UK Health Tech 2017

Bydd yr uwch swyddog buddsoddi mentrau technoleg Richard Thompson yn bresennol yn y chweched gynhadledd UK Health Tech flynyddol, a fydd yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr.

Disgwylir i dros 300 o gynrychiolwyr ddod at ei gilydd i ddeall tueddiadau strategol critigol a fydd yn effeithio ar eu busnesau. Mae'r digwyddiad yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf gan arweinwyr barn allweddol yn ogystal â chyfle unigryw i ymgysylltu â diwydiant, rheoleiddwyr, y gymuned glinigol a chyrff cyllido.

Dewch draw i gwrdd â Richard i gael gwybod am y cyfleoedd ariannu y gall Banc Datblygu Cymru eu darparu i fusnesau technegol newydd a chwmnïau uwch-dechnoleg sy'n gyfoethog mewn ED sy'n bodoli eisoes. Gallwch hefyd gwrdd â chwmnïau blaenllaw ac arweinwyr barn allweddol o'r cymunedau academaidd a chlinigol.

 

Pwy sy'n dod

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi