Uwch swyddog monitro portffolio

Rydyn ni am recriwtio uwch swyddog monitro portffolio i weithio o Gaerdydd neu Lanelli.

Pwrpas y swydd

Rheoli buddsoddiadau portffolio o faint mwy a rhai mwy cymhleth Banc Datblygu Cymru. Trwy fonitro buddsoddiadau dyled portffolio yn rhagweithiol, anelu at leihau'r risg o golled ariannol i'r Banc Datblygu.

Bydd angen i ddeiliad y swydd adeiladu perthnasoedd gwaith agos yn fewnol a gyda chyflwynwyr busnes allanol a darparwyr gwasanaeth i gynyddu eu gwybodaeth am y farchnad a’u gallu i ddarparu gwerth ychwanegol i gleientiaid portffolio. Bydd dealltwriaeth gynhwysfawr o bortffolio deiliad y swydd yn cael ei gynnal trwy fonitro a chysylltu arferol. Lle nodwyd bod buddsoddiadau naill ai mewn perygl neu yn rhai sydd â photensial sylweddol i dyfu, byddwch yn gwneud y croesgyfeiriadau addas at y tîm portffolio mwyaf priodol.

Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am werthuso ac asesu ceisiadau am fuddsoddiadau dilynol, p'un ai trwy gymorth ecwiti, dyled neu mesanîn neu unrhyw gyfuniad o'r rhain.

Bydd yr Uwch Swyddog Portffolio yn darparu cefnogaeth rheoli tîm i'r Rheolwr Portffolio, ynghyd â rheoli llinell a rhoi arweiniad i swyddogion portffolio.

Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ddirprwyo ar ran y Rheolwr Portffolio ar brydiau.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Ymgymryd â rheolaeth portffolio o'r buddsoddiadau dyled o faint mwy a’r rhai mwy cymhleth.
  • Datblygu cynlluniau gweithredu priodol yn annibynnol i sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar gyfer Grŵp y Banc Datblygu.
  • Cynnal cyswllt arferol â busnesau cleientiaid i sicrhau dealltwriaeth gyfoes o bob busnes a meithrin perthnasoedd cryf â'r rheolwyr. Dylai cyswllt o'r fath gael ei deilwra i weddu i anghenion pob cleient a gall gynnwys mynychu cyfarfodydd bwrdd.
  • Monitro ac asesu gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol i baratoi adroddiadau angenrheidiol ar berfformiad cwmnïau portffolio. 
  • Chwilio am gyfleoedd i ddarparu ceisiadau dilynol a gwerthuso'r ceisiadau. Paratoi adroddiadau lle bo hynny'n briodol, gan argymell buddsoddiadau i'r rheolwr Portffolio, y Cyfarwyddwr Portffolio a'r Pwyllgor buddsoddi.
  • Adeiladu, datblygu a chynnal rhwydwaith o gysylltiadau i alluogi trywydd sy’n ychwanegu gwerth ar gyfer cwsmeriaid portffolio.
  • Rheoli ac ysgogi swyddogion portffolio o fewn y tîm, darparu hyfforddiant, arweiniad a buddsoddiad neu ail strwythuro cymeradwyaeth lle bo angen.
  • Datblygu a gwella enw da Banc Datblygu Cymru fel darparwr buddsoddiadau proffesiynol.
  • Sicrhau bod yr holl ryngweithio â chyrff ac aelodau mewnol ac allanol yn cael ei gynnal yn unol â safonau uchaf gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn sicrhau adborth amserol i bartïon priodol.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan y Rheolwr Portffolio i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran, gan sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder buddsoddwyr y Cwmni yn cael eu cynnal bob amser.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Yn meddu ar hunan gymhelliant a’r gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio’n effeithlon heb oruchwyliaeth. Yn gyffyrddus wrth ymdrin â gwaith sy’n sensitif i gleientiaid sy’n hanfodol i amser.
  • Yn gallu canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Y gallu i flaenoriaethu a threfnu gwaith dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Sgiliau datrys problemau cryf.
  • Dealltwriaeth fanwl o fuddsoddiadau benthyciadau sy’n fwy cymhleth
  • Dealltwriaeth o gyfraith cwmnïau a gweithdrefnau bwrdd
  • Y gallu i asesu cynigion buddsoddi a llunio cynigion buddsoddi cytbwys
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd rhifog ariannol neu debyg ac yn benodol ymwybyddiaeth neu brofiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol
  • Llythrennol mewn TG / PC gyda'r gallu i ddefnyddio Pecynnau Microsoft Office
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol neu o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant
  • Trwydded Yrru

Dymunol

  • Yn gallu siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o faterion sydd a wnelo BBaCh yng Nghymru

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru