y DU (“TrustMark”) ac wedi'i gymeradwyo gennym ni o fewn 14 (pedwar diwrnod ar ddeg) o ddyddiad y Llythyr CO hwn ;

c. rhaid i chi roi gwybod i ni pa Gydlynydd Ôl-osod yr ydych wedi ei gyfarwyddo o fewn 24 awr i wneud hynny;

d. mae'n rhaid eich bod wedi derbyn ein cadarnhad ysgrifenedig yn cytuno i'r Cydlynydd Ôl-osod yr ydych wedi ei gyfarwyddo; a

e. rhaid i chi fod yn berchen ar yr Eiddo ac yn ei feddiannu ac mae'n rhaid i'r Eiddo fod wedi'i leoli yng Nghymru ar yr adeg y rhoddir y Llythyr CO i chi.

5. Ni fydd cymorth grant o dan y Cynllun yn daladwy ar gyfer unrhyw asesiad lle mae cymorth ariannol eisoes wedi'i dderbyn, neu a fydd yn cael ei dderbyn, o dan unrhyw gynllun grant cyhoeddus arall (gan gynnwys cynlluniau’r llywodraeth ganolog a chynlluniau awdurdodau lleol).

6. Bydd Llythyr Cynnig Grant Cydlynydd Ôl-osod:

a. ddim ond yn ddilys am y cyfnod penodol a ddisgrifir fel y Cyfnod Dilysrwydd Grant yn y Llythyr CO. Mae hyn yn golygu, ac eithrio lle rhoddir estyniad yn yr amgylchiadau eithriadol a ddisgrifir yn amod 12 isod, y bydd angen i'r Grant Cydlynydd Ôl-osod fod wedi'i dalu i'r Cydlynydd Ôl-osod cyn i Gyfnod Dilysrwydd y Grant ddod i ben;

b. ddim ond yn ddilys ar gyfer Cam 3 os gwnaed cais llwyddiannus am fenthyciad heb ei warantu sydd ar gael drwy'r Cynllun; a

c. bydd yn peidio â bod yn ddilys os caiff ei ganslo gan BDC neu unwaith y bydd taliad wedi’i wneud i Gydlynydd Ôl-osod.

7. Nid yw cyhoeddi a danfon Llythyr CO yn golygu bod gwybodaeth a ddarparwyd fel rhan o'ch cais wedi'i chymeradwyo nac ei chefnogi  mewn unrhyw ffordd gan BDC. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyflawn a'ch bod yn gallu bodloni’r gofynion cymhwysedd perthnasol. Hyd yn oed os ydych wedi cael Llythyr CO, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn gallu hawlio'r grant a nodir yn eich Llythyr CO. Bydd talu'r Grant yn ddarostyngedig y bodlonir gofynion amodau 8 a 9 isod.

Trefniadau Anfonebu

8. O fewn 14 diwrnod ar ôl i’r Cyfnod gofynnol a gwmpesir gan y Llythyr CO gael ei gwblhau’n foddhaol, ac o dan unrhyw amgylchiadau ddim hwyrach na 7 (saith) diwrnod cyn i Gyfnod Dilysrwydd y Grant ddod i ben, rhaid i chi gael y canlynol gan eich Cydlynydd Ôl-osod:

a. anfoneb a roddwyd gan y Cydlynydd Ôl-osod wedi'i gyfeirio atoch mewn perthynas â'r Cyfnod perthnasol (“Anfoneb”); ac yn ychwanegol

b. mewn perthynas â Cham 1, copi o'r Adroddiad Asesu Ôl-osod a'r Adroddiadau Argymhellion;

c. mewn perthynas â Cham 3, cadarnhad bod eich benthyciad anwarantedig wedi’i dynnu i lawr a’i ddefnyddio i dalu am osod y Mesurau Cymwys, cadarnhad bod y gosodiadau angenrheidiol wedi’u cyflwyno i TrustMark, a chadarnhad bod y Cydlynydd Ôl-osod wedi cofrestru’r adroddiadau gwerthuso ôl-osod perthnasol fel sy'n ofynnol gan y Cynllun;

ac mae'n rhaid i chi, neu'ch Cydlynydd Ôl-osod ar eich rhan, anfon pob Anfoneb a’r dogfennau perthnasol at BDC mewn perthynas â hawlio'r Grant ar gyfer pob Cam. Ar ôl i BDC dderbyn pob dogfen ar gyfer pob Cam priodol, rydych yn cytuno i ganiatáu i BDC setlo’r Anfoneb yn uniongyrchol i’r Cydlynydd Ôl-osod, yn unol ag amod 9 isod.

Taliad grant

9. Lle rydych wedi cwblhau'r camau a nodir yn amod 8 uchod a:-

a. bod eich Cydlynydd Ôl-osod yn parhau i fod wedi'i gofrestru yn unol ag amod 4 uchod;

b. bod BDC yn rhesymol fodlon bod yr holl ofynion angenrheidiol eraill sy’n codi o dan y Telerau a’r Amodau hyn wedi’u bodloni a’u cynnwys yn y Llythyr CO; a

c. bod Banc Datblygu Cymru yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud y taliad,

Bydd BDC, o fewn 10 (deg) diwrnod o dderbyn yr Anfoneb a’r dogfennau a dderbyniwyd ar gyfer y Cyfnod perthnasol fel y’i rhestrir yn amod 8 uchod, yn talu’r Anfoneb (hyd at uchafswm cyfanred sy’n hafal i Gyfanswm Swm y Grant ar gyfer y Cyfnod perthnasol fel yr amlinellwyd. yn y Llythyr CO).

10. Os yw'r swm sy'n ofynnol i dalu'r Anfoneb berthnasol yn llai na Chyfanswm y Grant ar gyfer y Cyfnod perthnasol fel yr amlinellir yn y Llythyr CO, ni fydd gennych hawl i unrhyw swm sy'n weddill. Os yw’r swm sydd ei angen i dalu’r Anfoneb yn fwy na Chyfanswm y Grant, bydd gofyn i chi dalu unrhyw swm ychwanegol i’r Cydlynydd Ôl-osod.

Newidiadau i'ch amgylchiadau

11. Rhaid i chi sicrhau bod y wybodaeth a roddwch i BDC yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol. Os oes unrhyw newid i unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych yn flaenorol i BDC, rhaid i chi roi gwybod i BDC am y newid hwn o fewn 7 (saith) diwrnod o ddod yn ymwybodol ohono. Gall newidiadau i unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych yn flaenorol, os ydym yn meddwl eu bod yn newid yr amgylchiadau sy’n berthnasol i’r Cynnig Grant yn sylweddol, arwain at ganslo’r Llythyr Cynnig Grant.

12. Os hoffech newid y Cydlynydd Ôl-osod ar unrhyw adeg yn ystod unrhyw Gyfnod o'r Cynllun a gwmpesir gan y Llythyr CO hwn, rhaid i chi gysylltu â BDC a dweud wrthym am y newid arfaethedig. Bydd Banc Datblygu Cymru wedyn yn cadarnhau ei fod yn cytuno â'r newid. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Banc Datblygu Cymru yn cytuno i’r newid, yn enwedig, pe bai’r newid yn arwain at swm ychwanegol o Grant Cydlynydd Ôl-osod yn daladwy o dan y Llythyr CO. Fodd bynnag, os bydd BDC yn cytuno i’r newid, bydd yn ôl ei ddisgresiwn yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi yn cadarnhau’r newid i Gydlynydd Ôl-osod. Bydd unrhyw hysbysiad yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r Telerau a’r Amodau hyn.

12. Os byddwch, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'ch rheolaeth resymol chi, yn ystyried na fydd Anfoneb ddilys yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd tymor y Llythyr CO, gallwch gysylltu â BDC a gofyn am estyniad i dymor y Llythyr CO. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd BDC yn cytuno i’r estyniad y gofynnir amdano, ond os bydd yn cytuno i hyn, bydd yn cadarnhau’n ysgrifenedig Gyfnod Dilysrwydd Grant newydd y Llythyr CO.

Canslo Llythyr Cynnig Grant Cydlynydd Ôl-osod ac Adennill Grant

13. Gall BDC ganslo Llythyr CO a/neu atal (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) taliad Cyfanswm y Grant os oes gan BDC sail resymol dros gredu bod unrhyw un o’r amgylchiadau a ganlyn yn berthnasol:-

a. bod Cyfnod Dilysrwydd y Grant wedi dod i ben heb i Anfoneb gael ei chyflwyno yn unol â’r Telerau a’r Amodau;

b. ni fodlonwyd unrhyw ofynion cymhwyster perthnasol y cyfeirir atynt yn y Telerau a’r Amodau hyn ar yr adeg yr oedd angen eu bodloni o dan y Telerau a’r Amodau hyn;

c. nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r Telerau a’r Amodau hyn;

d. os yw eich Cydlynydd Ôl-osod wedi peidio â bod yn gofrestredig â “Trustmark” (neu nad oedd erioed wedi'i gofrestru felly);

e. rydych chi neu'ch Cydlynydd Ôl-osod neu unrhyw un o'u swyddogion, cyflogeion, asiantau neu isgontractwyr sy'n gysylltiedig â'r Cydlynydd Ôl-osod wedi gwneud unrhyw ddatganiad ffug neu wedi cyflawni unrhyw dwyll mewn cysylltiad â'r Llythyr CO;

f. y bu unrhyw gydgynllwynio amhriodol rhyngoch chi a'ch Cydlynydd Ôl-osod neu unrhyw un o'i swyddogion, cyflogeion, asiantau neu isgontractwyr; neu

g. mae'n angenrheidiol i'r Llythyr CO gael ei ganslo a / neu i'r Grant gael ei atal (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) i gydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau perthnasol.

14. Os yw BDC yn bwriadu canslo Llythyr CO a / neu atal taliad unrhyw Grant, bydd BDC yn dweud wrthych am y bwriad hwn. Yna cewch gyfle i gyflwyno sylwadau o fewn cyfnod rhesymol i BDC cyn i BDC wneud ei benderfyniad terfynol.

15. Os byddwch yn penderfynu, ar ôl derbyn Llythyr CO, na fyddwch yn bwrw ymlaen â'r Camau a gwmpesir ganddo, rhaid i chi gysylltu â BDC cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a'i hysbysu o'ch penderfyniad. Yna bydd gan BDC yr hawl i ganslo'r Llythyr CO.

16. Pan wneir unrhyw daliad Grant a bod sail resymol i BDC benderfynu wedyn :-

a. gwnaethoch unrhyw ddatganiad ffug neu os ydych wedi cyflawni, neu'n fwriadol yn rhan o unrhyw dwyll yn ymwneud â'r taliad hwnnw;

b. bod unrhyw gydgynllwynio amhriodol rhyngoch chi a / neu eich Cydlynydd Ôl-osod neu unrhyw un o'i swyddogion, cyflogeion, asiantau neu isgontractwyr;

c. na wnaethoch chi a / neu eich Eiddo, ar yr adeg yr oedd angen eu bodloni, fodloni unrhyw un o'r gofynion cymhwysedd perthnasol sy'n berthnasol i chi a / neu eich Eiddo; a / neu

d. nad ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw un o’r Telerau a’r Amodau hyn ac mae’r methiant hwnnw’n ddigon difrifol i gyfiawnhau hawlio’r Grant yn ôl oddi wrthych,

Bydd gan BDC yr hawl (heb effeithio ar unrhyw hawl arall sydd ganddo) i gysylltu â chi er mwyn dweud wrthych am swm y taliad Grant perthnasol y mae BDC yn ystyried na ddylai gael ei dalu i’r Cydlynydd Ôl-osod ac i fynnu ad-daliad o’r swm hwnnw gennych chi. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi dalu’r swm dan sylw i BDC o fewn 14 diwrnod i gael gwybod am y swm hwnnw a’r gofyniad i’w dalu. Mewn achos o daliad hwyr, bydd llog yn daladwy ar y swm sy’n ddyledus ar gyfradd o 2.5% uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o ddiwedd y cyfnod hwn o 14 diwrnod tan y dyddiad y byddwch yn ei ad-dalu’n llawn.

Cwynion

17. Os ydych yn anhapus gydag unrhyw un o’r penderfyniadau a wnaed gan BDC o dan y Telerau a’r Amodau hyn, gan gynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â diwygio neu ganslo Llythyr CO neu dalu unrhyw ran o Gyfanswm y Grant, cysylltwch â BDC a gofyn am copi o'r drefn gwyno.

Cadw cofnodion

18. Rhaid ichi gadw copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn amod 8 uchod hyd nes y bydd o leiaf 6 (chwe) blynedd wedi mynd heibio ers y dyddiad y talwyd Cyfanswm y Grant. Os gofynnir i chi wneud hynny ar unrhyw adeg, rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig BDC a / neu LlC archwilio a gwneud copïau o’r dogfennau hyn.

Cyfrifoldeb y cydlynydd Ôl-osod

19. Chi sy'n gyfrifol am ddewis Cydlynydd Ôl-osod priodol sy’n meddu ar y cymwysterau addas ac sydd ag enw da. Nid yw cofrestru Cydlynydd Ôl-osod o dan y Cynllun TrustMark neu ddyfarnu Llythyr CO yn rhoi sicrwydd gan BDC neu LlC ynghylch addasrwydd neu gymhwysedd y Cydlynydd Ôl-osod i wneud unrhyw waith yn eich Eiddo.

20. Os oes gennych unrhyw gwynion am unrhyw beth a wnaed (neu nas gwnaed) gan eich Cydlynydd Ôl-osod neu unrhyw un o'i swyddogion, cyflogeion, asiantau neu isgontractwyr, dylech godi'r rhain gyda'ch Cydlynydd Ôl-osod neu gysylltu fel arall â'r sefydliad perthnasol sy'n rhedeg y cynllun cofrestru perthnasol y mae eich Cydlynydd Ôl-osod yn aelod ohono.

Cyfyngu ar atebolrwydd

21. Mae dyfarnu Llythyr CO o dan y Cynllun yn ddewisol a (heb effeithio ar unrhyw hawl i apelio a allai fod gennych) ni fydd gennych hawl i iawndal gan BDC na LlC am unrhyw gostau neu golledion a ddaw i’ch rhan o ganlyniad i unrhyw wrthod cais am Lythyr CO neu unrhyw oedi wrth ei brosesu neu unrhyw wrthodiad i unrhyw gais am daliad mewn perthynas â’r Cynnig Grant.

22. Ni fydd Banc Datblygu Cymru na LlC yn atebol am unrhyw gostau neu golledion y byddwch yn mynd iddynt oherwydd:

a. unrhyw oedi gan BDC wrth gyhoeddi Llythyr CO;

b. unrhyw oedi neu ddiffygion yn y gwasanaethau a ddarperir gan y Cydlynydd Ôl-osod yn eich Eiddo;

c. unrhyw esgeulustod neu unrhyw beth arall a wnaed (neu nas gwnaed) gan eich Cydlynydd Ôl-osod;

d. anallu neu fethiant y Cydlynydd Ôl-osod i dalu iawndal i chi lle bo'n briodol; a  /neu

e. unrhyw fethiant neu oedi gan BDC mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun.

23. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod telerau eich contract gyda'ch Cydlynydd Ôl-osod fel a ganlyn yn:

a. nodi y telir am ran neu’r cyfan (fel y bo’n berthnasol) o gost y Cydlynydd Ôl-osod drwy Grant a gynigir o dan y Llythyr CO perthnasol (yn hytrach na’i fod yn daladwy gennych chi) fel y’i hystyrir yn y Telerau a’r Amodau hyn;

b. eich diogelu rhag atebolrwydd i’r Cydlynydd Ôl-osod os nad yw’r Cydlynydd Ôl-osod yn gallu hawlio taliad iddo o dan y Llythyr CO am unrhyw reswm heblaw eich methiant i gydymffurfio â’r Telerau a’r Amodau hyn.

c. ei gwneud yn ofynnol i’r Cydlynydd Ôl-osod gwblhau’r adroddiadau angenrheidiol fel sy’n ofynnol o dan y Camau, mewn da bryd cyn diwedd Cyfnod Dilysrwydd y Grant i alluogi talu’r Grant ar neu cyn diwrnod olaf Cyfnod Dilysrwydd y Grant, i safon broffesiynol gan bersonél â chymwysterau addas ac yn unol â'r safonau ardystio perthnasol,

ac os byddwch yn methu â gwneud hynny, ni fydd BDC yn atebol i chi am unrhyw gostau neu golledion y byddwch yn mynd iddynt o ganlyniad.

24. Ni fydd BDC yn atebol i chi am unrhyw golledion busnes neu golli rhent sut bynnag yr achoswyd hynny.

25. Ni fydd BDC yn torri’r Telerau a’r Amodau hyn nac yn atebol am oedi wrth gyflawni, neu fethiant i gyflawni, unrhyw un o’i rwymedigaethau oddi tanynt os yw oedi neu fethiant o’r fath yn deillio o ddigwyddiadau, amgylchiadau neu achosion y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

26. Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau a’r Amodau hyn yn cael yr effaith o eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd BDC neu LlC am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan (yn y drefn honno) esgeulustod BDC neu LlC neu (yn y drefn honno) unrhyw dwyll neu gamliwio twyllodrus gan BDC neu LlC, neu unrhyw fater arall na ellir, yn ôl y gyfraith, ei eithrio neu ei gyfyngu.

Amrywiol

27. Diogelu Data - Bydd BDC yn casglu, prosesu a chadw data personol a ddarperir gennych chi yn unol â Pholisi Preifatrwydd BDC, sydd i'w weld ar wefan BDC [ INSERT PRIVACY LINK HERE ]. Os ydych yn pryderu bod BDC yn cadwo gwybodaeth amdanoch sy’n anghywir, cysylltwch â BDC gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir ym Mholisi Preifatrwydd BDC, a bydd yn cywiro eich manylion cyn gynted â phosibl. Mae mesurau diogelwch wedi’u rhoi ar waith i ddiogelu eich data personol rhag mynediad gan bobl di-awdurdod, ac mae mesurau diogelu wedi’u rhoi ar waith i ddiogelu trosglwyddiadau o’ch data personol i drydydd partïon awdurdodedig at ddibenion cyflawni’r Cynllun.

28. Hawliau trydydd parti -

a. Ac eithrio fel yr eglurir yn is-baragraff b. isod, ni fydd gan berson nad yw’n barti i’r Llythyr CO y mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn rhan ohono unrhyw hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw ddarpariaeth ynddynt.

b. Bydd gan LlC yr hawl i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau a’r Amodau hyn neu’r Llythyr CO cysylltiedig sy’n rhoi budd i LlC yn benodol neu drwy oblygiad.

29. Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau – ni fydd gennych unrhyw hawl i drosglwyddo i unrhyw un arall unrhyw un o'ch hawliau neu rwymedigaethau o dan y Telerau a’r Amodau hyn a  /neu unrhyw Lythyr CO. Bydd gan BDC yr hawl i drosglwyddo ei holl hawliau a rhwymedigaethau o dan y Telerau a’r Amodau hyn a/neu unrhyw Lythyr CO i LlC neu i unrhyw gontractwr newydd a benodir gan LlC i weinyddu’r Cynllun ac, os gofynnir i chi wneud hynny ar unrhyw adeg, chi ymrwymo i unrhyw ddogfennau y mae BDC neu LlC yn rhesymol yn gofyn i chi eu gwneud er mwyn rhoi effaith lawn i drosglwyddiad o’r math hwn.

30. Hepgor - os na fyddwch yn cydymffurfio ag unrhyw un o'r Telerau a’r Amodau hyn ac nad yw BDC yn ymateb nac yn cymryd unrhyw gamau ar unwaith ar ôl dod yn ymwybodol o'r mater, nid yw hyn yn golygu na all gymryd camau yn y dyfodol.

31. Dilysrwydd - os bydd llys neu awdurdod arall yn dweud wrth BDC nad yw unrhyw ran o’r Telerau a’r Amodau hyn yn ddilys, ni fydd gweddill y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu heffeithio.

32. Cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth – bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan, ac i’w dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, a byddant hwy ac unrhyw anghydfod sy’n codi oddi tanynt neu mewn cysylltiad â hwy yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw y llysoedd Cymru a Lloegr.

Atodiad A – Gofynion Cymhwysedd

I wneud cais am y Llythyr ac ”adbrynu” y Grant Cydlynydd Ôl-osod, rhaid i'r ymgeisydd fod yn berchen ar ei gartref, sy'n Eiddo Cymwys. Eiddo Cymwys yw Eiddo sydd yn:

Gartref perchen-feddiannaeth (perchnogion tai, sydd â buddiant rhydd-ddaliadol neu lesddaliad hir mewn llety y maent yn berchen arno’n llwyr, neu’n berchen arno gyda morgais) sydd wedi’i leoli yng Nghymru.

Ond heb gynnwys:

Unrhyw eiddo newydd sydd heb gael ei feddiannu o'r blaen yn ystod y 6 mis diwethaf o ddyddiad y cais.

Eiddo annomestig.

Landlordiaid eiddo domestig yn y sector rhentu preifat.

Landlordiaid eiddo domestig yn y sector cymdeithasol.

Eiddo y tu allan i Gymru.

Eiddo sydd wedi'u rhestru neu sydd mewn Ardal Gadwraeth sydd angen caniatâd ychwanegol i wneud gwaith.

Atodiad B – Mesurau cymwys

Mae Mesurau Cymwys fel a ganlyn:

Uwchraddiadau systemau gwresogi ("Pwmp Gwres yn barod") Tymheredd isel

Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer (net o BUS)

Pwmp Gwres o'r Ddaear (net o BUS)

Gwresogyddion storio Cadw Gwres Uchel

Boeler biomas

Solar PV Heulol

Batri (ar gyfer solar heulol)

Solar Thermol Heulol

Inswleiddiad Wal Allanol

Inswleiddiad Wal Solet

Gwydro Perfformiad Uchel (o sengl)

Inswleiddio Llawr

To fflat neu ystafell mewn inswleiddio to

Gwydredd Perfformiad Uchel (o ddwbl)

Inswleiddio Waliau Ceudod

Inswleiddiad Atig ”Cychwynnol" (o 0mm)

Inswleiddiad Atig ”Atodol" (o 125mm)

Prawfesur drafft

Awyru (rheoli lleithder)

Rheolyddion gwres a systemau rheoli ynni cartref clyfar